Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for Fflint Wrecsam, has praised a talented young apprentice from Wrexham.
Mr Rowlands, the Welsh Conservative spokesperson for education, has congratulated Coleg Cambria apprentice, Tomas Ankers who won a Medal for Excellence in CNC Milling representing Team UK at the WorldSkills Shanghai 2026 finals last month.
Mr Rowlands said:
I was absolutely delighted to have the opportunity to meet Tomas at a special event to celebrate the success of the six Welsh members of the UK team who did so well in the finals.
It was great to talk to him about his experiences and to be able to congratulate him in person after hearing all about his achievements.
This is yet another success story for Coleg Cambria and it is fantastic to see young people from my constituency flourishing and taking centre stage in international events.
Coleg Cambria student Tomas Ankers, 19, who is employed by Electroimpact UK Ltd, Deeside represented Team UK in the CNC Milling category. In his category of CNC Milling he scored 705 points to earn world class recognition.
Competing on the global stage in Shanghai followed his Medallion for Excellence at EuroSkills Herning 2025 and a Highly Commended award at the WorldSkills UK finals.
The prestigious event in Cardiff was also a celebration for this year’s ‘Inspiring Skills Torch Relay’, which will visit colleges and training providers across Wales, celebrating local talent and highlighting the vital role of vocational skills in our communities.
Sam Rowlands AS yn llongyfarch prentis Coleg Cambria
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros etholaeth Fflint Wrecsam, wedi canmol prentis ifanc talentog o Wrecsam.
Mae Mr Rowlands, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros addysg, wedi llongyfarch prentis Coleg Cambria, Tomas Ankers ar ôl iddo ennill Medal am Ragoriaeth mewn Melino dan Reolaeth Cyfrifiadur (melino awtomatig, manwl) wrth gynrychioli Tîm y DU yn rowndiau terfynol WorldSkills Shanghai 2026 fis diwethaf.
Meddai Mr Rowlands:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i gwrdd â Tomas mewn digwyddiad arbennig i ddathlu llwyddiant y chwe aelod o Gymru a oedd yn nhîm y DU ac a wnaeth mor dda yn y rowndiau terfynol.
Roedd hi’n wych siarad ag ef am ei brofiadau a gallu ei longyfarch wyneb yn wyneb ar ôl clywed popeth am ei gyflawniadau.
Mae hon yn stori lwyddiant arall i Goleg Cambria ac mae'n wych gweld pobl ifanc o fy etholaeth yn ffynnu ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol.
Roedd Tomas Ankers, sy’n fyfyriwr yng Ngholeg Cambria, 19 oed, ac sy'n cael ei gyflogi gan Electroimpact UK Ltd, Glannau Dyfrdwy, yn cynrychioli tîm y DU yn y categori Melino â Chymorth Cyfrifiadur. Sgoriodd 705 pwynt yn ei gategori i ennill cydnabyddiaeth fyd-eang.
Roedd yn cystadlu ar y llwyfan byd-eang yn Shanghai ar ôl ennill y Fedal am Ragoriaeth yn EuroSkills Herning 2025 a gwobr Canmoliaeth Uchel yn rowndiau terfynol WorldSkills UK.
Roedd y digwyddiad mawreddog yng Nghaerdydd hefyd yn ddathliad ar gyfer 'Ras Gyfnewid Torch Ysbrydoli Sgiliau' eleni, a fydd yn ymweld â cholegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru, gan ddathlu doniau lleol ac amlygu rôl hanfodol sgiliau galwedigaethol yn ein cymunedau.