Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
    • My map
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS calls for a better deal for GPs

  • Tweet
  • Share
Thursday, 22 October, 2026
  • Articles
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for Fflint Wrecsam, says General Practioners should receive more money from the NHS budget.

Mr Rowlands, the Welsh Conservative spokesperson for finance and families, who recently visited a GP surgery in his constituency, is urging the Welsh Government to allocate more funding for GPs.

He said:

I have often raised my concerns about the workload and underfunding for GPs in the Senedd and I am fully behind the British Medical Council’s "Save Our Surgeries" campaign.

I am extremely concerned at the number of surgeries we are losing and It is worrying to note that since 2012, Wales has seen 106 surgery closures and 20% fewer full-time equivalent GPs, despite a rise in patient numbers.

I recently met with Dr Sarah Bodey from Darland Surgery in Coedpoeth and heard at firsthand about the pressures facing general practice and the action needed to protect services for patients. 

We spoke about the ongoing ‘Save Our Surgeries campaign’ and how GPs faced increased challenges of running a surgery while trying to meet rising patient need. 

The latest figures from the BMA Cymru Wales report makes uncomfortable reading as it highlights the scale of the challenge facing GPs in Wales where for many years under the Welsh Labour Government there has been very little if any investment in staff and services.

Our hardworking GPs and their staff deserve so much more, and the Welsh Government need to urgently ensure they are given more funding to cope with increased demand.

The BMA Cymru Wales survey of GPs highlights the scale of the challenge with more than half of respondents said they routinely cannot meet patient demand, while only 7% said their workload was manageable.

Currently, just six% of the NHS budget supports 1,485 full-time GPs serving 3.3 million people across 368 surgeries and financial strain has forced 62% of GP partners to take on extra work, and 63% say rising workloads are affecting patient care.

The survey is part of the ongoing ‘Save Our Surgeries’ campaign and the findings reflect a service under sustained pressure, with practices trying to meet rising patient need despite long-term underinvestment in staff and services. 

Dr Gareth Oelmann, chair of the BMA’s GP committee in Wales (GPC Wales), said: 

General practice is the cornerstone of our health service; up to 90% of NHS care is provided here. With the right investment, policy decisions, and long-term vision, general practice can do more than meet demand. It can lead prevention, improve population health, reduce inequalities, support earlier diagnosis and treatment, and help build a more sustainable NHS for future generations.

Our message to policymakers is simple: if we want an NHS that is fit for the future, we must start by securing its front door.

 

Sam Rowlands AS yn galw am well bargen i feddygon teulu

Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros etholaeth Fflint Wrecsam, yn dweud y dylai meddygon teulu dderbyn mwy o arian o gyllideb y GIG.

Bu Mr Rowlands, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros gyllid a theuluoedd, yn ymweld â meddygfa yn ei etholaeth yn ddiweddar, ac mae’n  annog Llywodraeth Cymru i ddyrannu mwy o gyllid i feddygon teulu

Meddai:

Rwyf wedi rhannu fy mhryderon yn aml yn y Senedd am y llwyth gwaith a'r tanariannu ar gyfer meddygon teulu ac rwy'n cefnogi’r ymgyrch 'Achub Ein Meddygfeydd' gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Rwy'n bryderus iawn am nifer y meddygfeydd rydyn ni'n eu colli ac mae'n achos pryder mawr fod Cymru wedi gweld 106 o feddygfeydd yn cau ers 2012 a bod 20% yn llai o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn gennym erbyn hyn, er gwaethaf cynnydd yn nifer y cleifion.

Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod Dr Sarah Bodey o Feddygfa Darland yng Nghoed-poeth a chefais glywed yn uniongyrchol am y pwysau sy'n wynebu meddygfeydd a'r camau sydd eu hangen er mwyn diogelu gwasanaethau i gleifion.

Fe wnaethon ni siarad am yr ymgyrch barhaus 'Achub Ein Meddygfeydd' a’r ffordd y mae meddygon teulu yn wynebu heriau cynyddol wrth geisio rhedeg meddygfa a diwallu anghenion cynyddol cleifion. 

Mae'r ffigyrau diweddaraf o adroddiad BMA Cymru Wales yn peri gofid. Mae’n tynnu sylw at raddfa'r her sy'n wynebu meddygon teulu yng Nghymru gan fod cyn lleied o fuddsoddiad wedi bod mewn staff a gwasanaethau ers blynyddoedd lawer o dan Lywodraeth Lafur Cymru.

Mae ein meddygon teulu gweithgar a'u staff yn haeddu cymaint mwy, ac mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau ar frys eu bod yn derbyn mwy o arian i ymdopi â'r galw cynyddol.

Mae arolwg BMA Cymru Wales o feddygon teulu yn tynnu sylw at raddfa'r her gyda mwy na hanner yr ymatebwyr yn dweud nad ydyn nhw’n gallu diwallu’r galw gan gleifion yn rheolaidd, tra bod dim ond 7% yn dweud eu bod yn gallu rheoli eu llwyth gwaith.

Ar hyn o bryd, dim ond 6% o gyllideb y GIG sy'n cefnogi 1,485 o feddygon teulu amser llawn ac mae’r meddygon hynny’n gwasanaethu 3.3 miliwn o bobl ar draws 368 o feddygfeydd. Mae straen ariannol wedi gorfodi 62% o bartneriaid meddygon teulu i ymgymryd â gwaith ychwanegol, ac mae 63% yn dweud bod llwythi gwaith cynyddol yn effeithio ar ofal cleifion.

Mae'r arolwg yn rhan o'r ymgyrch barhaus 'Achub Ein Meddygfeydd' ac mae'r canfyddiadau'n adlewyrchu gwasanaeth o dan bwysau parhaus, gyda meddygfeydd yn ceisio diwallu anghenion cynyddol cleifion er gwaethaf tanfuddsoddi mewn staff a gwasanaethau ers amser maith.

Meddai Dr Gareth Oelmann, cadeirydd pwyllgor meddygon teulu y BMA yng Nghymru (GPC Cymru): 

Meddygon teulu yw conglfaen ein gwasanaeth iechyd; darperir hyd at 90% o ofal y GIG yma. Gyda'r buddsoddiad cywir, penderfyniadau polisi, a gweledigaeth hirdymor, gall meddygaeth deulu wneud mwy na bodloni'r galw. Gall chwarae rhan bwysig mewn atal, gwella iechyd y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau, cefnogi diagnosis a thriniaeth gynharach, a helpu i adeiladu GIG mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae ein neges i wneuthurwyr polisi yn syml: os ydyn ni eisiau GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol, mae'n rhaid i ni ddechrau trwy wneud y cyswllt cyntaf yn fwy cadarn.

You may also be interested in

Sam Rowlands MS slams Welsh Government for dithering over plans to restrict the use of mobile phones in schools

Wednesday, 4 November, 2026
Sam Rowlands AS yn beirniadu Llywodraeth Cymru am din-droi dros gynlluniau i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion

News Categories

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands for Fflint Wrecsam

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds.

Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus.

Promoted by Sam Rowlands MS of Office 122, Glendale House, Glendale Avenue, Sandycroft Industrial Estate, Sandycroft CH5 2QP.

Copyright 2026 Sam Rowlands. All rights reserved.
Powered by Bluetree