
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling for improvements to alleviate parking issues at Wrexham Maelor Hospital.
Mr Rowlands was commenting after hearing that the health board was considering re-introducing a park and ride system at Glan Clwyd Hospital in Bodelwyddan.
He said:
I was a great supporter of the park and ride service which operated to Glan Clwyd Hospital and disappointed when it was discontinued. I certainly feel that the health board needs to be looking at a options and even a similar system for Wrexham Maelor.
I believe it is something that the health board needs to be looking at as a matter of urgency and a solution needs to be found.
Parking, as we all know has been a major and challenging issue at all our hospitals in North Wales for many years as the demand quite clearly outweighs the number of spaces available at all three sites.
I still receive emails from angry constituents who have been faced with this problem, and I feel so very sorry on their behalf as it is something which really should have been resolved by now.
I will be demanding answers from BCUHB and will be raising the matter in Welsh Parliament as a matter of urgency.
Sam Rowlands AS yn galw am gamau brys i fynd i'r afael â phroblemau parcio yn un o ysbytai'r Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn galw am welliannau i leddfu problemau parcio yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Roedd Mr Rowlands yn gwneud ei sylwadau ar ôl clywed bod y bwrdd iechyd yn ystyried ailgyflwyno system parcio a theithio yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Meddai:
Roeddwn i'n gefnogwr mawr o'r gwasanaeth parcio a theithio i Ysbyty Glan Clwyd ac roeddwn i'n siomedig pan ddaeth i ben. Heb os, mae angen i'r bwrdd iechyd ystyried yr opsiynau a hyd yn oed system debyg ar gyfer Maelor Wrecsam.
Mae'n rhywbeth y dylai'r bwrdd iechyd fod yn edrych arno ar frys a chanfod ateb wedyn.
Mae parcio, fel y gwyddon ni i gyd, wedi bod yn broblem fawr a heriol ym mhob un o ysbytai'r Gogledd ers blynyddoedd lawer gan fod mwy o alw na nifer y lleoedd sydd ar gael ym mhob un o'r tri safle.
Rwy'n dal i dderbyn negeseuon e-bost gan etholwyr dig sydd wedi wynebu'r broblem hon, ac yn teimlo trueni drostyn nhw am rywbeth y dylai fod wedi'i ddatrys erbyn hyn.
Byddaf yn mynnu atebion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn codi'r mater ar fyrder yn Senedd.