Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS calls for improvement for freight transport operators

  • Tweet
Thursday, 25 September, 2025
  • Speeches

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling for more to be done to improve conditions for freight haulage businesses in North Wales.

Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Cabinet Secretary for Transport said:

I’d like to request a statement from the Cabinet Secretary for Transport on what the Welsh Government is doing to tackle freight crime and improve infrastructure for freight transport in Wales.

I recently had the privilege of meeting with RF Bellis Haulage, based on Wrexham Industrial Estate, along with representatives from the Road Haulage Association, and they explained to me the persistent problem that comes with a lack of proper infrastructure for freight here in Wales.

The rise in cargo theft, particularly from poorly secured truck stops and rest areas, is putting real pressure on their business and businesses like them up and down Wales.

It’s a sector that we rely on every single day for transporting those goods that we all need. Despite repeated calls from industry professionals, Wales still lacks adequate secure parking and investment on those key freight routes.”

Can I ask that we have a statement outlining how the Government plans to work with the industry, strengthen infrastructure and work with partners to reduce freight crime?

Jane Hutt, Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip said the Cabinet Secretary will be making a statement on freight and logistics after the final meeting of the Holyhead logistics working group.

Mr Rowlands added:

I obviously welcome any discussions on this issue and hope that by raising this matter in the Senedd, on behalf of businesses in North Wales and the Road Haulage Association, it will be tackled as a priority.

It is absolutely vital that we invest in this sector and make sure secure parking is available to reduce freight crime on our key routes in North Wales.

 

Sam Rowlands AS yn galw am wella’r amodau i weithredwyr trafnidiaeth cludo llwythi

Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw am ragor o gamau  i wella amodau i fusnesau cludo llwythi yn y Gogledd.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Rowlands, Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth:

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth ar yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau cludo llwythi a gwella’r seilwaith ar gyfer cludo llwythi yng Nghymru.

Yn ddiweddar, cefais y fraint o gwrdd ag RF Bellis Haulage, sydd wedi'i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, ynghyd â chynrychiolwyr o'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, a chefais esboniad o’r broblem barhaus sy'n gysylltiedig â diffyg seilwaith priodol ar gyfer cludo llwythi yma yng Nghymru.

Mae'r cynnydd yn yr achosion o ddwyn cargo, yn enwedig o arosfannau lorïau ac ardaloedd gorffwys lle mae’r mesurau diogelwch yn wael, yn rhoi pwysau gwirioneddol ar eu busnes ac ar fusnesau tebyg ledled Cymru.

Dyma sector rydym yn dibynnu arno bob dydd i gludo'r nwyddau hynny sydd eu hangen ar bob un ohonom. Er gwaethaf galwadau dro ar ôl tro gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, nid oes gan Gymru ddigon o fannau parcio diogel a phrin yw’r buddsoddiad yn y llwybrau allweddol hynny ar gyfer cludo llwythi."

A gaf i ofyn am gael datganiad yn amlinellu sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithio gyda'r diwydiant, cryfhau’r seilwaith a gweithio gyda phartneriaid i leihau troseddau cludo llwythi?

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar gludo llwythi a logisteg ar ôl cyfarfod olaf gweithgor logisteg Caergybi.

Ychwanegodd Mr Rowlands:

Rwy'n amlwg yn croesawu unrhyw drafodaethau ar y mater hwn ac yn gobeithio y bydd yn cael blaenoriaeth ar ôl i mi ei godi yn y Senedd ar ran busnesau yn y Gogledd a'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd.

Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn buddsoddi yn y sector hwn ac yn sicrhau bod mannau parcio diogel ar gael i leihau troseddau cludo llwythi ar ein prif lwybrau yn y Gogledd.

You may also be interested in

Sam Rowlands MS

Sam Rowlands MS urges more support to boost North-East Wales's rail links to the rest of the UK

Monday, 19 January, 2026
Sam Rowlands AS yn annog mwy o gefnogaeth i roi hwb i gysylltiadau rheilffyrdd Gogledd-ddwyrain Cymru â gweddill y DU

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru. All rights reserved.
Powered by Bluetree