Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted to see Wrexham University teaming up with next-door neighbours, Wrexham AFC Foundation to deliver a brand-new course.
Mr Rowlands is a keen football fan and an admirer of the achievements of the university and Wrexham AFC.
He said:
I am delighted to hear that Wrexham University and Wrexham AFC Foundation have joined forces to offer an exciting new course.
The Football and Community Development programme starts this September and its main focus will be on the power of football and its positive impact on communities.
Here in North Wales we all know about the fantastic achievements of Wrexham AFC. They will be playing in the Championship next season following three promotions on the bounce and Wrexham University has once again been ranked top in Wales for student satisfaction in the Complete University Guide 2026.
As Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism I am extremely pleased to see Wrexham continuing to thrive and becoming the destination of choice for visitors and students.
Wrexham University is partnering with next-door neighbours, Wrexham AFC Foundation to deliver a brand-new course, focussing on the transformative power of football and its positive impact on communities.
The new Football and Community Development foundation degree starts this September with the and as part of the programme, students will gain an understanding of the role football plays within communities, while also gaining practical coaching experience.
A particularly exciting element of the course is that students will have opportunities to work with Wrexham AFC Foundation.
By the end of the programme, students will be ready to coach the next generation of players or deliver impactful community programmes.
Sara Hilton, Senior Lecturer in Football and Coaching Science at the University, who will be leading the programme, said:
We are incredibly excited to announce and launch our new Football and Community Development foundation degree, and are beyond delighted to be partnering up with the purpose-driven Wrexham AFC Foundation, whose work sets out to change the lives of children and young people from across Wrexham, North Wales and even further afield for the better.
The power of football and its positive impact on communities, and in particular, children and young people cannot be understated, and we are thrilled that we will be working with the Foundation to deliver this inspiring programme to football changemakers of the future.
Jamie Edwards, Head of Community at Wrexham AFC Foundation, added:
The new Football and Community Development foundation degree is set to be a true gamechanger for both Wrexham AFC Foundation and our wider community. As a football club, we have a unique responsibility – and a genuine opportunity – to drive meaningful change. But to do that, we need a highly skilled and inspired workforce.
This programme will help develop that workforce by offering unique, real-life experiences – both here in Wrexham and internationally – giving students the tools, insight, and confidence to make a real impact.
Wrexham University clearly shares our vision for growth and community-centred development, and we’re genuinely excited to see how this programme, and our partnership as a whole, will evolve and flourish.
Sam Rowlands AS yn cefnogi gradd bêl-droed sylfaen newydd mewn prifysgol yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn falch iawn o weld Prifysgol Wrecsam yn ymuno â’u cymdogion, Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam, i gyflwyno cwrs newydd sbon.
Mae Mr Rowlands yn gefnogwr pêl-droed brwd ac yn edmygydd o gyflawniadau'r brifysgol a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed bod Prifysgol Wrecsam a Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi ymuno i gynnig cwrs newydd cyffrous.
Mae'r rhaglen Pêl-droed a Datblygu Cymunedol yn dechrau ym mis Medi ac mae ei phrif ffocws ar bŵer pêl-droed a'i effaith gadarnhaol ar gymunedau.
Yma yn y gogledd, rydyn ni i gyd yn ymwybodol o gyflawniadau gwych Clwb Pêl-droed Wrecsam. Byddan nhw’n chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf yn dilyn tri dyrchafiad yn olynol ac mae Prifysgol Wrecsam unwaith eto wedi cyrraedd y brig yng Nghymru ar gyfer boddhad myfyrwyr yn y Complete University Guide 2026.
Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rwy'n hynod falch o weld Wrecsam yn parhau i ffynnu ac yn dod yn gyrchfan ddewisol i ymwelwyr a myfyrwyr.
Mae Prifysgol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth â’u cymdogion agosaf, Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam, i gyflwyno cwrs newydd sbon, sy'n canolbwyntio ar bŵer trawsnewidiol pêl-droed a'i effaith gadarnhaol ar gymunedau.
Mae'r radd sylfaen newydd Pêl-droed a Datblygu Cymunedol yn dechrau ym mis Medi ac fel rhan o'r rhaglen, bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth o'r rôl y mae pêl-droed yn ei chwarae mewn cymunedau, tra hefyd yn ennill profiad hyfforddi ymarferol.
Elfen arbennig o gyffrous o'r cwrs yw y bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i weithio gyda Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Erbyn diwedd y rhaglen, bydd myfyrwyr yn barod i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr neu gyflwyno rhaglenni cymunedol effeithiol.
Meddai Sara Hilton, Uwch Ddarlithydd mewn Pêl-droed a Gwyddor Hyfforddi yn y Brifysgol, a fydd yn arwain y rhaglen:
Rydyn ni’n hynod gyffrous i gyhoeddi a lansio ein gradd sylfaen newydd ar gyfer Pêl-droed a Datblygu Cymunedol, ac rydyn ni’n falch iawn o wneud hyn mewn partneriaeth â Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam, y mae ei waith yn ceisio newid bywydau plant a phobl ifanc o bob rhan o Wrecsam, y Gogledd a thu hwnt er gwell.
Ni ellir tanbrisio pŵer pêl-droed a'i effaith gadarnhaol ar gymunedau, ac yn arbennig, ar blant a phobl ifanc, ac rydyn ni wrth ein bodd i gael gweithio gyda'r Sefydliad i gyflwyno'r rhaglen ysbrydoledig hon i newidwyr pêl-droed y dyfodol.
Ychwanegodd Jamie Edwards, Pennaeth Cymuned Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam:
Mae'r radd sylfaen newydd Pêl-droed a Datblygu Cymunedol ar fin newid pethau go iawn i Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam a'n cymuned ehangach. Fel clwb pêl-droed, mae gennym ni gyfrifoldeb unigryw – a chyfle gwirioneddol – i sbarduno newid ystyrlon. Ond i wneud hynny, mae angen gweithlu dawnus ac ysbrydoledig dros ben.
Bydd y rhaglen hon yn helpu i ddatblygu'r gweithlu hwnnw drwy gynnig profiadau unigryw, bywyd go iawn – yma yn Wrecsam ac yn rhyngwladol – gan roi'r adnoddau, y mewnwelediad a'r hyder i fyfyrwyr gael effaith go iawn.
Mae Prifysgol Wrecsam yn amlwg yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer twf a datblygiad sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ac rydyn ni’n wirioneddol gyffrous i weld sut y bydd y rhaglen hon, a'n partneriaeth yn ei chyfanrwydd, yn esblygu ac yn ffynnu.