Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS gets behind Wrexham’s bid to become UK City of Culture 2029

  • Tweet
Thursday, 22 January, 2026
  • Local News
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing Wrexham’s bid to win a prestigious accolade.

Mr Rowlands, who supported Wrexham’s bid to become UK City of Culture in 2025 when they finished runner up to Bradford, has been finding out all about the plans for 2029.

He recently met with Amanda Evans, Culture Bid Director who took him on a tour of the city centre to show him some of the work which is being carried out in preparation for the bid.

He said:

It was great to meet up once again with Amanda and be shown around  the various sites in Wrexham where preparations are in full swing to showcase the city and what it has to offer. The city has a story like no other. We discussed how the 2029 bid will put our heritage and creativity on the world stage and toured the stunning new public art trail.

I was really disappointed when they missed out last time after everybody’s hard work and I sincerely hope it will go one better for 2029 and gain this fantastic accolade.

It is a tremendous opportunity to continue to promote and showcase all that Wrexham has to offer and as the Chair of the Senedd’s Cross Party Group on Tourism I am delighted to back this exciting venture.

Not only will it continue to keep Wrexham firmly on the tourist map but it will also have a knock on effect for the rest of North Wales which is great news for the region I represent.

A lot of experience and knowledge was gained from the previous bid and I know, from speaking to many people across Wrexham, there is great determination to show what this wonderful city has to offer and celebrate its unique culture and heritage through a vibrant and imaginative programme for 2029.

During his meeting Sam discussed the proposals for the city which are already completed or still taking place including the new national attraction called the 'Museum of Two Halves', set to open this year, combining an enhanced Wrexham Museum with Wales' first dedicated Football Museum.

He also visited the popular Tŷ Pawb, the community, cultural and arts centre, the stunning public art trail and heard more about the pedestrianization of the High street.

Amanda Evans, Culture Bid Director, said: 

I welcomed the opportunity to showcase what is being done as part of the bid and how everybody is working hard putting the final touches before we submit an expression of interest early next month.

It is an exciting time for Wrexham and we believe that winning the title will be transformational for culture not just in Wrexham but across Wales.

The competition, which is run by the UK Government Department for Digital, Culture, Media and Sport, is held every four years and the successful bidder is designated as a ‘City of Culture’ for one year. During this time they play host to many cultural events attracting visitors from across the globe.

The expressions of interest deadline is Sunday February 8 and longlisted places will be announced in March 2026.

 

Sam Rowlands AS yn cefnogi cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029

Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi cais Wrecsam i ennill anrhydedd fawreddog.

Roedd Mr Rowlands wedi cefnogi cais Wrecsam ar gyfer bod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025 pan ddaeth yn ail i Bradford, ac mae wedi bod yn dilyn hynt a helynt y cynlluniau ar gyfer 2029.

Yn ddiweddar, cyfarfu ag Amanda Evans, Cyfarwyddwr Cais Diwylliant, ac aeth hithau ag ef ar daith o amgylch canol y ddinas i ddangos rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud wrth baratoi am y cais.

Meddai:

Roedd hi’n wych cwrdd ag Amanda unwaith eto a chael fy nhywys o gwmpas y gwahanol safleoedd yn Wrecsam lle mae'r paratoadau ar y gweill i arddangos y ddinas a'r hyn sydd ganddi i'w gynnig. Mae gan y ddinas stori fel unlle arall. Fe fuom yn trafod sut y bydd cais 2029 yn rhoi ein treftadaeth a'n creadigrwydd ar lwyfan y byd ac yn teithio ar y llwybr celf cyhoeddus newydd gwych.

Roeddwn i mor siomedig pan ddaethon nhw’n ail y tro diwethaf ar ôl i bawb weithio mor galed ac rwy'n gobeithio'n wir y llwyddwn ni i fynd un cam yn well yn 2029 gan ennill yr anrhydedd wych hon.

Mae'n gyfle gwych i barhau i hyrwyddo ac arddangos popeth sydd gan Wrecsam i'w gynnig ac fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth y Senedd rwy'n falch iawn o gefnogi'r fenter gyffrous hon.

Nid yn unig y bydd yn parhau i gadw Wrecsam yn gadarn ar y map twristiaeth ond bydd hefyd yn cael effaith ar weddill Gogledd Cymru, sy'n newyddion gwych i'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli.

Gyda’r holl brofiad a gwybodaeth a ddaeth o'r cais blaenorol, rwy'n gwybod, ar ôl siarad â llawer o bobl ledled Wrecsam, fod yma benderfyniad mawr i ddangos beth sydd gan y ddinas wych hon i'w gynnig a dathlu ei diwylliant a'i threftadaeth unigryw trwy raglen fywiog a dychmygus ar gyfer 2029.

Yn ystod y cyfarfod, bu Sam yn trafod cynigion y ddinas sydd eisoes wedi’u cwblhau neu sydd ar y gweill, gan gynnwys yr atyniad cenedlaethol newydd - 'Amgueddfa'r Ddau Hanner', a fydd yn agor eleni, sy’n cyfuno Amgueddfa Bêl-droed gyntaf Cymru.

Ymwelodd hefyd â'r ganolfan boblogaidd, Tŷ Pawb, lle cymunedol, diwylliannol a chelfyddydol, y llwybr celf cyhoeddus trawiadol a bu’n clywed mwy am gerddwyr y Stryd Fawr.

Meddai Amanda Evans, y Cyfarwyddwr Cais Diwylliant: 

Roeddwn yn croesawu’r cyfle i ddangos yr hyn sy'n cael ei wneud fel rhan o'r cais, a sut mae pawb yn gweithio'n galed i roi'r sglein olaf cyn i ni gyflwyno mynegiant o ddiddordeb yn gynnar y mis nesaf.

Mae'n gyfnod cyffrous i Wrecsam ac rydyn ni’n credu y bydd ennill y teitl yn drawsnewidiol i ddiwylliant nid yn unig yn Wrecsam ond ledled Cymru.

Mae'r gystadleuaeth, sy'n cael ei chynnal gan Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, yn cael ei chynnal bob pedair blynedd ac mae'r cynigydd llwyddiannus yn cael ei ddynodi'n 'Ddinas Diwylliant' am flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn maen nhw’n cynnal llawer o ddigwyddiadau diwylliannol sy'n denu ymwelwyr o bedwar ban byd.

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw dydd Sul 8 Chwefror a bydd lleoedd ar y rhestr hir yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2026.

You may also be interested in

Sam Rowlands MS

Sam Rowlands MS slams slow progress on solving parking problems at a North-East Wales hospital

Thursday, 5 February, 2026
Sam Rowlands AS yn beirniadu cynnydd araf o ran datrys problemau parcio mewn ysbyty yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru. All rights reserved.
Powered by Bluetree