Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling for more financial help for a Buckley based community transport operator.
Mr Rowlands, Shadow Cabinet Minister for Transport recently visited the headquarters of Welsh Border Community Transport who provide on demand community transport facilities in Flintshire and the surrounding areas for the use of elderly and or disabled residents, charitable organisations and other community groups carrying out charitable or caring purposes.
He said:
I was delighted to have the opportunity to meet with Ian McDermott, manager of the organisation and hear all about the excellent work they carry out in and around Flintshire.
However, I was very concerned to hear that funding which they receive through the Bus Services Support Grant may not be enough to deliver their much valued services.
I have expressed my deep concern over the Welsh Labour Government’s Bus Services (Wales) Bill and how it will affect smaller businesses and this is just one example of how difficult it is to run such a vital service.
In the past I know that WBCT have been fortunate enough to receive a grant from the National Lottery Community Fund and I am happy to support any further bids.
Meanwhile I am determined to continue to challenge the Bill and make sure that business like WBCT, which are so important for local people who do not have access to transport, get the support they need.
Welsh Border Community Transport is a registered charity, based in Buckley Town Hall which has been serving the county of Flintshire since 1991.
Its role is to provide on demand community transport facilities in Flintshire and the surrounding areas for the use of elderly and or disabled residents, charitable organisations and other community groups carrying out charitable or caring purposes.
They operate a fleet of specialist vehicles for those who have need of such facilities because of the nature of their age, infirmity and or disability and or living in isolated areas where there are no adequate public transport facilities.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at bwysigrwydd trafnidiaeth gymunedol
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn galw am fwy o gymorth ariannol i weithredwr trafnidiaeth gymunedol ym Mwcle.
Yn ddiweddar, ymwelodd Mr Rowlands, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth, â phencadlys Trafnidiaeth Gymunedol y Gororau sy'n darparu cyfleusterau trafnidiaeth gymunedol ar alw yn Sir y Fflint a'r ardaloedd cyfagos at ddefnydd preswylwyr oedrannus a/neu anabl, sefydliadau elusennol a grwpiau cymunedol eraill sy'n cyflawni dibenion elusennol neu ofalu.
Dywedodd:
Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i gwrdd ag Ian McDermott, rheolwr y sefydliad, a chlywed am yr holl waith rhagorol y maent yn ei wneud yn Sir y Fflint a'r cyffiniau.
Fodd bynnag, roeddwn yn bryderus iawn o glywed efallai na fydd y cyllid y maent yn ei gael drwy'r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau yn ddigon i ddarparu eu gwasanaethau gwerthfawr.
Rydw i wedi mynegi fy mhryder dwfn am Fil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) Llywodraeth Lafur Cymru a sut y bydd yn effeithio ar fusnesau llai, ac un enghraifft yn unig yw hon o ba mor anodd yw hi i redeg gwasanaeth mor hanfodol.
Yn y gorffennol, rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Gymunedol y Gororau wedi bod yn ddigon ffodus i gael grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac rwy'n hapus i gefnogi unrhyw geisiadau pellach.
Yn y cyfamser, rwy'n benderfynol o barhau i herio'r Bil a gwneud yn siŵr bod busnesau fel Trafnidiaeth Gymunedol y Gororau, sydd mor bwysig i bobl leol nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth, yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Mae Trafnidiaeth Gymunedol y Gororau yn elusen gofrestredig, wedi'i lleoli yn Neuadd y Dref Bwcle sydd wedi bod yn gwasanaethu Sir y Fflint ers 1991.
Ei rôl yw darparu cyfleusterau trafnidiaeth gymunedol ar alw yn Sir y Fflint a'r cyffiniau at ddefnydd preswylwyr oedrannus a/neu anabl, sefydliadau elusennol a grwpiau cymunedol eraill sy'n cyflawni dibenion elusennol neu ofalu.
Maent yn gweithredu fflyd o gerbydau arbenigol ar gyfer y rhai sydd angen cyfleusterau o'r fath oherwydd natur eu hoedran, eiddilwch a/neu anabledd a/neu sy’n byw mewn ardaloedd ynysig lle nad oes cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus digonol.