
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on constituents to help celebrate the 80th anniversary of VE Day in Wrexham.
Mr Rowlands is urging everyone to support a major event being planned for the city on Thursday May 8.
He said:
I am delighted to highlight such a significant event for Wrexham and urge everyone to save the date and support this momentous occasion.
The day will be a fantastic opportunity to show our backing for such an heroic achievement and quite rightly commemorate this important event.
Wrexham has very strong connections with the armed forces and I hope we see lots of people lining the streets on the big day.
The day will begin with a service at S. Giles Parish Church at 12.30pm, followed by a parade, led by RWF Volunteer Corps of Drums, when the Standards will be paraded by the military associations in Wrexham.
The parade, on May 8, will leave St. Giles at 1.15pm and march along Hope Street, on to Queen’s Street, passing Queen’s Square, on to Lambpit Street, then to Chester Street.
Those marching will salute the dais at Crown Buildings before turning right onto Bodhyfryd where the parade will halt.
There will then be a wreath laying ceremony accompanied by the Salvation Army band from Wrexham. After the wreath laying the parade will retire to the War Memorial Club.
Cllr Beverly Parry-Jones, armed forces champion, said:
I would encourage everyone to make a note of this date. Come out, line the streets of Wrexham for the parade and make this a day of both reflection and celebration. Wrexham has long-standing connections with the armed forces and this is a wonderful opportunity to pay thanks to a heroic generation.
Sam Rowlands AS yn cefnogi dathliadau Diwrnod VE yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i helpu i ddathlu 80 mlynedd ers Diwrnod VE yn Wrecsam.
Mae Mr Rowlands yn annog pawb i gefnogi digwyddiad mawr sy'n cael ei drefnu ar gyfer y ddinas ddydd Iau Mai 8.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o dynnu sylw at ddigwyddiad mor arwyddocaol i Wrecsam ac yn annog pawb i sicrhau eu bod ar gael ar y dyddiad er mwyn cefnogi'r achlysur pwysig hwn.
Bydd y diwrnod yn gyfle gwych i ddangos ein cefnogaeth i gyflawniad mor arwrol ac i goffáu'r digwyddiad pwysig hwn yn iawn.
Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf iawn â'r lluoedd arfog ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld llawer o bobl yn llenwi'r strydoedd ar y diwrnod mawr.
Bydd y diwrnod yn dechrau gyda gwasanaeth yn Eglwys San Silyn am 12.30pm, ac yna gorymdaith, dan arweiniad Corfflu Drymiau Gwirfoddol RWF, pan fydd y baneri’n cael eu gorymdeithio gan gymdeithasau milwrol Wrecsam.
Bydd yr orymdaith yn gadael Eglwys San Silyn am 1.15pm ar 8 Mai ac yn gorymdeithio ar hyd Stryt yr Hob, ymlaen i Stryt y Syfwr, heibio Sgwâr y Frenhines, ymlaen i Stryt Lampint, yna i Stryt Caer.
Bydd y rhai sy'n gorymdeithio yn cyfarch y llwyfan yn Adeiladau'r Goron cyn troi i'r dde i Bodhyfryd lle bydd yr orymdaith yn dod i stop.
Yna bydd seremoni gosod torch yng nghwmni band Byddin yr Iachawdwriaeth o Wrecsam. Ar ôl gosod y dorch bydd yr orymdaith yn mynd i’r Clwb Coffa Rhyfel.
Meddai’r Cynghorydd Beverly Parry-Jones, pencampwr y lluoedd arfog:
Byddwn yn annog pawb i gofio’r dyddiad hwn. Dewch allan, llenwch strydoedd Wrecsam ar gyfer yr orymdaith a’i gwneud yn ddiwrnod o fyfyrio a dathlu. Mae gan Wrecsam gysylltiadau hirsefydlog â'r lluoedd arfog ac mae hwn yn gyfle gwych i ddiolch i genhedlaeth arwrol.