Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on constituents to share their views on Wrexham’s cultural future.
Mr Rowlands is encouraging everyone in the city to share their thoughts through a survey.
He said:
I am always pleased to see local people being consulted and involved in what they want to see for their communities and delighted people in Wrexham are being given the opportunity to have their say.
We all know that Wrexham has great future potential with plans for the Western Gateway moving forward, the heroics of the local football team and of course the upcoming bid to become the UK City of Culture 2029.
It really is extremely important that local people play their part in helping to shape its future and I would urge anyone who wants to share their thoughts to take part in the survey.
Amanda Evans, Culture Bid Director for Wrecsam2029, said:
Developing a 10-year Cultural Strategy is a vital moment for Wrexham. It’s about taking the values, ambition and learning from Wrecsam2029 and turning them into a long-term vision that genuinely reflects the people who live, work and create here.
Culture in Wrexham is rich, diverse and deeply rooted in everyday life, and this strategy must be shaped by the voices of the whole community. I’d encourage everyone to take the time to share their experiences, ideas and hopes as we shape Wrexham’s cultural future together.
Wrexham Community and Culture Trust is leading on the development of a bold, inclusive and visionary 10-Year Cultural Strategy for Wrexham County Borough and is inviting everyone in Wrexham to share their thoughts through a survey.
This strategy will play a critical role in shaping Wrexham’s future as a vibrant cultural hub, grounded in local identity and ambition, and informed by the values embedded in the Wrecsam2029 UK City of Culture bid.
The Trust is inviting everyone living or working in Wrexham County Borough to take part in this exciting project, by sharing what you want to see happen in your county over the next 10 years.
The survey can be found online at https://www.wrecsam2029.wales/en_gb/have-your-say/.
As a thank you, all respondents will be entered into a prize draw to win a hamper valued at £100. The deadline for the survey is 5pm on Monday 16th February.
Sam Rowlands AS yn cefnogi arolwg i helpu i lunio dyfodol diwylliannol dinas yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i rannu eu barn ar ddyfodol diwylliannol Wrecsam.
Mae Mr Rowlands yn annog pawb yn y ddinas i rannu eu barn ar ffurf arolwg.
Meddai:
Rydw i bob amser yn falch o weld pobl leol yn rhan o’r broses ymgynghori ac yn cael eu cynnwys er mwyn ceisio gwybod beth yw eu dymuniadau ar gyfer eu cymunedau, ac mae’n dda gweld pobl yn Wrecsam yn cael y cyfle i ddweud eu dweud.
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gan Wrecsam botensial mawr i’r dyfodol gyda chynlluniau ar gyfer Porth y Gorllewin yn symud ymlaen, gorchestion y tîm pêl-droed lleol ac wrth gwrs y cais arfaethedig i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029.
Mae'n wirioneddol bwysig bod pobl leol yn chwarae eu rhan wrth helpu i lunio eu dyfodol a byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau dweud eu dweud i gymryd rhan yn yr arolwg.
Meddai Amanda Evans, Cyfarwyddwr Cais Diwylliant Wrecsam2029:
Mae datblygu Strategaeth Ddiwylliannol 10 mlynedd yn foment hanfodol i Wrecsam. Mae'n ymwneud â chymryd y gwerthoedd, yr uchelgais a'r dysgu o Wrecsam2029 a'u troi'n weledigaeth hirdymor sy'n adlewyrchiad go iawn o’r bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn creu yma.
Mae diwylliant yn Wrecsam yn gyfoethog, yn amrywiol ac wedi'i ymwreiddio'n ddwfn ym mywyd bob dydd y gymuned, ac mae'n rhaid i'r strategaeth hon gael ei llunio gan leisiau'r gymuned gyfan. Byddwn yn annog pawb i roi o’u hamser i rannu eu profiadau, eu syniadau a'u gobeithion wrth i ni siapio dyfodol diwylliannol Wrecsam gyda'n gilydd.
Mae Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliant Wrecsam yn arwain ar ddatblygu Strategaeth Ddiwylliannol 10 Mlynedd feiddgar, gynhwysol ac arloesol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae'n gwahodd pawb yn Wrecsam i ddweud eu dweud drwy ymateb i’r arolwg.
Bydd y strategaeth hon yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio dyfodol Wrecsam fel canolfan ddiwylliannol fywiog, wedi'i seilio ar hunaniaeth ac uchelgais leol, ac wedi'i llywio gan y gwerthoedd sydd wedi'u hymwreiddio yng nghais Wrecsam2029 i fod yn Ddinas Diwylliant y DU.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gwahodd pawb sy'n byw neu'n gweithio ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam i gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn, drwy rannu'r hyn rydych chi am ei weld yn digwydd yn eich sir dros y 10 mlynedd nesaf.
Gellir dod o hyd i'r arolwg ar-lein yn https://www.wrecsam2029.wales/cymraeg/cyfle-i-ddweud-eich-dweud/.
Fel diolch, bydd yr holl ymatebwyr yn cael cymryd rhan mewn raffl i ennill hamper gwerth £100. Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg yw 5pm ddydd Llun 16 Chwefror.