
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a protest to raise awareness of the controversial tourist tax.
Mr Rowlands, fears introducing the proposed visitor levy will seriously impact businesses in North East Wales and is supporting the Welsh Association of Visitor Attractions (WAVA) who are protesting on March 1, St David’s Day, with a number of attractions set to close for the day.
Last November the Welsh Government said they planned to introduce a levy of £1.25 per night for people staying in commercially-let overnight visitor accommodation from 2027.
Mr Rowlands, Chairman of the Cross-Party Group on Tourism, is totally against the tax and has continually expressed concern for the future of tourism in his region if it goes ahead.
He said:
The whole situation is becoming very serious and my heart goes out to anyone involved in the tourism industry in North Wales as it is not getting the support it should.
The Welsh Government is quite clearly not interested in helping to promote and expand our tourist industry.
First of all they introduced the crippling 182-day threshold for holiday lets, which will force many self-catering businesses to close, then came the disastrous 20mph default speed limit and now they have the tourism tax to look forward to.
I think the action by the WAVA speaks for itself and just shows how worried businesses are in North Wales.
It is a real shame that WAVA members believe the only way to highlight their growing concerns and to get their message across is to close their businesses on a day at the weekend.
I remain extremely concerned over this constant war on the tourism industry. It is high time they and everyone who works in this sector were supported by the Welsh Government.
Tourism is big business in North Wales but the Welsh Government policies are seriously impacting the industry and I really do fear for the future.
Sam Rowlands AS yn hynod bryderus am y diwydiant twristiaeth yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi protest i godi ymwybyddiaeth o'r dreth twristiaid ddadleuol.
Mae Mr Rowlands yn bryderus y bydd cyflwyno'r ardoll ymwelwyr arfaethedig yn effeithio'n ddifrifol ar fusnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac mae'n cefnogi Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru a fydd yn protestio ar 1 Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi, gyda nifer o atyniadau ar gau am y diwrnod.
Fis Tachwedd diwethaf dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu cyflwyno ardoll o £1.25 y noson o 2027 ymlaen i bobl sy'n aros mewn llety ymwelwyr dros nos sydd wedi'i osod yn fasnachol.
Mae Mr Rowlands, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth, yn gwrthwynebu’r dreth yn chwyrn ac mae wedi mynegi pryder yn barhaus am ddyfodol twristiaeth yn ei ranbarth os aiff yn ei blaen.
Meddai:
Mae'r holl sefyllfa yn troi’n ddifrifol iawn ac rwy’n teimlo dros unrhyw un sy'n rhan o’r diwydiant twristiaeth yn y Gogledd gan nad ydyn nhw’n cael y gefnogaeth maen nhw’n ei haeddu.
Yn amlwg, nid oes gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn helpu i hyrwyddo ac ehangu ein diwydiant twristiaeth.
Yn gyntaf, fe wnaethon nhw gyflwyno'r trothwy 182 diwrnod beichus ar gyfer llety gwyliau, a fydd yn gorfodi llawer o fusnesau hunanarlwyo i gau, yna daeth y terfyn cyflymder cyffredinol trychinebus o 20mya a nawr mae ganddyn nhw'r dreth dwristiaeth i edrych ymlaen ati.
Rwy'n credu bod camau Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru yn siarad drostyn nhw eu hunain ac yn dangos pa mor bryderus yw busnesau yn y Gogledd.
Mae'n drueni mawr bod aelodau Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru yn credu mai'r unig ffordd i dynnu sylw at eu pryderon cynyddol ac i gyfleu eu neges yw cau eu busnesau am ddiwrnod ar y penwythnos.
Rwy'n parhau i fod yn bryderus tu hwnt am yr ymosodiad cyson hwn ar y diwydiant twristiaeth. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru eu cefnogi nhw a phawb sy'n gweithio yn y sector.
Mae twristiaeth yn fusnes mawr yn y Gogledd ond mae polisïau Llywodraeth Cymru’n effeithio'n ddifrifol ar y diwydiant ac rwy'n wirioneddol bryderus am y dyfodol.