
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has added his voice to concerns over parking problems at hospitals in his region.
Mr Rowlands was commenting after newspaper reports highlighted the increasing problem for people trying to park their vehicles at the three main hospitals in North Wales.
He said:
It is very worrying to see that car parking continues to be a major problems for people visiting our three main hospitals in Wrexham, Bodelwyddan and Bangor.
Parking has been a major and challenging issue at all our hospitals in North Wales for many years as the demand quite clearly outweighs the number of spaces available at all three sites and there needs to be a proper strategy put in place to deal with the issue.
I have highlighted the problems, in the past, particularly at the Wrexham Maelor site yet the health board continue to drag their feet to find solutions. And they do not seem to get any help or support from the Welsh Labour Government.
I regularly receive emails from angry constituents who have been faced with this problem, and I feel so very sorry on their behalf as it is something which really should have been resolved by now.
As a person who has experienced the problems at first hand I know the last thing anyone working, visiting or attending for appointments needs is to have to drive round and round to find a suitable parking space. Yet from reports this is happening every day and appears to be getting steadily worse every year.
I recently read in a Wrexham newspaper about people’s experiences of trying to park with grass verges, pavements and yellow lines all being used for parking. This is clearly unacceptable as it is dangerous because it blocks pathways and forces people to walk on the busy roads.
Sam Rowlands AS yn galw ar Fwrdd Iechyd Gogledd Cymru i ddelio ar unwaith â phroblemau parcio mewn ysbytai
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi ychwanegu ei lais at bryderon am broblemau parcio mewn ysbytai yn ei ranbarth.
Roedd Mr Rowlands yn gwneud y sylw ar ôl i adroddiadau papur newydd amlygu'r broblem gynyddol i bobl sy'n ceisio parcio eu cerbydau yn y tri phrif ysbyty yn y Gogledd.
Meddai:
Mae'n destun pryder mawr gweld bod parcio ceir yn parhau i fod yn broblem fawr i bobl sy'n ymweld â'n tri phrif ysbyty yn Wrecsam, Bodelwyddan a Bangor.
Mae parcio wedi bod yn broblem fawr a heriol ym mhob un o'n hysbytai yn y Gogledd ers blynyddoedd lawer gan fod y galw yn amlwg yn gorbwyso nifer y lleoedd sydd ar gael ym mhob un o'r tri safle ac mae angen rhoi strategaeth briodol ar waith i ddelio â'r broblem.
Rydw i wedi tynnu sylw at y problemau, yn y gorffennol, yn enwedig ar safle Maelor Wrecsam ond eto mae'r bwrdd iechyd yn parhau i lusgo'u traed wrth ddod o hyd i atebion. Dyw hi ddim yn ymddangos eu bod yn cael unrhyw gymorth na chefnogaeth gan Lywodraeth Llafur Cymru.
Rwy'n derbyn e-byst rheolaidd gan etholwyr blin sydd wedi wynebu'r broblem hon, ac rwy'n teimlo mor flin ar eu rhan gan ei fod yn rhywbeth y dylai fod wedi'i ddatrys erbyn hyn.
Fel rhywun sydd wedi profi'r union broblemau hyn fy hun, rwy'n gwybod mai'r peth olaf y mae unrhyw un sy'n gweithio yno, yn ymweld neu'n mynd i apwyntiad eisiau ei wneud yw gorfod gyrru rownd a rownd i ddod o hyd i le parcio addas. Ond yn ôl pob adroddiad, mae hyn yn digwydd bob dydd ac mae fel pe bai’n gwaethygu'n raddol bob blwyddyn.
Yn ddiweddar, mewn papur newydd yn Wrecsam, darllenais am brofiadau pobl yn ceisio parcio ar ymylon ffyrdd, ar balmentydd ac ar linellau melyn. Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol oherwydd ei fod yn beryglus, mae’n rhwystro llwybrau ac yn gorfodi pobl i gerdded ar ffyrdd prysur.