Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS highlights the importance of road haulage in Wales

  • Tweet
Thursday, 23 October, 2025
  • Articles
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called for more support for the road haulage industry.

Mr Rowlands, Shadow Cabinet Secretary for Transport recently sponsored a reception for the Road Haulage Association in the Senedd to celebrate the upcoming National Lorry Week and supporting the road haulage and coach sectors in Wales.

He said:

I was delighted to welcome fellow members to an event which highlighted the importance of our road haulage sector and to celebrate National Lorry Week which is being held next month.

It is quite amazing to think that in the UK, 98% of all food and agricultural products are transported by road freight and everything we eat, drink, wear and consume depends on this industry.

It is so important that this particular industry receives the support it deserves and I was really pleased to have the opportunity to highlight the vital work these companies carry out. However, I do think the Welsh Government needs to do more to support this sector.

The Welsh Government road building ban is definitely not helping. We need to get Wales moving again and invest in key routes such as the M4 relief road and the A55 which is a vital link from North Wales to the North-West of England.

I also recently called for more Welsh Government investment to improve conditions for road haulage businesses in North Wales after meeting with RF Bellis Haulage, based on Wrexham Industrial Estate, along with representatives from the Road Haulage Association. They explained to me the persistent problem that comes with a lack of proper infrastructure for freight here in Wales.

They were concerned about the pressures for operators because of the rise in cargo theft particularly from poorly secured truck stops and rest areas. We rely on this sector every single day for transporting goods that we all need but Wales still lacks adequate secure parking and investment on those key freight routes. This issue certainly needs addressing.

National Lorry Week is an annual celebration of the haulage industry and its people, teams and organisations, showcasing the vital role of the sector and the rewarding career opportunities available.
Taking place between 3-9 November, it champions those who play a vital role in ensuring the UK gets the goods it needs, from drivers to warehouse staff, mechanics and logistics. 
National Lorry Week is run by the Road Haulage Association, the largest dedicated trade association for HGVs, vans and coaches in the UK. 

 

Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at bwysigrwydd cludo nwyddau ar lorïau yng Nghymru

Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi galw am fwy o gefnogaeth i'r diwydiant cludo nwyddau ar lorïau.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Mr Rowlands, Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth, noddi derbyniad i'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd yn y Senedd i ddathlu Wythnos Genedlaethol Lorïau sydd ar y gweill a chefnogi'r sectorau coetsys a chludo nwyddau ar lorïau yma yng Nghymru.

Meddai:

Roeddwn i’n falch iawn o groesawu cyd-aelodau i ddigwyddiad a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein sector cludo nwyddau ar lorïau ac i ddathlu Wythnos Genedlaethol Lorïau sy'n cael ei chynnal fis nesaf.

Mae'n eithaf anhygoel bod 98% o'r holl fwyd a chynhyrchion amaethyddol yn y DU yn cael eu cludo ar lorïau a bod popeth rydyn ni'n ei fwyta, ei yfed, ei wisgo a'i ddefnyddio yn dibynnu ar y diwydiant hwn.

Mae mor bwysig bod y diwydiant penodol hwn yn cael y gefnogaeth y mae'n ei haeddu ac roeddwn i'n falch iawn o gael y cyfle i dynnu sylw at y gwaith hanfodol mae'r cwmnïau hyn yn ei wneud. Fodd bynnag, rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi'r sector hwn.

Nid yw gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar adeiladu ffyrdd newydd yn helpu o gwbl. Mae angen i ni gael Cymru i symud eto a buddsoddi mewn llwybrau allweddol fel ffordd liniaru'r M4 a'r A55 sy'n gyswllt hanfodol rhwng y Gogledd a gogledd-orllewin Lloegr.

Galwais hefyd yn ddiweddar am fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i wella amodau ar gyfer busnesau cludo nwyddau ar lorïau yn y Gogledd ar ôl cwrdd ag RF Bellis Haulage, sydd wedi'i leoli yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, ynghyd â chynrychiolwyr o'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd. Fe wnaethon nhw esbonio'r broblem barhaus yn sgil diffyg seilwaith priodol ar gyfer cludo nwyddau yma yng Nghymru.

Roedden nhw'n poeni am y pwysau sydd ar gwmnïau oherwydd y cynnydd mewn achosion o ddwyn cargo, yn enwedig o arosfannau lorïau ac ardaloedd gorffwys heb lawer o ddiogelwch. Rydyn ni'n dibynnu ar y sector hwn bob dydd i gludo nwyddau sydd eu hangen arnon ni i gyd, ond does gan Gymru ddim digon o leoedd parcio diogel na buddsoddiad digonol yn y llwybrau cludo nwyddau allweddol hynny. Mae'n fater sydd angen mynd i'r afael ag ef ar unwaith.

Mae Wythnos Genedlaethol Lorïau yn ddathliad blynyddol o'r diwydiant cludo nwyddau a'i bobl, ei dimau a'i sefydliadau, sy'n arddangos rôl hanfodol y sector a'r cyfleoedd gyrfa gwerth chweil sydd ar gael.
Mae’r wythnos, sy’n cael ei chynnal rhwng 3-9 Tachwedd, yn hyrwyddo'r rhai sy'n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y DU yn cael y nwyddau sydd eu hangen arni, o yrwyr i staff warws, mecanyddion a staff logisteg. 
Mae Wythnos Genedlaethol Lorïau yn cael ei chynnal gan y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, y gymdeithas fasnach bwrpasol fwyaf ar gyfer cerbydau nwyddau trwm, faniau a choetsys yn y DU. 

You may also be interested in

Sam Rowlands

Sam Rowlands MS supports 'Winter Warmer' initiative for local over 60’s in North Wales

Friday, 7 November, 2025
Sam Rowlands AS yn cefnogi menter ‘Gaeaf Cynnes’? i bobl leol dros 60 oed yn y Gogledd

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2025 Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru. All rights reserved.
Powered by Bluetree