Sam Rowlands MS for Fflint Wrecsam has welcomed news that Wrexham has been shortlisted to become UK City of Culture 2029.
Mr Rowlands, the Welsh Conservative spokesperson for finance, education and families and a long-time supporter of the bid said:
I am absolutely delighted to see Wrexham making the final four shortlist, it is brilliant news. Huge congratulations must go to everyone involved. What an achievement it would be to become the first Welsh City of Culture.
It is a tremendous opportunity to continue to promote and showcase all that Wrexham has to offer. I supported Wrexham’s bid to become UK City of Culture in 2025 when they finished runner up to Bradford and now I really hope they can go one better and bring the prestigious title to the city.
A lot of experience and knowledge was gained from the previous bid and I know, from speaking to many people across Wrexham, there is great determination to show what this wonderful city has to offer and celebrate its unique culture and heritage through a vibrant and imaginative programme for 2029.
Earlier this year I had the pleasure of being given a tour of the city centre by Culture Bid Director, Amanda Evans and it was fantastic to see how much work was being carried in preparation for the bid. This city has a story like no other and it would be great to have our heritage and creativity on the world stage.
At the time, Amanda Evans, Culture Bid Director, said:
It is an exciting time for Wrexham and we believe that winning the title will be transformational for culture not just in Wrexham but across Wales.
It was announced today that Wrexham, alongside, Blackpool, Milton Keynes and Sheffield is one of four cities bidding to be next UK City of Culture in 2029.
The team leading the bid has reaffirmed it is ready to deliver a programme that would transform the lives of people across the region, leave a legacy for future generations and have an impact for the whole of Wales.
Were Wrexham to become the first Welsh UK City of Culture, as well as the initial £10 million investment from DCMS, it is estimated it would have an economic impact of more than £200 million, and bring new job opportunities, increased visitor numbers, and wider social and cultural benefits.
Inspired by the ambition to make Wrexham the world’s most playful place, thousands of local people have shaped the Wrecsam2029 bid, from schoolchildren to cultural organisations, and community groups to businesses.
Far more than a single year of events, it builds on work already underway to develop Wrexham as a thriving creative industries hub and cultural destination.
Winning would add further momentum to Wrexham’s efforts to improve infrastructure, support its grassroots scene, offer more creative careers, especially for young people, and widen community participation.
Following a final presentation to the judging panel, the UK City of Culture 2029 winner is expected to be announced in December 2026 or January 2027.
Sam Rowlands AS wrth ei fodd â chais Wrecsam i ddod yn Ddinas Ddiwylliant gyntaf Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros etholaeth Fflint Wrecsam, wedi croesawu'r newyddion bod Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029.
Meddai Mr Rowlands, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros gyllid, addysg a theuluoedd, ac un sy’n gefnogol iawn i’r cais ers amser:
Rwy'n falch iawn o weld Wrecsam yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y pedwar olaf, ac mae'n newyddion gwych. Rhaid llongyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan. Byddai bod yn Ddinas Diwylliant gyntaf Cymru yn gyflawniad gwych i Wrecsam.
Mae'n gyfle gwych i barhau i hyrwyddo ac arddangos popeth sydd gan Wrecsam i'w gynnig. Fe wnes i gefnogi cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025 pan orffennodd yn ail i Bradford a nawr rwy'n gobeithio y gallan nhw fynd gam ymhellach a dod â'r teitl mawreddog i'r ddinas.
Mae llawer o brofiad a gwybodaeth wedi deillio o'r cais blaenorol ac rwy'n gwybod, o siarad â llawer o bobl ledled Wrecsam, bod pawb yn benderfynol o ddangos yr hyn sydd gan y ddinas wych hon i'w gynnig a dathlu ei diwylliant a'i threftadaeth unigryw trwy raglen fywiog a dychmygus ar gyfer 2029.
Yn gynharach eleni cefais y pleser o gael taith o amgylch canol y ddinas gan Gyfarwyddwr y Cais Diwylliant, Amanda Evans, ac roedd hi’n wych gweld faint o waith oedd yn cael ei wneud i baratoi ar gyfer y cais. Mae gan y ddinas hon stori heb ei hail a byddai'n wych cael dangos ein treftadaeth a'n creadigrwydd ar lwyfan y byd.
Ar y pryd, dywedodd Amanda Evans, Cyfarwyddwr y Cais Diwylliant:
Mae'n gyfnod cyffrous i Wrecsam ac rydyn ni’n credu y bydd ennill y teitl yn drawsnewidiol i ddiwylliant nid yn unig yn Wrecsam ond ledled Cymru.
Cyhoeddwyd heddiw bod Wrecsam, ochr yn ochr â Blackpool, Milton Keynes a Sheffield yn un o bedair dinas sy'n ymgeisio i fod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU yn 2029.
Mae'r tîm sy'n arwain y cais wedi ailddatgan ei fod yn barod i gyflwyno rhaglen a fyddai'n trawsnewid bywydau pobl ar draws y rhanbarth, yn gadael gwaddol i genedlaethau'r dyfodol ac yn cael effaith ar Gymru gyfan.
Pe bai Wrecsam yn dod yn Ddinas Diwylliant gyntaf y DU yng Nghymru, yn ogystal â'r buddsoddiad cychwynnol o £10 miliwn gan DCMS, amcangyfrifir y byddai'n cael effaith economaidd o fwy na £200 miliwn, ac yn dod â chyfleoedd swyddi newydd, mwy o ymwelwyr, a manteision cymdeithasol a diwylliannol ehangach.
Wedi'u hysbrydoli gan yr uchelgais i wneud Wrecsam y lle mwyaf chwareus yn y byd, mae miloedd o bobl leol wedi helpu i lunio cais Wrecsam2029 – o blant ysgol i sefydliadau diwylliannol, ac o grwpiau cymunedol i fusnesau.
Mae’n golygu llawer mwy na blwyddyn o ddigwyddiadau ac mae’n adeiladu ar waith sydd eisoes ar y gweill i ddatblygu Wrecsam fel canolfan ffyniannus i'r diwydiannau creadigol a chyrchfan ddiwylliannol.
Byddai ennill yn ychwanegu momentwm pellach at ymdrechion Wrecsam i wella seilwaith, cefnogi’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad, cynnig gyrfaoedd mwy creadigol – yn enwedig i bobl ifanc – ac ehangu cyfranogiad cymunedol.
Yn dilyn cyflwyniad terfynol i'r panel o feirniaid, disgwylir i enillydd Dinas Diwylliant y DU 2029 gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2026 neu fis Ionawr 2027.