Senedd Member for Vale of Clwyd, and Shadow Cabinet Secretary for Culture, Tourism, Sport, and North Wales, Gareth Davies, visited Glamorgan County Cricket Club in Cardiff alongside North Wales Senedd Member Sam Rowlands MS.
The Senedd members paid a visit to Wales’ only county cricket club, situated in the sublime Sophia Gardens, for a meeting with the club’s senior management to discuss how the sport can be better supported in Wales, how it can be made accessible to all young people across the country, and how it can be reintroduced to North Wales.
Glamorgan have staged Championship matches at Colwyn Bay since the 1960s. However, since the Covid pandemic, home fixtures in 2020 and 2021 were held at their Sophia Gardens headquarters for logistical reasons, and they haven’t returned to Colwyn Bay since. Glamorgan are keen to continue playing games in North Wales, with alternative venues also being considered.
They began discussions with Glamorgan’s senior leadership by discussing returning the sport to North Wales, with a reasonable possibility of this happening when all parties involved are brought together. They also discussed the wider lack of cricket facilities in Wales, with all agreeing on the need for further investment across the country.
A lack of cricket education in schools was also identified, with a lack of investment from the Welsh Government, many schools are dropping it from the curriculum. Both Members also shared disappointment that talented young cricketers often move to teams in England due to the lack of opportunities in Wales. However, the MSs were pleased to learn that promising young players are increasingly hailing from North Wales, highlighting the importance of regional investment in the sport.
Glamorgan are also involved in an excellent outreach programme, with coaches visiting schools, and pupils reportedly taking to the sport instantly. Yet, limited funding means the programme is currently restricted to a small area in South Wales. Both Members expressed a desire to expand the sport across the country, particularly in North Wales, and voiced their intention to encourage the Welsh Government to invest in bringing the sport to state schools, expanding the profile of cricket in Wales, and retaining cricketing talent in the area.
Commenting following the visit, Gareth Davies MS said:
It was an absolute pleasure to visit Glamorgan County Cricket Club at their stunning grounds in Sophia Gardens.
As the only Welsh county cricket club, they are truly committed to expanding the sport across Wales, and it was a real eye-opener learning just how neglected the sport has been.
There’s been a total a lack of investment in cricketing facilities in North Wales despite the region producing the lion’s share of young cricketing talent.
We need to see the Welsh Government stump up the cash to ensure the sport is passed on to the next generation.
I’m also confident that by bringing all parties together, we can once again see professional cricket played in North Wales.
Sam Rowlands MS added:
As Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism I am always keen to attract even more visitors to North Wales and have called on the Welsh Government to do more to encourage major sporting events to be held in North Wales.Recently I expressed my disappointment at the loss of county cricket and under-20s international rugby, which were often a regular occurrence in North Wales.
They attracted thousands of spectators during their time and it does not seem right that people in my region have to travel hundreds of miles to South Wales to see major sporting events.
Aelodau o’r Senedd dros y Gogledd am weld criced proffesiynol yn dychwelyd i’r rhanbarth
Ymwelodd yr Aelod o'r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, ac Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, Twristiaeth, Chwaraeon a Gogledd Cymru, Gareth Davies, â Chlwb Criced Sir Morgannwg yng Nghaerdydd, yng nghwmni’r Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, Sam Rowlands AS.
Ymwelodd yr Aelodau o’r Senedd â'r unig glwb criced sirol yng Nghymru, sydd wedi'i leoli yng Ngerddi Sophia, i gyfarfod gydag uwch reolwyr y clwb ac i drafod sut y gellir cefnogi'r gamp yn well yng Nghymru, sut y gellir ei gwneud yn hygyrch i bob person ifanc ledled y wlad, a sut y gellir ei hailgyflwyno i’r Gogledd.
Mae Morgannwg wedi cynnal gemau Pencampwriaeth ym Mae Colwyn ers yr 1960au. Fodd bynnag, ers pandemig Covid, cafodd eu gemau cartref yn 2020 a 2021 eu cynnal yn eu pencadlys yng Ngerddi Sophia am resymau ymarferol, a dydyn nhw ddim wedi dychwelyd i Fae Colwyn ers hynny. Mae Morgannwg yn awyddus i barhau i chwarae gemau yn y Gogledd, gyda lleoliadau amgen hefyd yn cael eu hystyried.
Dechreuwyd y trafodaethau gydag uwch arweinwyr Morgannwg trwy drafod dychwelyd y gamp i’r Gogledd, gyda phosibilrwydd rhesymol y bydd hyn yn digwydd pan fydd yr holl bartïon dan sylw wedi cael eu dwyn ynghyd. Trafodwyd hefyd y diffyg cyfleusterau criced ehangach yng Nghymru, gyda phawb yn cytuno bod angen buddsoddiad pellach ledled y wlad.
Nodwyd diffyg addysg criced mewn ysgolion hefyd, gyda diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod llawer o ysgolion yn ei ollwng o'r cwricwlwm. Roedd y ddau Aelod hefyd yn rhannu’r siom bod cricedwyr ifanc talentog yn aml yn symud i dimau yn Lloegr oherwydd diffyg cyfleoedd yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd yr ASau yn falch o glywed bod mwy a mwy o chwaraewyr ifanc addawol yn cael eu meithrin yn y Gogledd, gan dynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddiad rhanbarthol yn y gamp.
Mae Morgannwg hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglen allgymorth ardderchog, gyda hyfforddwyr yn ymweld ag ysgolion, a disgyblion yn gwirioni ar y gamp. Ac eto, mae cyllid cyfyngedig yn golygu bod y rhaglen wedi'i chyfyngu i ardal fechan yn y De ar hyn o bryd. Mynegodd y ddau Aelod awydd i ehangu'r gamp ledled y wlad, yn enwedig y Gogledd, gan fynegi eu bwriad i annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yng nghyflwyniad y gamp i ysgolion gwladol, ehangu proffil criced yng Nghymru, a chadw talent criced yn yr ardal.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Gareth Davies AS:
Roedd yn bleser mawr ymweld â Chlwb Criced Sir Morgannwg yn eu cartref trawiadol yng Ngerddi Sophia.
Fel unig glwb criced sirol Cymru, maen nhw'n wirioneddol ymrwymedig i ehangu'r gamp ledled Cymru, ac roedd yn agoriad llygad go iawn dysgu i ba raddau mae’n cael ei esgeuluso.
Mae diffyg buddsoddiad mewn cyfleusterau criced yn y Gogledd, er bod y rhanbarth yn cynhyrchu cyfran fawr o’r doniau criced ifanc.
Mae angen i ni weld Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r arian i sicrhau bod y gamp yn cael ei phasio mlaen i'r genhedlaeth nesaf.
Rwy'n hyderus hefyd, trwy ddod â phob ochr at ei gilydd, y gallwn weld criced proffesiynol yn cael ei chwarae yn y Gogledd unwaith eto.
Ychwanegodd Sam Rowlands AS:
Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rydw i bob amser yn awyddus i ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i’r Gogledd ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i annog digwyddiadau chwaraeon mawr i ddod i’r Gogledd.
Yn ddiweddar mynegais fy siom am golli criced sirol a rygbi rhyngwladol dan 20 oed, a oedd ill dau yn ddigwyddiadau rheolaidd yn y Gogledd.
Roedden nhw’n denu miloedd o wylwyr ac mae’n annheg fod pobl yn fy rhanbarth yn gorfod teithio cannoedd o filltiroedd i’r De i weld digwyddiadau chwaraeon mawr bob tro.