Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging residents and businesses to sign a petition calling for more direct trains between Wrexham and London.
Mr Rowlands, Shadow Cabinet Secretary for Transport and Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism wants to see improved transport links for Wrexham.
He said:
I strongly back Wrexham, Shropshire & Midlands Railway’s application to introduce direct rail services between Wrexham and London. I have written to the Office of Rail and Road to that affect and expressed my support for these routes and to outline the benefits they could deliver.
I am now urging everyone to sign the petition as I think it is vital that Wrexham has that important connectivity with London.
Wrexham is North Wales’ largest conurbation, and improving rail services into Shropshire, the Midlands and London can only help to boost our local economy.
We know that the city continues to attract visitors from far and wide so it really is essential that this sort of public transport is available.
With the UK Labour Government failing to commit to the last Conservative Government’s planned investment in the North Wales mainline it is absolutely vital that everything possible is done to improve rail services for the people in my region.
Not only would it be great for residents but it would also be another way of encouraging visitors to visit Wrexham and the rest of North Wales.
The petition calls on the Government, Network Rail and the Office of Rail and Road, ORR. to work constructively with WSMR to enable direct trains to London from Wrexham.
Recently the WSMR organised a trip to Downing Street with over 120 stakeholders and interested parties taking the train journey to London with the purpose of highlighting the importance of improved rail connectivity between the Midlands, London, and Wrexham.
Councillor Mark Pritchard, Leader of the Council, said:
This is a commercially driven proposal that delivers measurable economic value while strengthening our region’s long-term competitiveness.
Our meetings with WSMR have been very positive and we are working closely with all stakeholders to turn this exciting proposal into a reality for Wrexham.
If we get the go ahead, the new line is anticipated to deliver £9m in economic benefits between Wrexham, Shrewsbury and Walsall at no cost to the taxpayer.
Sam Rowlands AS yn cefnogi deiseb yn galw am wasanaethau rheilffordd mwy uniongyrchol o Wrecsam i Lundain
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog trigolion a busnesau i lofnodi deiseb yn galw am drenau mwy uniongyrchol rhwng Wrecsam a Llundain.
Mae Mr Rowlands, Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth eisiau gweld gwell cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer Wrecsam.
Meddai:
Rwy'n cefnogi'n gryf gais Rheilffordd Wrecsam, Swydd Amwythig a Chanolbarth Lloegr i gyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng Wrecsam a Llundain. Rwyf wedi ysgrifennu at y Swyddfa Rheilffyrdd ac wedi mynegi fy nghefnogaeth i'r gwasanaethau hyn ac amlinellu'r manteision y gallent eu darparu.
Rwy'n annog pawb i lofnodi'r ddeiseb gan fy mod i’n credu ei bod yn hanfodol bod gan Wrecsam y cysylltiad pwysig hwn â Llundain.
Wrecsam yw tref fwyaf Gogledd Cymru, a gall gwella’r gwasanaethau trên i Swydd Amwythig, Canolbarth Lloegr a Llundain helpu i roi hwb i'n heconomi leol.
Rydyn ni'n gwybod bod y ddinas yn parhau i ddenu ymwelwyr o bell ac agos felly mae'n hanfodol bod y math yma o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael.
Gyda Llywodraeth Lafur y DU yn methu ag ymrwymo i fuddsoddiad arfaethedig y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf ym mhrif linell Gogledd Cymru, mae'n hollol hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i wella gwasanaethau rheilffyrdd i bobl fy rhanbarth.
Nid yn unig y byddai'n wych i drigolion ond byddai hefyd yn ffordd arall o annog ymwelwyr i ymweld â Wrecsam a gweddill Gogledd Cymru.
Mae'r ddeiseb yn galw ar y Llywodraeth, Network Rail a'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, ORR. I weithio'n adeiladol gydag WSMR i sicrhau trenau uniongyrchol i Lundain o Wrecsam.
Yn ddiweddar, trefnodd y WSMR daith i Downing Street gyda dros 120 o randdeiliaid a phartïon â buddiant yn mynd ar daith ar y trên i Lundain gyda'r bwriad o dynnu sylw at bwysigrwydd gwell cysylltedd rheilffyrdd rhwng Canolbarth Lloegr, Llundain a Wrecsam.
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor:
Mae hwn yn gynnig masnachol sy'n darparu gwerth economaidd mesuradwy ac yn cryfhau cystadleurwydd hirdymor ein rhanbarth.
Mae ein cyfarfodydd gyda WSMR wedi bod yn gadarnhaol dros ben ac rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'r holl randdeiliaid i droi'r cynnig cyffrous hwn yn realiti i Wrecsam.
Os cawn sêl bendith i hyn, disgwylir i'r llinell newydd ddarparu £9m mewn buddion economaidd rhwng Wrecsam, Amwythig a Walsall heb unrhyw gost i'r trethdalwr.