
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on constituents to have their say on helping to shape the future of Buckley.
Mr Rowlands is backing a digital public consultation survey which has been launched by Flintshire County Council and runs until March 10.
He said:
As everybody knows I am a great believer in local people being asked for their views when it comes to what they want to see in their community and welcome this consultation.
Buckley is just one of seven town centres in Flintshire which has been earmarked for development over the next 18 months and it is absolutely vital that local feedback is fully considered.
It is really important for the future of our high streets and small businesses that every effort is made to develop areas in the right way and I would urge anyone who has any views or comments to take part in the consultation.
Initial consultation activity began in 2023, with the public asked to share their perceptions of Buckley as part of a process to develop ‘Place Making Plans’ for seven town centres over the next 18 months.
Following more than 2,300 responses to the online and in-person public consultation, work has been ongoing to develop the Place Making Plan for Buckley.
Using UK Government Shared Prosperity Funds, the draft Place Making Plan has now been developed based on data, research and public opinion, and is now at final draft stage and is to be shared with the public for further consultation before being considered for adoption by the council and its external partners.
This latest engagement will enable members of the public to see the draft plan, the key priorities that have been identified and the proposed approach to implementing the plan. The survey seeks to determine the public’s support of the priorities and the course of action to be taken.
Place Making Plan activity is being led by Flintshire County Council’s Regeneration team in collaboration with a range of other council services and external partner organisations.
Place Making Plans will set out a future vision for each town, outline priorities that can help improve the overall vibrancy and attractiveness of the place and seek to address the needs of people who live, work and visit the towns.
The development of the plans for each town creates opportunities for a range of stakeholders to work more collaboratively to deliver improvements.
Local people who live, work or visit Buckley will have the opportunity to participate in an online survey about their town centre until March 10, 2025. To take part in the survey go to: https://www.givemyview.com/placemakinginflintshire/surveys/6791243d61e2a399f47b79b1
Following the online consultation, face-to-face consultation will be held in Buckley. More information about this opportunity to engage with the plan will be released shortly.
Sam Rowlands AS yn galw ar drigolion i rannu eu barn ar gynlluniau ar gyfer dyfodol eu tref yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar etholwyr i ddweud eu dweud a helpu i lunio dyfodol Bwcle.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi arolwg ymgynghori cyhoeddus digidol sydd wedi'i lansio gan Gyngor Sir y Fflint ac sydd ar agor tan 10 Mawrth.
Meddai:
Fel mae pawb yn ei wybod, rwy'n credu'n gryf y dylai pobl leol fedru rhannu eu barn ar yr hyn maen nhw am ei weld yn eu cymuned ac rwy’n croesawu'r ymgynghoriad hwn.
Mae Bwcle yn un o saith canol tref yn Sir y Fflint sydd wedi'i glustnodi i'w ddatblygu dros y 18 mis nesaf ac mae'n gwbl hanfodol bod adborth lleol yn cael ei ystyried yn llawn.
Mae'n bwysig iawn ar gyfer dyfodol ein stryd fawr a'n busnesau bach bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i ddatblygu ardaloedd yn y ffordd iawn a byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw farn neu sylwadau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Dechreuodd y gweithgaredd ymgynghori cychwynnol yn 2023, a gofynnwyd i'r cyhoedd rannu eu canfyddiadau o Fwcle fel rhan o broses i ddatblygu 'Cynlluniau Creu Lleoedd' ar gyfer saith canol tref dros y 18 mis nesaf.
Yn dilyn mwy na 2,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ddatblygu'r Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Bwcle.
Gan ddefnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae'r Cynllun Creu Lleoedd drafft bellach wedi'i ddatblygu yn seiliedig ar ddata, ymchwil a barn y cyhoedd. Mae bellach yn ei gam drafft terfynol ac yn cael ei rannu gyda'r cyhoedd er mwyn ymgynghori ymhellach arno a’i ystyried fel cynllun i'w fabwysiadu gan y cyngor a'i bartneriaid allanol.
Bydd yr ymgysylltu diweddaraf hwn yn galluogi aelodau o'r cyhoedd i weld y cynllun drafft, y blaenoriaethau allweddol sydd wedi'u nodi a'r dull arfaethedig o weithredu'r cynllun. Mae'r arolwg yn ceisio mesur cefnogaeth y cyhoedd i'r blaenoriaethau a'r camau i'w cymryd.
Mae gweithgaredd y Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag ystod o wasanaethau eraill y cyngor a sefydliadau partner allanol.
Bydd y Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth ar gyfer pob tref yn y dyfodol, yn amlinellu blaenoriaethau a all helpu i wella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y llefydd hyn ac yn ceisio mynd i'r afael ag anghenion pobl sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â'r trefi.
Mae datblygu'r cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o randdeiliaid weithio'n fwy cydweithredol i gyflawni gwelliannau.
Bydd pobl leol sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â Bwcle yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein am ganol eu tref tan 10 Mawrth 2025. I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i: https://www.givemyview.com/placemakinginflintshire/surveys/6791243d61e2a399f47b79b1
Yn dilyn yr ymgynghoriad ar-lein, bydd ymgynghoriad wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal ym Mwcle. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn i ymgysylltu â'r cynllun maes o law.