Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS expresses concern over safeguarding measures in Wales

  • Tweet
Tuesday, 16 June, 2026
  • Speeches

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for Fflint Wrecsam says he is disappointed that Plaid Cymru won’t back a Wales wide grooming gang inquiry.

Speaking in the Senedd, Mr Rowlands Welsh Conservative spokesperson for Families asked the First Minister, Rhun ap Iowerth, for assurances over safeguarding people.

He said:

I think it's absolutely right for Members to ask for assurances from its Government as to the safeguarding arrangements that are in place for any type of people across our country, because safeguarding our communities is a fundamental role of us all.

The First Minister will be aware that one of the biggest safeguarding scandals of our time has been that of the grooming gangs seen across the UK, and it shows what happens when authorities fail to ask difficult questions or to properly investigate concerns: victims being let down.

We have a duty to make sure that those mistakes never are repeated. That's why I'm disappointed that Plaid Cymru has refused to back a Wales-wide grooming gangs inquiry.

At a time when survivors are asking for answers, surely we should be looking at those issues more closely, not shutting down further scrutiny.

If the Welsh Government is confident that safeguarding measures are working across Wales, why won't it support a Wales-wide inquiry to help give victims the answers they deserve and reassure the public that lessons have been learned?

The First Minister said: 

On grooming gangs, I'm quite clear that we need to understand exactly what is happening. Policing is not devolved, of course, to Wales, but this Government will support any measures to make sure that we understand the threats faced by, be it young people or women in Wales, in whatever guise that might be.

 

Sam Rowlands AS yn mynegi pryder am fesurau diogelu yng Nghymru

Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Fflint Wrecsam, yn dweud ei fod yn siomedig na fydd Plaid Cymru yn cefnogi ymchwiliad Cymru gyfan i gangiau grŵmio.

Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Deuluoedd, i’r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, am sicrwydd ynghylch diogelu pobl.

Meddai:

Rwy’n credu ei bod hi’n gwbl gywir i Aelodau o’r lle hwn ofyn am sicrwydd gan ei Lywodraeth ynghylch y trefniadau diogelu sydd ar waith i unrhyw fath o bobl ledled ein gwlad, gan fod diogelu ein cymunedau yn swyddogaeth sylfaenol i’r holl Aelodau etholedig yn y lle hwn.

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol mai un o sgandalau diogelu mwyaf ein hoes fu’r un yn ymwneud â’r gangiau meithrin perthynas amhriodol a welwyd ledled y DU, ac mae’n dangos beth sy’n digwydd pan fydd awdurdodau yn methu â gofyn cwestiynau anodd neu ymchwilio i bryderon yn briodol: dioddefwyr yn cael eu siomi.

Mae gennym ni ddyletswydd i wneud yn siŵr nad yw’r camgymeriadau hynny byth yn cael eu hailadrodd. Dyna pam rwy’n siomedig bod Plaid Cymru wedi gwrthod cefnogi ymchwiliad Cymru gyfan i gangiau meithrin perthynas amhriodol.

Ar adeg pan fo goroeswyr yn gofyn am atebion, siawns nad ddylem ni fod yn edrych ar y materion hynny yn fwy manwl, nid atal craffu pellach.

Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn ffyddiog bod mesurau diogelu yn gweithio ledled Cymru, pam na wnaiff gefnogi ymchwiliad Cymru gyfan i helpu i roi’r atebion i ddioddefwyr y maen nhw’n eu haeddu a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod gwersi wedi cael eu dysgu?

Dywedodd y Prif Weinidog: 

O ran gangiau meithrin perthynas amhriodol, rwy’n eithaf eglur bod angen i ni ddeall beth yn union sy’n digwydd. Nid yw plismona wedi’i ddatganoli, wrth gwrs, i Gymru, ond bydd y Llywodraeth hon yn cefnogi unrhyw fesurau i wneud yn siŵr ein bod ni’n deall y bygythiadau sy’n cael eu hwynebu, boed gan bobl ifanc neu fenywod yng Nghymru, ym mha bynnag ffurf y gallai hynny fod.

You may also be interested in

Sam Rowlands

Sam Rowlands MS concerned over the possible revaluation of council tax

Wednesday, 24 June, 2026
Sam Rowlands AS yn poeni am y posibilrwydd o ailbrisio’r dreth gyngor

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands for Fflint Wrecsam

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands. All rights reserved.
Powered by Bluetree