Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed news that Wrexham has made the final nine for the prestigious title of UK City of Culture 2029.
Mr Rowlands, a keen supporter of the bid, was commenting after it was announced that the borough is one of nine locations to make the longlist to host the prestigious title in just three years’ time.
He said:
I was fortunate enough to recently meet with Amanda Evans, Culture Bid Director who took me on a tour to show me what work was being caried out in the city to promote Wrexham and I was very impressed.
I was absolutely delighted to hear today that Wrexham is on that long list, the only Welsh city to do so. It is brilliant news.
Congratulations must go to everyone for all their hard work so far and I would now like to see the Welsh Government getting behind them.
It is a tremendous opportunity to continue to promote and showcase all that Wrexham has to offer and as the Chair of the Senedd’s Cross Party Group on Tourism I am delighted to keep backing this exciting venture.
Wrexham has the most fantastic culture to offer, including Wrexham Football Club and the, Pontcysyllte Aqueduct which has received UNESCO world heritage status, the cultural community centre of Tŷ Pawb, theatres, churches, the list is endless.
Winning the UK City of Culture will not only have huge benefits to Wrexham, but the whole of North Wales, creating jobs, driving investment and delivering long-lasting benefits, putting Wrexham and North Wales on the international radar.
Wrexham, who made the shortlist in 2022 for the 2025 event, is the only Welsh city bidding for the title, which provides an excellent opportunity to celebrate the uniqueness of Welsh culture and put the whole of Wales in the national spotlight by flying the flag for Wales.
The nine locations will now each receive £60,000 to help develop their full bids and if Wrexham win the 2029 title, they could secure £10 million from the UK Government, helping to attract investment, boost tourism and improve access to arts and culture in the area and across the region.
Being longlisted helps to highlight the evolving story of Wrexham. As a county already steeped in culture, this recognition adds even more momentum to the incredible things already happening across the county, including the recently opened Creative Industries Hub, the soon-to-open National Football Museum for Wales, the exciting development of Stori Brymbo, the newly developed Public Art Trail and a growing calendar of vibrant cultural events.
A Welsh city has yet to hold the UK City of Culture title. Success for Wrexham extends far beyond the city and its surrounding counties; a victory would provide a significant boost to the cultural profile of Wales as a whole. National support is vital to demonstrating why Wales is a worthy contender on the UK stage, with the whole country encouraged to back Wrexham’s bid.
Amanda Evans, Culture Bid Director said:
We are delighted to make the longlist and are more driven than ever to win the UK City of Culture title for 2029.
Winning the bid will help to secure a bright social and economic future for Wrexham, bringing new opportunities for people who live and work in the area, as well as supporting our arts and culture sector in more ways than ever before.
This is a really, really exciting time for us and we are committing everything over the next few months to put Wrexham on a global stage and show why we are worthy of winning the title.
Wrexham will now be invited to submit a full application to the UK Government Department for Culture, Media & Sport by Summer 20206. A shortlist of up to four places will be announced in the Autumn.
Sam Rowlands AS wrth ei fodd bod Wrecsam gam yn nes at ddod yn Ddinas Diwylliant gyntaf Cymru
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion bod Wrecsam wedi cyrraedd y naw olaf ar gyfer teitl mawreddog Dinas Diwylliant y DU 2029.
Roedd Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd o'r cais, yn gwneud sylwadau ar ôl y cyhoeddiad bod y fwrdeistref yn un o naw lleoliad i gyrraedd y rhestr hir ar gyfer y teitl mawreddog yn 2029.
Meddai:
Roeddwn i'n ddigon ffodus i gwrdd ag Amanda Evans, Cyfarwyddwr y Cais Diwylliant, yn ddiweddar ac fe aeth â mi ar daith i ddangos i mi pa waith oedd yn cael ei wneud yn y ddinas i hyrwyddo Wrecsam, ac fe greodd y cyfan gryn argraff arnaf i.
Roeddwn i wrth fy modd o glywed heddiw bod Wrecsam ar y rhestr hir honno, yr unig ddinas yng Nghymru i wneud hynny. Mae'n newyddion gwych.
Llongyfarchiadau i bawb am eu holl waith caled hyd yma a hoffwn nawr weld Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi.
Mae'n gyfle gwych i barhau i hyrwyddo ac arddangos popeth sydd gan Wrecsam i'w gynnig ac, fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rwy'n falch iawn o barhau i gefnogi'r fenter gyffrous hon.
Mae gan Wrecsam ddiwylliant anhygoel i'w gynnig, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam a Dyfrbont Pontcysyllte sydd wedi derbyn statws treftadaeth y byd UNESCO, canolfan gymunedol ddiwylliannol Tŷ Pawb, theatrau, eglwysi, mae'r rhestr yn ddiddiwedd.
Bydd ennill Dinas Diwylliant y DU nid yn unig yn dod â manteision enfawr i Wrecsam, ond i;r Gogledd i gyd, gan greu swyddi, cymell buddsoddiad a darparu manteision hirhoedlog, gan roi Wrecsam a gweddill y Gogledd ar y map rhyngwladol.
Wrecsam, a gyrhaeddodd y rhestr fer yn 2022 ar gyfer digwyddiad 2025, yw'r unig ddinas yng Nghymru sy'n ymgeisio am y teitl, sy'n gyfle gwych i ddathlu unigrywiaeth diwylliant Cymru a rhoi Cymru gyfan dan y chwyddwydr genedlaethol drwy chwifio'r faner i Gymru.
Bydd y naw lleoliad yn cael £60,000 yr un i’w helpu i ddatblygu eu ceisiadau llawn ac, os bydd Wrecsam yn ennill teitl 2029, gallai sicrhau £10 miliwn gan Lywodraeth y DU, gan helpu i ddenu buddsoddiad, rhoi hwb i dwristiaeth a gwella mynediad at y celfyddydau a diwylliant yn yr ardal ac ar draws y rhanbarth.
Mae bod ar y rhestr hir yn helpu i dynnu sylw at stori esblygol Wrecsam. Fel sir sydd eisoes yn llawn diwylliant, mae'r gydnabyddiaeth hon yn ychwanegu hyd yn oed mwy o fomentwm at y pethau anhygoel sy'n digwydd eisoes ledled y sir, gan gynnwys yr Hyb Diwydiannau Creadigol a agorwyd yn ddiweddar, Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol Cymru a fydd yn agor cyn bo hir, datblygiad cyffrous Stori Brymbo, y Llwybr Celf Gyhoeddus sydd newydd ei ddatblygu a chalendr o ddigwyddiadau diwylliannol bywiog sy’n tyfu o hyd.
Nid oes unrhyw ddinas yng Nghymru erioed wedi cipio teitl Dinas Diwylliant y DU. Mae llwyddiant i Wrecsam yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ddinas a'r siroedd cyfagos; byddai buddugoliaeth yn rhoi hwb sylweddol i broffil diwylliannol Cymru gyfan. Mae cefnogaeth genedlaethol yn hanfodol i ddangos pam mae Cymru'n ymgeisydd teilwng ar lwyfan y DU, gyda'r wlad gyfan yn cael ei hannog i gefnogi cais Wrecsam.
Meddai Amanda Evans, Cyfarwyddwr y Cais Diwylliant:
Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cyrraedd y rhestr hir ac rydyn ni’n fwy penderfynol nag erioed i ennill teitl Dinas Diwylliant y DU ar gyfer 2029.
Bydd ennill y cais yn helpu i sicrhau dyfodol cymdeithasol ac economaidd disglair i Wrecsam, gan ddod â chyfleoedd newydd i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal, yn ogystal â chefnogi ein sector celfyddydau a diwylliant mewn mwy o ffyrdd nag erioed o'r blaen.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ni ac rydyn ni am wneud popeth dros y misoedd nesaf i roi Wrecsam ar lwyfan byd-eang a dangos pam ein bod ni'n haeddu ennill y teitl.
Bydd Wrecsam nawr yn cael ei gwahodd i gyflwyno cais llawn i Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU erbyn Haf 20206. Bydd rhestr fer o hyd at bedwar lle yn cael ei chyhoeddi yn yr Hydref.