Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS criticises North Wales growth deal

  • Tweet
Wednesday, 9 July, 2025
  • Speeches
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called on the Welsh Government to treat his region as a priority for jobs and growth.

Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Cabinet Minister for Finance asked the First Minister for an update on the North Wales growth deal.

He said:

I was pleased to be involved in the early stages of the growth deal, and to see Governments in both Westminster and here in Cardiff bay working together to see investment in the region.

At the time, there was a promise of a total of around £1 billion-worth of investment, both from public and private sector investment, and a promise of up to 4,000 jobs in the region. In recent weeks, the Senedd's Economy, Trade and Rural Affairs Committee highlighted the fact that only 35 jobs have been created in over five years of the growth deal being in place.

That is a very, very poor record, to say the least, of how the growth deal is going here in Wales. It's letting people down in North Wales, an area that is crying out for improvement in the economy and crying out for those all-important jobs as well.

The Welsh Government has a role to play in ensuring this growth deal is delivered and those promises are kept. So, how are you going to ensure that North Wales is treated as a priority and that we see delivery of these jobs and the growth that we need in the region?

The First Minister, Eluned Morgan admitted that the pace of the North Wales growth deal was very disappointing and they were trying to drive the corporate joint committee that is responsible for delivering on this.

Mr Rowlands added:

I really do find it extremely frustrating when we hear about promises being made to bring more jobs and prosperity to North Wales and yet we are continually let down.

My constituents deserve so much more from this Welsh Government.

 

Sam Rowlands AS yn beirniadu cytundeb twf y Gogledd

Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i drin ei ranbarth fel blaenoriaeth ar gyfer swyddi a thwf.

Yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid, i'r Prif Weinidog am ddiweddariad ar fargen twf Gogledd Cymru.

Meddai:

Roeddwn yn falch o fod â rhan ar gamau cynnar y fargen twf, ac roeddwn i'n falch o weld Llywodraethau yn San Steffan ac yma ym Mae Caerdydd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau buddsoddiad yn y rhanbarth.

Ar y pryd, fod yna addewid o fuddsoddiad gyda chyfanswm o tua £1 biliwn, oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd, ac addewid o greu hyd at 4,000 o swyddi yn y rhanbarth. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol hefyd, Prif Weinidog, fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 35 o swyddi a grëwyd yn y cyfnod o dros bum mlynedd y bu'r fargen twf ar waith.

Nawr, mae hwnnw'n hanes digalon iawn, a dweud y lleiaf, o ran sut y mae'r fargen twf yn gweithio yma yng Nghymru. Mae'n siomi pobl yn y gogledd, ardal sy'n gweiddi am welliant yn yr economi ac yn ysu am gael y swyddi hollbwysig hynny hefyd.

Mae gan Lywodraeth Cymru ran wrth sicrhau bod y fargen twf hon yn cael ei chyflawni a'r addewidion hynny'n cael eu cadw. Felly, sut ydych chi am sicrhau bod y gogledd yn cael ei flaenoriaethu a'n bod ni'n gweld y swyddi hyn yn cael eu creu yn ogystal â'r twf sydd ei angen arnom ni yn y rhanbarth?

Cyfaddefodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan fod cyflymder cytundeb twf Gogledd Cymru yn siomedig iawn a'u bod yn ceisio annog y cyd-bwyllgor corfforaethol sy'n gyfrifol am gyflawni hyn.

Ychwanegodd Mr Rowlands:

Mae’n hynod rwystredig pan fyddwn ni’n clywed am addewidion i ddod â mwy o swyddi a ffyniant i’r Gogledd ac eto rydyn ni'n cael ein siomi yn barhaus.

Mae fy etholwyr yn haeddu cymaint mwy gan y Llywodraeth Cymru hon.

You may also be interested in

Sam Rowlands MS

Sam Rowlands MS supports new programme for students

Thursday, 28 May, 2026
Sam Rowlands AS yn cefnogi rhaglen newydd i fyfyrwyr

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands for Fflint Wrecsam

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands. All rights reserved.
Powered by Bluetree