Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for Fflint Wrecsam, is calling on members in his constituency to attend the NFU Cymru annual conference.
Sam Rowlands, a keen supporter of farmers and the agricultural sector said:
I often visit farms in my constituency and talk to farmers about their concerns and I think it is really important to attend the annual conference and find out what is happening in the agricultural world.
There are many changes and challenges facing our farmers in the future and I am pleased to highlight this year’s event.
The conference will be held on Thursday 5th November from 10am - 4pm at The Metropole Hotel in Llandrindod Wells, with registration opening from 9am.
Every year, the event draws in hundreds of attendees owing to its high standard of speakers, and with an exceptional line-up again this year, the union is set for another packed conference.
NFU Cymru Director John Mercer said:
A lot has changed in the agricultural and political world over the last 12 months and so there is a lot of excitement building ahead of this year's NFU Cymru Conference which promises to be another insightful event.
The conference's reputation has grown exponentially over the last decade, and I'm really pleased that once again we’ve been able to bring together a stellar line-up of speakers bringing insight, commentary and opinion on the issues that matter right now to Welsh farmers, as well as looking into what the future could hold for the industry.
In anticipation of the demand for places, I'd encourage members to register early to secure their seat. I hope to see lots of you there for what I know will be a great day.
Members wishing to attend the conference, can register by calling 01982 554200 or emailing [email protected].
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at ddigwyddiad blynyddol i ffermwyr fis nesaf
Mae Sam Rowlands, AS Fflint Wrecsam, yn galw ar aelodau yn ei etholaeth i fynychu cynhadledd flynyddol NFU Cymru.
Dywedodd Sam Rowlands, sy’n gefnogwr brwd dros ffermwyr a'r sector amaethyddol:
Rwy'n aml yn ymweld â ffermydd yn fy etholaeth ac yn siarad â ffermwyr am eu pryderon. Felly, mae'n hollbwysig mynychu'r gynhadledd flynyddol a dysgu beth sy'n digwydd yn y byd amaethyddol.
Mae newidiadau a heriau di-ri yn wynebu ein ffermwyr yn y dyfodol ac rwy'n falch o dynnu sylw at ddigwyddiad eleni.
Cynhelir y gynhadledd ddydd Iau 5 Tachwedd rhwng 10am a 4pm yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod, gyda'r broses gofrestru ar agor o 9am.
Bob blwyddyn, mae'r digwyddiad yn denu cannoedd o fynychwyr oherwydd safon uchel y siaradwyr, a gydag areithwyr safonol unwaith eto eleni, mae'r undeb yn barod ar gyfer cynhadledd lawn dop arall.
Dywedodd Cyfarwyddwr NFU Cymru, John Mercer:
Mae llawer wedi newid yn y byd amaethyddol a gwleidyddol dros y 12 mis diwethaf ac felly mae llawer o gyffro cyn Cynhadledd NFU Cymru eleni sy'n addo bod yn ddigwyddiad pwysig arall.
Mae enw da'r gynhadledd wedi tyfu dros y degawd diwethaf, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu trefnu rhestr wych o siaradwyr unwaith eto, sy'n dod â'u barn a'u crebwyll arbennig ar bynciau o bwys i ffermwyr Cymru ar hyn o bryd, yn ogystal â phwyso a mesur dyfodol posibl y diwydiant.
Gyda chryn alw am leoedd, byddwn yn annog aelodau i gofrestru'n gynnar i sicrhau eu sedd. Rwy'n gobeithio gweld llawer ohonoch chi ar yr hyn sy'n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych.
Gall aelodau sy'n dymuno mynychu'r gynhadledd gofrestru trwy ffonio 01982 554200 neu e-bostio [email protected].