Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to help save the community hospital in Penley.
Mr Rowlands is calling on local residents to take part in a consultation about the future of the hospital.
Betsi Cadwalladr University Health Board temporarily closed the inpatient beds in December 2024 due to concerns around the sustainability of the care model and ongoing staffing challenges and are now reviewing options.
Mr Rowlands said:
It was a great shock when the hospital closed last December and I am urging people who live and work in and around Penley to make sure they have their say on this extremely important issue.
It is absolutely vital that the health board understands the depth of feeling in the community for this much loved and needed facility.
It seems amazing to me that a consultation is even necessary as quite clearly there is a great need for our community hospitals as we have ambulances queueing up outside A&E departments and people waiting hours for treatment and admission and here we have an existing facility which could and should be fully utilised.
I urge local people to take part in the consultation and help to save the future of their community hospital.
Historically, Penley has provided step-down care for patients who no longer need acute hospital treatment but still require support before returning home or moving to another setting.
BCUHB say the number of patients suitable for this type of care has been limited, and ongoing difficulties with recruitment and reliance on temporary staff have made it increasingly difficult to deliver safe and sustainable care.
The Health Board is now starting a formal service review and options appraisal to consider what’s possible for the future of services in Penley. This includes revisiting whether the ward could reopen, alongside exploring other safe, high-quality alternatives that meet the needs of the local community.
For more information and to take part in the survey go to:-
Shaping the Future of Penley Hospital - Betsi Cadwaladr University Health Board
Sam Rowlands AS yn galw ar etholwyr i ddweud eu dweud am ddyfodol ysbyty yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog pobl i helpu i achub yr ysbyty cymunedol yn Llannerch Banna.
Mae Mr Rowlands yn galw ar drigolion lleol i gymryd rhan mewn ymgynghoriad am ddyfodol yr ysbyty.
Caeodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y gwelyau cleifion mewnol dros dro ym mis Rhagfyr 2024 yn sgil pryderon ynghylch cynaliadwyedd y model gofal a heriau staffio parhaus ac maen nhw bellach yn adolygu’r opsiynau.
Meddai Mr Rowlands:
Roedd yn sioc fawr pan gaeodd yr ysbyty fis Rhagfyr diwethaf ac rwy'n annog pobl sy'n byw ac yn gweithio yn Llannerch Banna a'r cyffiniau i wneud yn siŵr eu bod nhw'n dweud eu dweud ar y mater hynod bwysig hwn.
Mae'n gwbl hanfodol bod y bwrdd iechyd yn deall dyfnder teimladau’r gymuned am y cyfleuster poblogaidd a hollbwysig hwn.
Mae'n ymddangos yn anhygoel i mi fod ymgynghoriad hyd yn oed yn angenrheidiol gan fod angen mawr am ein hysbytai cymunedol o gofio bod gennym ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys a phobl yn aros oriau lawer am driniaeth a’u derbyn - a dyma ni gyfleuster sydd ar gael yn barod y gellid ac y dylid ei ddefnyddio'n llawn.
Rwy'n annog pobl leol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a helpu i achub dyfodol eu hysbyty cymunedol.
Yn hanesyddol, mae Llannerch Banna wedi darparu gofal cam-i-lawr i gleifion nad oes angen triniaeth ysbyty acíwt bellach arnyn nhw, ond sydd angen cymorth cyn dychwelyd adref neu symud i leoliad arall.
Dywed BIPBB mai prin yw’r cleifion sy'n addas ar gyfer y math hwn o ofal, a bod yna anawsterau parhaus wrth recriwtio, ac felly bod y ddibyniaeth ar staff dros dro wedi ei gwneud hi'n anoddach fyth i ddarparu gofal diogel a chynaliadwy.
Mae'r Bwrdd Iechyd bellach yn dechrau adolygiad ffurfiol o wasanaethau ac yn arfarnu opsiynau i ystyried beth sy'n bosibl ar gyfer dyfodol gwasanaethau yn Llannerch Banna. Mae hyn yn cynnwys ailystyried agor y ward, ynghyd ag archwilio dewisiadau amgen diogel, o ansawdd uchel eraill sy'n diwallu anghenion y gymuned leol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr arolwg ewch i:-
Llunio Dyfodol Ysbyty Llannerch Banna - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr