
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says concerns are growing over the planned introduction of the controversial tourist tax in North Wales.
Mr Rowlands Chairman of the Cross-Party Group on Tourism, believes the new levy will seriously impact businesses and recently visited several sites in Wrexham and Flintshire.
Last November the Welsh Government said they planned to introduce a levy of £1.25 per night for people staying in commercially-let overnight visitor accommodation from 2027, a move which was condemned by tourism businesses in North Wales.
Mr Rowlands, who has constantly argued against any such levy said he is now seeing at firsthand how this ridiculous idea will impact local businesses.
I recently met with a group of business owners about this proposed tourist tax and followed this up with a visit to several different premises in the Wrexham area to hear about their growing concerns.
Many of them fear that it will certainly impact their businesses. I met with Mandy McDermott, who runs Golly Farm Cottages, in Rossett, Glenn Carney, General Manager at The Plassey Caravan Park and Daryl Shaw, Group Operations Director for Everbright Hotels group who own Rossett Hall Hotel and six others in North Wales.
They are all extremely concerned at the impact of a levy will have on their business in the future and fear it will have a detrimental effect and discourage tourists to North Wales.
I share their concerns and fully support the Welsh Association of Visitor Attractions, WAVA who were due to hold a protest on March 1, against the tourist tax by flying flags at half-mast and shutting their doors for one day.
It is a very sobering thought to think they have to resort to such drastic measures to be heard. Tourism is major business in North Wales, in particular, and I do not want to see us losing out because of a Labour Welsh Government failing to give the sector the support it needs
Local councils do not have to introduce this levy and I would be urging them to seriously think about the dire consequences of introducing this tax.
Sam Rowlands AS yn parhau i ymgyrchu yn erbyn treth ymwelwyr yng Ngogledd Cymru
Dywed Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, bod pryderon yn cynyddu ynghylch bwriad i gyflwyno'r dreth twristiaid ddadleuol yng Ngogledd Cymru.
Mae Mr Rowlands, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth, yn credu y bydd yr ardoll newydd yn effeithio'n andwyol ar fusnesau ac mae wedi ymweld â sawl safle yn Wrecsam a Sir y Fflint yn ddiweddar.
Fis Tachwedd y llynedd dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu cyflwyno ardoll o £1.25 y noson i bobl sy'n aros mewn llety ymwelwyr dros nos sydd wedi'i osod yn fasnachol o 2027, cam a gafodd ei gondemnio gan fusnesau twristiaeth yn y Gogledd.
Dywedodd Mr Rowlands, sydd wedi dadlau'n gyson yn erbyn unrhyw ardoll o'r fath, ei fod bellach yn gweld yn uniongyrchol sut y bydd y syniad gwirion hwn yn effeithio ar fusnesau lleol.
Yn ddiweddar, mi wnes i gwrdd â grŵp o berchnogion busnes a buom yn trafod y dreth twristiaid arfaethedig hon. Yna mi wnes i ymweld â sawl safle gwahanol yn ardal Wrecsam i glywed am eu pryderon cynyddol.
Mae llawer ohonyn nhw'n ofni y bydd yn sicr yn effeithio ar eu busnesau. Cefais gyfarfod â Mandy McDermott, sy'n rhedeg Golly Farm Cottages, yn yr Orsedd, Glenn Carney, Rheolwr Cyffredinol Parc Carafanau Plassey a Daryl Shaw, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp i Everbright Hotels Group sy'n berchen ar Westy'r Rossett Hall a chwe gwesty arall yng Ngogledd Cymru.
Maen nhw i gyd yn bryderus iawn am effaith yr ardoll ar eu busnes yn y dyfodol ac yn poeni y bydd yn cael effaith niweidiol ac yn cadw twristiaid draw o’r Gogledd.
Rwy'n rhannu eu pryderon ac yn llwyr gefnogi Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru (WAVA) a oedd wedi bwriadu cynnal protest ar 1 Mawrth yn erbyn y dreth twristiaid trwy ostwng eu baneri hanner ffordd a chau eu drysau am un diwrnod.
Mae'n dipyn o beth meddwl bod yn rhaid iddyn nhw droi at fesurau mor llym i gael eu clywed. Mae twristiaeth yn fusnes pwysig yn y Gogledd, yn benodol, a dydw i ddim am ein gweld ar ein colled oherwydd bod Llywodraeth Llafur Cymru yn methu â darparu'r cymorth sydd ei angen ar y sector.
Does dim rhaid i gynghorau lleol gyflwyno'r ardoll hon a byddwn yn eu hannog i feddwl o ddifrif am ganlyniadau enbyd cyflwyno'r dreth.