Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a national campaign to make running safer for women this winter.
Mr Rowlands has added his support to North Wales Police who are supporting Welsh Athletics’ ‘Own the Night’ campaign.
He said:
I am pleased to be able to highlight and promote such a worthwhile campaign aimed at raising awareness of women when they are out running in our communities.
These days running has become an increasingly popular way to keep fit and healthy and whether it be early morning or in the evening many women can be seen out jogging.
It is only right that we make sure that they feel safe to run and I would urge everyone to look out for them.
The campaign, launched by Welsh Athletics is aimed at making running safer for women by raising awareness and empowering communities to support female runners.
‘Own the Night’ is a national campaign, that confronts the truth head-on as running should feel free, safe, and equal but for many women, the reality is very different.
Every autumn, as the clocks go back and nights draw in, women across Wales face growing concerns about safety when running in the dark.
The campaign aims to:
- Raise awareness of women’s safety concerns when running at night or early mornings.
- Empower women to continue running through the winter months with confidence.
- Educate running communities and the wider public on allyship and practical ways to support women.
Through bold storytelling, practical education, and community activation, Own The Night seeks to unite runners, clubs, and the public in creating a safer, more inclusive environment for women who run.
Hannah Baulch, Head of Participation at Welsh Athletics said:
Running in Wales is experiencing fantastic growth at the moment, with 293,000 adults participating regularly through organised and informal activity.
We’re delighted that since 2020, female runners have contributed to more than half of our membership figures, a stat that’s difficult to replicate in other sports.
However, we are acutely aware female runners face numerous challenges during the winter months. It’s not just about cold weather or slippery roads, it’s about safety.
Research by This Girl Can shows that almost three-quarters (72%) of women in the UK change their outdoor activity routines during winter, and a recent Our Streets Now survey revealed that 93% of women have experienced public sexual harassment whilst running. This simply isn’t acceptable, and we want your help to make a societal change.
She said they were now calling for communities to support runners by offering them respect and by calling out bad behaviour.
North Wales Police’s Chief Constable Amanda Blakeman said:
As both a runner and a police officer, I know how important it is to feel safe whilst out on a run. No one should have to plan their route based on fear. This campaign is about making sure women can focus on their run – not their safety – and about building a community where everyone looks out for one another.
North Wales Police is committed to ensuring that everyone feels safe whilst exercising in public spaces.
Behaviours such as catcalling and public intimidation can escalate into more serious offences. Unfortunately, we know that some people - usually women, can feel uncomfortable, intimidated or scared to go out for a run, especially in the winter when the nights are longer and there is less opportunity to be outside during daylight. We also know that harassment of female runners and joggers is significantly under reported so I would urge anyone who experiences harassment or intimidation to report any concerns to the police so we can put an end to this behaviour.
To find out more about the campaign please visit the Welsh Athletics website via: https://www.welshathletics.org/en/page/own-the-night
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at alwad am fwy o gefnogaeth i redwyr benywaidd
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch genedlaethol i wneud rhedeg yn fwy diogel i fenywod y gaeaf hwn.
Mae Mr Rowlands wedi ychwanegu ei gefnogaeth i Heddlu Gogledd Cymru sy'n cefnogi ymgyrch ‘Ein Nos Ni' Athletau Cymru.
Dywedodd:
Rwy'n falch o allu tynnu sylw at ymgyrch mor werthfawr sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o fenywod pan fyddan nhw allan yn rhedeg yn ein cymunedau.
Y dyddiau hyn, mae rhedeg wedi dod yn ffordd gynyddol boblogaidd o gadw'n ffit ac iach ac mae llawer o fenywod i'w gweld allan yn rhedeg fore a nos.
Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn teimlo'n ddiogel i redeg a byddwn yn annog pawb i edrych allan amdanyn nhw.
Nod yr ymgyrch, a lansiwyd gan Athletau Cymru, yw gwneud rhedeg yn fwy diogel i fenywod drwy godi ymwybyddiaeth a grymuso cymunedau i gefnogi rhedwyr benywaidd.
Mae 'Ein Nos Ni' yn ymgyrch genedlaethol sy'n wynebu'r gwirionedd yn uniongyrchol gan y dylai rhedeg deimlo'n rhydd, yn ddiogel ac yn gyfartal ond, i lawer o fenywod, mae'r realiti yn wahanol iawn.
Bob hydref, wrth i'r clociau fynd yn ôl a'r nosweithiau ymestyn, mae menywod ledled Cymru yn wynebu pryderon cynyddol am ddiogelwch wrth redeg yn y tywyllwch.
Nod yr ymgyrch yw:
- Codi ymwybyddiaeth o bryderon diogelwch menywod wrth redeg yn y nos neu'n gynnar yn y bore.
- Grymuso menywod i barhau i redeg drwy fisoedd y gaeaf gyda hyder.
- Addysgu cymunedau rhedeg a'r cyhoedd ehangach ar gynghreiriaeth a ffyrdd ymarferol o gefnogi menywod.
Drwy adrodd straeon beiddgar, addysg ymarferol ac actifadu cymunedol, mae Ein Nos Ni yn ceisio uno rhedwyr, clybiau a'r cyhoedd i greu amgylchedd mwy diogel, mwy cynhwysol i fenywod sy'n rhedeg.
Dywedodd Hannah Baulch, Pennaeth Cyfranogiad Athletau Cymru:
Mae rhedeg yng Nghymru yn profi twf gwych ar hyn o bryd, gyda 293,000 o oedolion yn cymryd rhan yn rheolaidd drwy weithgareddau wedi’u trefnu ac anffurfiol.
Rydyn ni wrth ein bodd bod rhedwyr benywaidd wedi cyfrannu at fwy na hanner ein ffigurau aelodaeth ers 2020, ystadegyn sy'n anodd ei ailadrodd mewn chwaraeon eraill.
Fodd bynnag, rydyn ni’n ymwybodol iawn bod rhedwyr benywaidd yn wynebu nifer o heriau yn ystod misoedd y gaeaf. Nid tywydd oer neu ffyrdd llithrig yn unig, ond diogelwch hefyd.
Mae ymchwil gan This Girl Can yn dangos bod bron i dri chwarter (72%) o fenywod yn y DU yn newid eu trefn gweithgareddau awyr agored yn ystod y gaeaf, a datgelodd arolwg diweddar Our Streets Now fod 93% o fenywod wedi profi aflonyddu rhywiol cyhoeddus wrth redeg. Nid yw hyn yn dderbyniol, ac rydyn ni eisiau eich help chi i wneud newid cymdeithasol.
Dywedodd eu bod bellach yn galw ar gymunedau i gefnogi rhedwyr drwy gynnig parch iddyn nhw a thrwy feirniadu ymddygiad gwael.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda Blakeman:
Fel rhedwr a swyddog heddlu, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi i deimlo'n ddiogel pan rydych chi allan yn rhedeg. Ni ddylai unrhyw un orfod cynllunio eu llwybr yn seiliedig ar ofn. Mae'r ymgyrch hon yn ymwneud â sicrhau bod menywod yn gallu canolbwyntio ar eu rhedeg - nid eu diogelwch - ac am adeiladu cymuned lle mae pawb yn edrych allan am ei gilydd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel wrth ymarfer corff mewn mannau cyhoeddus.
Gall ymddygiadau fel chwibanu a bygwth yn gyhoeddus waethygu i fod yn droseddau mwy difrifol. Yn anffodus, rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl - fel arfer menywod, yn gallu teimlo'n anghyfforddus, dan fygythiad neu'n ofnus i fynd allan i redeg, yn enwedig yn y gaeaf pan fydd y nosweithiau'n hirach ac mae llai o gyfle i fod allan yn ystod golau dydd. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod aflonyddu ar redwyr benywaidd yn cael ei danadrodd yn sylweddol, felly byddwn yn annog unrhyw un sy'n profi aflonyddu neu fygythiad i roi gwybod am unrhyw bryderon i'r heddlu fel y gallwn ni roi terfyn ar yr ymddygiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i wefan Athletau Cymru: https://www.welshathletics.org/cy/page/own-the-night