
Sam Rowlands, a Member of the Welsh Parliament for North Wales is urging the Welsh Government to do more to tackle bovine TB.
Mr Rowlands was commenting after new figures showed that record numbers of cattle had been culled because of the disease.
He said:
I fully support NFU Cymru who continue to campaign for more to be done to eradicate bovine TB. These latest figures should be a wake up call to the Welsh Government as clearly there needs to be a change in its current strategy.
When I speak to farmers in my region, bovine TB eradication is often the main point of conversation and they are quite rightly concerned that the eradication programme is not doing enough to deal with the root cause of the problem.
Sadly, currently, they often feel they are unable to take all of the steps necessary to protect their livestock and their businesses from the spread of bovine TB. And they are expected to live with the anxiety of having entire herds wiped out by this disease.
NFU Cymru say ‘Sobering’ new figures showing a record number of cattle culled in Wales last year because of bovine TB further underlines the need for change in strategy.
The Department for Environment, Food & Rural Affairs’ (DEFRA) latest quarterly statistics show that over 13,000 cattle were slaughtered in 2024 due to bovine TB – a 27% increase compared to 2023. The 2024 figures represent the largest ever number of cattle culled because of bovine TB over a 12-month period.
The wider disease picture for last year shows that overall herd incidence, which measures the rate at which new bTB incidents are being detected in an area, remained the same. Herd prevalence, defined as the percentage of all registered herds which were not Officially TB-Free (OTF) during the time, rose by 0.1%.
NFU Cymru has vowed to keep lobbying Welsh Government for ‘meaningful change’ and a comprehensive strategy that tackles bovine TB across all its vectors.
NFU Cymru President Aled Jones said:
These latest statistics paint a sobering picture of the total anguish being experienced by farming families across Wales affected by the hugely damaging impacts of this disease.
The scars left behind by bovine TB are numerous and can be seen running deep across the Welsh cattle industry. We cannot continue to slaughter this many cattle each year because of this disease and if the next generation are to have any hope of farming in Wales without the threat of bTB, then something needs to change.
Sam Rowlands AS yn galw am fwy o gefnogaeth i ffermwyr i ddelio â TB mewn gwartheg
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â TB mewn gwartheg.
Roedd Mr Rowlands yn siarad ar ôl i ffigyrau newydd ddangos bod y nifer uchaf erioed o wartheg wedi cael eu difa oherwydd y clefyd.
Meddai:
Rwy'n gwbl gefnogol o NFU Cymru sy'n parhau i ymgyrchu dros wneud mwy i ddileu TB mewn gwartheg. Dylai'r ffigurau diweddaraf hyn fod yn hwb i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth gan ei bod yn amlwg bod angen newid yn ei strategaeth bresennol.
Pan fyddaf i'n siarad â ffermwyr yn fy rhanbarth, dileu TB yn aml yw'r prif bwynt sgwrsio, ac maen nhw yn llygaid eu lle yn poeni nad yw’r rhaglen ddileu yn gwneud digon i ymdrin â gwir wraidd y broblem.
Yn anffodus, ar hyn o bryd, maen nhw'n aml yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu cymryd yr holl gamau sydd eu hangen i ddiogelu eu da byw a'u busnesau rhag lledaeniad TB, a disgwylir iddyn nhw fyw gyda'r pryder o gael buchesi cyfan wedi'u dileu gan y clefyd hwn.
Mae NFU Cymru yn dweud bod ffigyrau newydd yn sobri rhywun gan eu bod yn dangos y nifer uchaf erioed o wartheg yn cael eu difa yng Nghymru y llynedd oherwydd TB mewn gwartheg. Mae hyn yn tanlinellu ymhellach yr angen am newid yn y strategaeth.
Mae ystadegau chwarterol diweddaraf Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn dangos bod dros 13,000 o wartheg wedi'u lladd yn 2024 oherwydd TB mewn gwartheg – cynnydd o 27% o'i gymharu â 2023. Mae ffigurau 2024 yn cynrychioli'r nifer fwyaf erioed o wartheg a gafodd eu difa oherwydd TB mewn gwartheg dros gyfnod o 12 mis.
Mae'r darlun ehangach o’r clefyd ar gyfer y llynedd yn dangos bod nifer yr achosion cyffredinol o fuchesi, sy'n mesur y gyfradd y mae achosion newydd o bTB yn cael eu canfod mewn ardal, wedi aros yr un fath. Cynyddodd cyffredinolrwydd buchesi, a ddiffinnir fel canran yr holl fuchesi cofrestredig nad oedden nhw’n Swyddogol Rhydd o TB (OTF) yn ystod y cyfnod, o 0.1%.
Mae NFU Cymru wedi addo parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am 'newid ystyrlon' a strategaeth gynhwysfawr sy'n mynd i'r afael â TB mewn gwartheg ar draws ei holl fectorau.
Meddai Llywydd NFU Cymru, Aled Jones:
Mae'r ystadegau diweddaraf hyn yn rhoi darlun ysgytwol o'r holl boen sy'n cael ei brofi gan deuluoedd ffermio ledled Cymru wrth iddynt gael eu heffeithio gan effeithiau hynod niweidiol y clefyd hwn.
Mae'r creithiau a adawyd ar ôl gan TB mewn gwartheg yn niferus a gellir eu gweld yn rhedeg yn ddwfn ar draws diwydiant gwartheg Cymru. Ni allwn barhau i ladd cymaint o wartheg bob blwyddyn oherwydd y clefyd hwn ac os yw'r genhedlaeth nesaf am gael unrhyw obaith o ffermio yng Nghymru heb fygythiad bTB, yna mae angen i rywbeth newid.