Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News Archive | Archif Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS highlights the importance of early diagnosing bowel cancer

  • Tweet
Wednesday, 1 April, 2026
  • Articles
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing Bowel Cancer UK’s campaign to help raise awareness of symptoms during Bowel Cancer Awareness Month this April.

He said:

As a Member of the Welsh Parliament I am totally committed to increasing awareness of bowel cancer symptoms, and this month will be encouraging everyone to help raise funds to support the work of Bowel Cancer UK.

Bowel cancer is the fourth most common cancer in Wales, with almost 2,400 cases diagnosed every year and 900 people dying from the disease. However, it is treatable and curable especially if diagnosed early so it is really important to get this message across.

It is absolutely vital if you are concerned to do something about it and I would urge anyone who is worried that something is wrong, to visit their GP.

April’s Bowel Cancer Awareness Month is an annual event set aside to increase awareness of bowel cancer and raise funds towards treating this condition.

Bowel Cancer UK, which is the UK's leading bowel cancer charity campaign for early diagnosis and access to best treatment and care across the UK; support and fund targeted research to help stop people dying of bowel cancer and provide expert support and information for everyone affected by bowel cancer.

Bowel cancer is the UK's second biggest cancer killer, claiming more than 16,800 lives a year, that's 46 people every day. It is the fourth most common cancer in the UK, after breast, prostate and lung cancers.

Every 12 minutes in the UK someone is diagnosed with bowel cancer. That's nearly 44,000 people every year and every 30 minutes someone dies from the disease in the UK.

Bowel cancer is treatable and curable, especially if diagnosed early. Nearly everyone diagnosed at the earliest stage will survive bowel cancer. However this drops significantly as the disease develops. Early diagnosis really does save lives.

For more information go to https://www.bowelcanceruk.org.uk/.

 

Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at bwysigrwydd diagnosio canser y coluddyn yn gynnar

Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch Bowel Cancer UK i helpu i godi ymwybyddiaeth o symptomau yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn ym mis Ebrill.

Dywedodd:

Fel Aelod o’r Senedd rwy'n gwbl ymrwymedig i gynyddu ymwybyddiaeth o symptomau canser y coluddyn, a bydd y mis hwn yn annog pawb i helpu i godi arian i gefnogi gwaith Bowel Cancer UK.

Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, gyda bron i 2,400 o achosion yn cael eu diagnosio bob blwyddyn a 900 o bobl yn marw o'r clefyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl ei drin ac mae modd gwella ohono, yn enwedig os caiff ei ddiagnosio'n gynnar, felly mae'n bwysig iawn cyflwyno'r neges hon.

Mae'n hollol hanfodol os ydych chi'n poeni i wneud rhywbeth am y peth a byddwn yn annog unrhyw un sy'n poeni bod rhywbeth o'i le, i ymweld â'u meddyg teulu.

Mae Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn ym mis Ebrill yn ddigwyddiad blynyddol a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn a chodi arian tuag at drin y cyflwr hwn.

Mae Bowel Cancer UK, prif elusen canser y coluddyn yn y DU, yn ymgyrchu dros ddiagnosis cynnar a mynediad at y driniaeth a'r gofal gorau ledled y DU; cefnogi ac ariannu ymchwil wedi'i dargedu i helpu i atal pobl rhag marw o ganser y coluddyn a darparu cymorth a gwybodaeth arbenigol i bawb yr effeithir arnynt gan ganser y coluddyn.

Canser y coluddyn yw'r ail laddwr canser mwyaf yn y DU, sy'n hawlio mwy na 16,800 o fywydau y flwyddyn, hynny yw 46 o bobl bob dydd. Dyma'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yn y DU, ar ôl canser y fron, y prostad a'r ysgyfaint.

Bob 12 munud yn y DU mae rhywun yn cael diagnosis o ganser y coluddyn. Mae hynny'n bron i 44,000 o bobl bob blwyddyn a phob 30 munud mae rhywun yn marw o'r clefyd yn y DU.

Mae’n bosibl trin canser y coluddyn a gwella ohono, yn enwedig os caiff ei ddiagnosio'n gynnar. Bydd bron pawb sy'n cael diagnosis yn y cam cynharaf yn goroesi canser y coluddyn. Fodd bynnag, mae hyn yn gostwng yn sylweddol wrth i'r clefyd ddatblygu. Mae diagnosis cynnar wir yn achub bywydau.

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.bowelcanceruk.org.uk/.

You may also be interested in

Sam Rowlands

Sam Rowlands MS calls for people to make sure they are registered to vote

Wednesday, 1 April, 2026
Sam Rowlands AS yn galw ar bobl i wneud yn siŵr eu bod wedi'u cofrestru i bleidleisio

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands for North Wales

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands. All rights reserved.
Powered by Bluetree