Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS highlights the Armed Forces Community Carol Service in Wrexham

  • Tweet
Friday, 21 November, 2025
  • Local News
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging constituents to once again support this important event in the city.

Mr Rowlands, a keen supporter of the services,  is delighted to see the Armed Forces Community Carol Service being held in Wrexham for the third year running.

He said:

I am always happy to promote any events which honour our armed forces and pleased to see this special community carol service being held in Wrexham once again.

As Christmas is almost upon us it is a wonderful opportunity to bring everyone together and show our support for the work they carry out.

These days more than ever we rely on these brave men and women not only to defend our country but they can also be sent all over the world to help in war torn countries.

I would urge anyone wanting to join the celebration to attend.

The free event will take place at St Giles Church Thursday, 4th December starting at 7pm and everyone is welcome.

Councillor Beverley Parry Jones, Wrexham Council’s Armed Forces Champion, said: 

Once again, Wrexham is promised a lovely evening full of Christmas spirit and music. Wrexham has such strong links with the armed forces, and we want to do something special to both celebrate Christmas and pay tribute. Let’s celebrate the season and show our support for those who serve and have served.

We’d love to see as many veterans and members of the public as possible so please come along and help make this a fantastic evening.

The service will feature music from the City of Wrexham Brass Band and there will also be performances by local school choirs and a parade of standards by local veterans’ associations.

Once again this special evening will be held in support of Scotty’s Little Soldiers, a charity dedicated to bereaved British Forces children and young people. It promises to be a heartwarming celebration of community, remembrance, and festive spirit.

 

Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at Wasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn Wrecsam

Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn annog etholwyr i gefnogi'r digwyddiad pwysig hwn yn y ddinas unwaith eto.

Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o'r lluoedd arfog, yn falch iawn o weld Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal yn Wrecsam am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Dywedodd:

Rydw i bob amser yn hapus i hyrwyddo unrhyw ddigwyddiadau sy'n anrhydeddu ein lluoedd arfog ac yn falch o weld y gwasanaeth carolau cymunedol arbennig hwn yn cael ei gynnal yn Wrecsam unwaith eto.

Gan fod y Nadolig ar ddod, mae'n gyfle gwych i ddod â phawb at ei gilydd a dangos ein cefnogaeth i'r gwaith maen nhw'n ei wneud.

Y dyddiau hyn yn fwy nag erioed, rydyn ni’n dibynnu ar y dynion a'r menywod dewr hyn nid yn unig i amddiffyn ein gwlad, ond gallan nhw hefyd gael eu hanfon ledled y byd i helpu mewn gwledydd sydd wedi'u rhwygo gan ryfel.

Byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau ymuno â'r dathliad i fynychu.

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn cael ei gynnal yn Eglwys San Silyn ddydd Iau 4 Rhagfyr gan ddechrau am 7pm ac mae croeso i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Wrecsam: 

Unwaith eto, bydd Wrecsam yn cynnal noson hyfryd yn llawn ysbryd a cherddoriaeth Nadoligaidd. Mae gan Wrecsam gysylltiadau mor gryf â'r lluoedd arfog, ac rydyn ni am wneud rhywbeth arbennig i ddathlu'r Nadolig a thalu teyrnged. Gadewch i ni ddathlu'r tymor a dangos ein cefnogaeth i'r rhai sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.

Byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o gyn-filwyr ac aelodau o'r cyhoedd â phosibl, felly dewch draw i helpu i wneud hon yn noson wych.

Bydd y gwasanaeth yn cynnwys cerddoriaeth gan Fand Pres Dinas Wrecsam a bydd perfformiadau hefyd gan gorau ysgolion lleol a gorymdaith baneri gan gymdeithasau cyn-filwyr lleol.

Unwaith eto, bydd y noson arbennig hon yn cael ei chynnal i gefnogi Scotty's Little Soldiers, elusen bwrpasol i blant a phobl ifanc y mae aelod o’u teulu wedi marw wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Mae'n argoeli i fod yn ddathliad o gymuned, coffa ac ysbryd Nadoligaidd i dwymo’r galon.

You may also be interested in

Sam Rowlands

Sam Rowlands MS speaks out against a wealth tax in Wales

Friday, 21 November, 2025
Sam Rowlands AS yn siarad yn erbyn treth gyfoeth yng Nghymru

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2025 Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru. All rights reserved.
Powered by Bluetree