
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that Wrexham University continues to promote the upcoming National Eisteddfod in the city.
In the run up to this major cultural event the university has announced that it will be hosting a special concert next month featuring stars from the Eisteddfod.
Mr Rowlands said:
I am really pleased to see the university getting more involved in this major event by holding a special afternoon concert featuring prize winning singers from the Eisteddfod.
Only last month they announced that it was the headline sponsor for the Maes B - the Welsh medium music festival aimed at young people which takes place alongside the National Eisteddfod in August.
It is all great news and a very exciting time for Wrexham and for North Wales as the National Eisteddfod will certainly be attracting visitors from far and wide. I am sure this will have a positive effect for the city and businesses.
The university is hosting an afternoon of music from esteemed singers, who have won the most prestigious prizes at the National Eisteddfod.
The afternoon of music will feature Erin Rossington, Llinos Haf Jones, Rhys Meirion, and Brian Hughes as accompanist, on Sunday, March 23 at 3pm at the William Aston Hall.
Brian Hughes is an Honorary Fellow of the University – and one of the most important choral composers living in Wales today.
Speaking ahead of the concert, Elen Mai Nefydd, Head of Welsh Development at Wrexham University – and also the 2025 Eisteddfod’s Deputy Chair (Culture), said:
This event is an excellent opportunity to showcase the incredible musical talent that Wales has to offer.
We were absolutely delighted when our Honorary Fellow, Brian Hughes approached us to ask whether as a university we’d be supportive of hosting an event of this kind in the lead-up to the National Eisteddfod.
Not only is it a chance to enjoy some wonderful music on a Sunday afternoon but it’s also another way of demonstrating our commitment to supporting the Eisteddfod taking place in Wrexham this summer. It’s an extremely exciting time, particularly as the festival draws closer.
It’s important to note that this event – and the music being performed – isn’t solely in the medium of Welsh.
Professor Joe Yates, Vice-Chancellor of Wrexham University, added:
As excitement builds in the city ahead of the National Eisteddfod, it is our enormous pleasure and privilege to be hosting an afternoon with the stars of the Eisteddfod.
This concert and cultural festivals such as the National Eisteddfod are a powerful showcase of culture and community, and contribute to the future prospects of culture in Wales.
As a university, we are thrilled to have collaborated with our Honorary Fellow, Brian Hughes and Theatr Clwyd to bring this special afternoon of music to Wrexham.
A percentage of profits from the concert will go to the Wrexham National Eisteddfod fund.
Sam Rowlands wrth ei fodd i glywed am gefnogaeth barhaus prifysgol yn y Gogledd i’r Eisteddfod
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi croesawu'r newyddion bod Prifysgol Wrecsam yn parhau i hyrwyddo'r Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn ymweld â’r ddinas.
Yn y cyfnod cyn y digwyddiad diwylliannol mawr hwn, mae'r brifysgol wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal cyngerdd arbennig fis nesaf gyda rhai o sêr yr Eisteddfod.
Meddai Mr Rowlands:
Rwy'n falch iawn o weld y brifysgol yn cymryd mwy o ran yn y digwyddiad pwysig hwn trwy gynnal cyngerdd prynhawn arbennig a fydd yn cynnwys cantorion sydd wedi ennill gwobrau yn yr Eisteddfod.
Cwta fis yn ôl y cyhoeddwyd mai’r brifysgol fyddai prif noddwr Maes B - yr ŵyl gerddoriaeth Gymraeg i bobl ifanc a gynhelir ochr yn ochr â'r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Mae'r cyfan yn newyddion gwych ac yn gyfnod cyffrous iawn i Wrecsam ac i Ogledd Cymru oherwydd bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn sicr o ddenu ymwelwyr o bell ac agos. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y ddinas ac ar fusnesau.
Mae'r brifysgol yn cynnal prynhawn o gerddoriaeth yng nghwmni cantorion mawr eu bri, sydd wedi ennill rhai o brif dlysau’r Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd y prynhawn o gerddoriaeth yn cynnwys Erin Rossington, Llinos Haf Jones, Rhys Meirion a Brian Hughes yn cyfeilio, brynhawn Sul, 23 Mawrth am 3pm yn Neuadd William Aston.
Mae Brian Hughes yn Gymrawd Anrhydeddus o'r Brifysgol - ac yn un o gyfansoddwyr corawl amlycaf y Gymru gyfoes.
Wrth siarad cyn y cyngerdd, dywedodd Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu Cymru ym Mhrifysgol Wrecsam, a Dirprwy Gadeirydd (Diwylliant) Eisteddfod 2025:
Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i arddangos y doniau cerddorol anhygoel sydd gan Gymru i'w cynnig.
Roeddem wrth ein boddau pan ddaeth ein Cymrawd Anrhydeddus, Brian Hughes, atom i ofyn a fyddem fel prifysgol yn cefnogi digwyddiad o'r math ar drowthy’r Eisteddfod Genedlaethol.
Cyfle heb ei ail i fwynhau cerddoriaeth fendigedig ar brynhawn Sul ond hefyd i ddangos ein hymrwymiad i gefnogi'r Eisteddfod sy'n cael ei chynnal yn Wrecsam fis Awst. Mae'n gyfnod cyffrous iawn, yn enwedig wrth i'r ŵyl agosáu.
Mae'n bwysig nodi nad yw'r digwyddiad yma - a'r gerddoriaeth a fydd yn cael ei pherfformio - yn y Gymraeg yn unig.
Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam:
Wrth i'r cyffro gynyddu yn y ddinas cyn yr Eisteddfod Genedlaethol, ein pleser a'n braint yw cael cynnal prynhawn gyda rhai o sêr yr Eisteddfod.
Mae'r cyngerdd hwn a gwyliau diwylliannol fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyfleoedd heb eu hail i roi llwyfan ac i frolio ein diwylliant a’n cymuned, gan gyfrannu at ffyniant diwylliant Cymru yn y dyfodol.
Fel prifysgol, rydyn ni wrth ein bodd i gael y cyfle i gydweithio gyda'n Cymrawd Anrhydeddus, Brian Hughes a Theatr Clwyd i gyflwyno’r prynhawn arbennig hwn o gerddoriaeth i Wrecsam.
Bydd canran o elw'r cyngerdd yn mynd i gronfa Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.