Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS backs community awards scheme

  • Tweet
Tuesday, 27 January, 2026
  • Local News
Sam Rowlands MS

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to support the Mold Town Council Community Awards Scheme 2026.

Mr Rowlands, a keen supporter of encouraging people to get involved in their community, is urging people to put names forward for these accolades.

He said:

I am a great supporter of acknowledging the hard work of those individuals or groups who go above and beyond for their community.

The awards first started in 2020 and I am delighted to see their continued success. It is an excellent way of bringing people together and recognising those who have made an outstanding contribution to the town of Mold.

I am sure we all know someone, who we feel, deserves to be rewarded and urge everyone to nominate that person or organisation.

Nominations for the Mold Town Council Community Awards Scheme 2026, which recognises individuals, groups and businesses who have made a positive contribution to life in the town are now open.

Residents are being asked to nominate people or organisations living, working or volunteering in Mold, or those who support Mold residents.

There are five categories covering outstanding voluntary service and/or outstanding achievement within the community of Mold and include Business of the Year, Sporting Achievement Award, and Community Project or Event of the Year. There is also a volunteering award for individuals or groups under the age of 25 and a volunteering award for those aged 25 and over.

There is also the ‘Mayor’s Choice Award’, given to a group or individual who the Mayor considers has made an extraordinary contribution to the Mold community or has provided aspiration to others.  

There is no limit on the number of nominations that can be submitted, but each nomination must include a reason, as incomplete entries will not be taken forward by the judging panel.

Nominations can be made online, by email, or using a paper form. For more information contact Mold Town Council  on 01352 758532, option 3, or email [email protected]. 

The closing date for nominations is 6 February 2026.

 

Sam Rowlands AS yn cefnogi cynllun gwobrau cymunedol

Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi Cynllun Gwobrau Cymunedol Cyngor Tref yr Wyddgrug 2026.

Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o annog pobl i gymryd rhan yn eu cymuned, yn annog pobl i gyflwyno enwau ar gyfer yr anrhydeddau hyn.

Meddai:

Rwy’n credu’n gryf mewn cydnabod gwaith caled yr unigolion neu'r grwpiau hynny sy'n mynd yr ail filltir i'w cymuned.

Dechreuodd y gwobrau gyntaf yn 2020 ac rwy'n falch iawn o weld eu llwyddiant parhaus. Mae'n ffordd ardderchog o ddod â phobl at ei gilydd a chydnabod y rhai sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r Wyddgrug.

Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun, y teimlwn sy’n haeddu cael ei wobrwyo ac rydyn ni’n annog pawb i enwebu'r person neu'r sefydliad hwnnw.

Mae enwebiadau ar gyfer Cynllun Gwobrau Cymunedol Cyngor Tref yr Wyddgrug 2026, sy'n cydnabod unigolion, grwpiau a busnesau sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywyd yn y dref bellach ar agor.

Gofynnir i drigolion enwebu pobl neu sefydliadau sy'n byw, yn gweithio neu'n gwirfoddoli yn yr Wyddgrug, neu'r rhai sy'n cefnogi trigolion yr Wyddgrug.

Mae pum categori sy’n rhoi sylw i wasanaeth gwirfoddol rhagorol a/neu gyflawniad rhagorol yng nghymuned yr Wyddgrug ac maen nhw’n cynnwys Busnes y Flwyddyn, Gwobr Llwyddiant mewn Chwaraeon, a Phrosiect Cymunedol neu Ddigwyddiad y Flwyddyn. Mae yna hefyd wobr wirfoddoli i unigolion neu grwpiau o dan 25 oed a gwobr wirfoddoli i'r rhai 25 oed a hŷn.

Mae yna hefyd 'Wobr Dewis y Maer', a roddir i grŵp neu unigolyn y mae'r Maer o'r farn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i gymuned yr Wyddgrug neu sydd wedi codi dyheadau eraill.

Does dim uchafswm i’r enwebiadau y gellir eu cyflwyno, ond rhaid i bob enwebiad gynnwys rheswm, gan na fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu symud ymlaen gan y panel beirniaid.

Gellir enwebu ar-lein, trwy e-bost, neu gan ddefnyddio ffurflen bapur. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Tref yr Wyddgrug ar 01352 758532, opsiwn 3, neu e-bostiwch [email protected].

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 6 Chwefror 2026.

You may also be interested in

Sam Rowlands MS

Sam Rowlands MS welcomes reprieve for three public toilets in Flintshire

Thursday, 26 February, 2026
Sam Rowlands AS yn croesawu’r cam i achub tri thoiled cyhoeddus yn Sir y Fflint

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands for North Wales

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands. All rights reserved.
Powered by Bluetree