Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, urges the Welsh Government to do more to help the hospice and palliative care sector.
Mr Rowlands, Shadow Cabinet Secretary for Finance, who often expresses his concern over the financial pressures for hospices, was speaking in the Senedd during a Welsh Conservative Debate on Hospices.
He said:
We've already heard that hospices are struggling under the weight of rising costs, workforce shortages and increasing demand for their services. We've heard about the employers' national insurance increases, rising energy bills and other operating costs that are forcing organisations that primarily exist to care for the vulnerable into financial crisis.
I've heard this first-hand from Nightingale House Hospice in Wrexham, who recently celebrated their thirtieth anniversary of excellent work in Wrexham, supporting the town and its surrounding communities. Like all Welsh hospices, they are experiencing financial pressures, and now having to budget a deficit for this coming year.
These pressures are not caused by the sector itself. They are the direct result of decisions being made in this place and by politicians in Westminster. Decisions that are being made to increase the cost of employment without providing support to go along with it, and leaving these organisations to bear the brunt of rising demand without that adequate funding.
Going back to Nightingale House Hospice in Wrexham, when they opened 30 years ago, they had running costs of around £1 million a year, of which 80% was statutory funding, and they had to raise an additional 20%. Today, that same hospice has running costs of around £5.6 million, and it's completely flipped. It now raises 80% of its funds, with only 20% coming from statutory sources. This shows the shift in that 30-year time between how hospices were funded to how they're not being funded adequately today.
And let's not forget, hospices do more than provide compassionate care. They take pressure off the NHS by supporting patients in their community, in their own homes, and in inpatient units. Hospices reduce unnecessary hospital admissions, help patients leave hospital sooner, and allow NHS staff to focus on that all-important acute care.
The Welsh Conservatives will continue to stand up for hospices, their staff and the families they support. We call on the Welsh Government to stop ignoring this crisis, deliver a sustainable funding model, and provide the resources these vital services need to continue their exceptional work.
Marie Curie Cymru Policy and Public Affairs Manager Dr Tomos Evans, said:
This week’s debate is an important reminder that hospice services are an integral part of our palliative and end of life care system which is under huge pressure. Too many people are spending their final days isolated, in pain and struggling to make ends meet.
In Wales, almost a fifth of hospital beds are occupied by people in their last 12 months of life, and one in 14 emergency department attendances relates to someone at end of life. This tells us the system is struggling to support dying people and those close to them.
More people need to get the right care, in the right place – and we need to reduce avoidable trips to A&E. As the UK’s leading end of life charity, we know hospices and hospice care services in the community are key to providing care and support to people at end of life and those close to them.
Placing hospices on a sustainable financial footing must be part of the solution, alongside clear leadership and action to fully integrate palliative and end of life care across health and social care.
With demand for palliative and end of life care set to increase in the coming years, we need to see a transformation to our palliative and end of life care system. Political parties, the incoming Welsh Government and health leaders must urgently take the action needed to ensure our palliative and end of life care system is fit for purpose.
Sam Rowlands AS yn galw am fwy o gymorth ariannol i'r sector hosbisau a gofal lliniarol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu'r sector hosbisau a gofal lliniarol.
Roedd Mr Rowlands, Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid, sy'n aml yn mynegi ei bryder am y pwysau ariannol ar hosbisau, yn siarad yn y Senedd yn ystod Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Hosbisau.
Meddai:
Rydym eisoes wedi clywed bod hosbisau'n ei chael hi'n anodd ymdopi yn sgil costau cynyddol, prinder gweithlu a galw cynyddol am eu gwasanaethau. Rydym wedi clywed am y cynnydd mewn yswiriant gwladol i gyflogwyr, y biliau ynni cynyddol a’r costau gweithredu eraill sydd wedi achosi argyfwng ariannol i’r sefydliadau hynny sy'n bodoli'n bennaf i ofalu am bobl fregus.
Rwyf wedi clywed hyn yn uniongyrchol gan Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam, sydd wedi bod yn dathlu yn ddiweddar - deng mlynedd ar hugain o waith rhagorol yn Wrecsam yn cefnogi'r dref a'i chymunedau cyfagos. Fel pob hosbis yng Nghymru, maent yn wynebu pwysau ariannol, ac maent bellach yn gorfod cyllidebu diffyg ar gyfer y flwyddyn sy'n dod.
Nid y sector ei hun sy'n achosi'r pwysau hwn. Mae'n ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y lle hwn, a chan wleidyddion yn San Steffan hefyd, penderfyniadau sy'n cael eu gwneud i gynyddu cost cyflogaeth heb ddarparu cymorth i fynd law yn llaw â hynny, gan adael y sefydliadau hyn i ysgwyddo baich y galw cynyddol heb gyllid digonol.
Wrth sôn eto am Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam, pan agorodd ei ddrysau 30 mlynedd yn ôl, roedd ganddynt gostau rhedeg o oddeutu £1 filiwn y flwyddyn, gydag 80 y cant ohono'n gyllid statudol, ac roedd yn rhaid iddynt godi'r 20 y cant ychwanegol. Heddiw, mae gan yr un hosbis gostau rhedeg o oddeutu £5.6 miliwn, ac mae'r sefyllfa wedi'i throi ar ei phen. Bellach, maen nhw’n codi 80 y cant o'u harian, gyda dim ond 20 y cant yn dod o ffynonellau statudol. Mae hyn yn dangos y newid a fu ers y cyfnod hwnnw o 30 mlynedd yn y modd yr arferid ariannu hosbisau a'r ffordd nad ydynt yn cael eu hariannu'n ddigonol heddiw.
Ac fel y mae eraill wedi awgrymu eisoes, gadewch inni beidio ag anghofio bod hosbisau'n gwneud mwy na darparu gofal tosturiol. Maent yn tynnu pwysau oddi ar y GIG drwy gefnogi cleifion yn eu cymuned, yn eu cartrefi eu hunain, ac mewn unedau cleifion mewnol. Mae hosbisau'n lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty, yn helpu cleifion i adael yr ysbyty yn gynt, ac yn caniatáu i staff y GIG ganolbwyntio ar ofal acíwt hollbwysig.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i sefyll dros hosbisau, eu staff a'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi. Galwn ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i anwybyddu'r argyfwng hwn, i gyflwyno model ariannu cynaliadwy, a darparu'r adnoddau sydd eu hangen ar y gwasanaethau hanfodol hyn i barhau â'u gwaith anhygoel.
Dywedodd Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie Cymru, Dr Tomos Evans:
Mae'r ddadl yr wythnos hon yn bwysig ac mae’n ein hatgoffa am wasanaethau hosbis gan eu bod yn rhan annatod o'n system gofal lliniarol a gofal diwedd oes, sydd dan bwysau enfawr. Mae gormod o bobl yn treulio eu dyddiau olaf yn ynysig, mewn poen ac yn brwydro i wneud penderfyniadau.
Yng Nghymru, mae bron pump o welyau ysbyty yn cael eu defnyddio gan bobl yn 12 mis olaf eu bywyd, ac mae un o bob 14 presenoldeb mewn adrannau brys yn ymwneud â rhywun ar ddiwedd oes. Mae hyn yn dangos i ni fod y system yn ei chael hi’n anodd cefnogi pobl sy'n marw a'r rhai sy'n agos atyn nhw.
Dylai mwy o bobl gael y gofal cywir, yn y lle cywir - ac mae angen i ni leihau ymweliadau diangen ag unedau achosion brys. Fel prif elusen diwedd oes y DU, gwyddom fod hosbisau a gwasanaethau gofal hosbisau yn y gymuned yn allweddol ar gyfer darparu gofal a chefnogaeth i bobl ar ddiwedd oes a'r rhai sy'n agos atyn nhw.
Mae gosod hosbisau ar sail ariannol gynaliadwy yn gorfod bod yn rhan o'r ateb, ynghyd ag arweinyddiaeth a gweithredu clir, er mwyn integreiddio gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn llawn ar draws gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Gyda'r galw am ofal lliniarol a diwedd oes yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod, mae angen i ni weld newid mawr yn ein system gofal lliniarol a diwedd oes. Rhaid i bleidiau gwleidyddol, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr iechyd gymryd y camau sydd eu hangen ar frys i sicrhau bod ein system gofal lliniarol a diwedd oes yn addas i'r diben.