Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is once again backing a new community based Repair Café support fund in North Wales.
Enfinium, the operator of the Parc Adfer energy recovery facility in Deeside, which runs the waste into power plant in Deeside handling black bin waste from Anglesey, Gwynedd, Conwy, Denbighshire and Flintshire has launched the third year of its Repair Café Support Fund, offering £20,000 in new grant funding for community repair projects across North Wales.
Mr Rowlands, a keen supporter of encouraging recycling said:
I have been fortunate enough to visit the North Wales site at Parc Adfer and sponsor an event in the Senedd to highlight the work which is being done to reduce waste across Wales and I am delighted to support the Repair Café initiative.
These days it is all too easy to replace rather than repair items and I am really pleased to see enfinium offering funds to encourage Repair Cafés near their site in Flintshire.
It is really important that we continue to reduce recycling waste and Repair Cafés offer everyone the opportunity to do their bit to help this cause.
Since launching the initiative in March 2024, enfinium has allocated over £35,000 to 22 separate community-led Repair Cafés, helping to expand and improve their operations, as well as supporting the launch of new Repair Cafés. With this funding, Repair Cafés have diverted waste from landfill, helped advance the circular economy, and enabled people to keep hold of cherished items for longer whilst saving money on repairs and replacements.
Mike Maudsley, CEO at enfinium, said:
By empowering communities to repair rather than replace, Repair Cafés play an important role in reducing waste and advancing the circular economy from the bottom up, as well as forming an integral part of the local communities where we operate. As an operator committed to managing unrecyclable waste in the most circular way possible, we at enfinium are proud to continue to support these impactful local initiatives keep waste out of landfill for another year.
With £20,000 available this year, applications for funding can be made from Repair Cafes operating within a 30 mile radius of one of enfinium’s facilities.
A Repair Café is a community-based not-for-profit, often with charitable status, offering free repairs of common household items such as toasters, hoovers and bicycles. Every item repaired saves a family from the undue expense of buying a replacement. Research has shown that extending a product’s lifespan can lead to significant emissions savings. For example, maintaining a single television for an additional seven years results in a carbon emission saving of 657kg.
Repair Cafés within Flintshire, Conwy, Denbighshire, Gwynedd and Anglesey can apply for the 2026 funding round. Applications are open until 31 May 2026.
To learn more the Repair Café Support Fund, or apply for funding, please visit the Repair Café webpage on enfinium’s website or email [email protected].
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at fwy o arian sydd ar gael i gefnogi Caffis Trwsio lleol
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, unwaith eto yn cefnogi cronfa gymorth Caffis Trwsio gymunedol newydd yn y Gogledd.
Mae enfinium, gweithredwr cyfleuster adfer ynni Parc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy, sy'n rhedeg yr orsaf gwastraff i bŵer yng Nglannau Dyfrdwy sy'n trin gwastraff biniau du o Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, wedi lansio trydedd flwyddyn ei Gronfa Gymorth Caffis Trwsio, gan gynnig £20,000 o gyllid grant newydd ar gyfer prosiectau trwsio cymunedol ledled y Gogledd.
Meddai Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o annog ailgylchu:
Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â’r safle ym Mharc Adfer yn y Gogledd a noddi digwyddiad yn y Senedd i dynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud i leihau gwastraff ledled Cymru, ac rwy'n falch iawn o gefnogi'r fenter Caffis Trwsio.
Y dyddiau hyn, mae'n rhy hawdd prynu eitemau newydd yn lle trwsio eitemau ac rwy'n falch iawn o weld enfinium yn cynnig arian i annog Caffis Trwsio ger ei safle yn Sir y Fflint.
Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i leihau gwastraff ailgylchu ac mae Caffis Trwsio yn cynnig cyfle i bawb gyfrannu at helpu'r achos hwn.
Ers lansio'r fenter ym mis Mawrth 2024, mae enfinium wedi dyrannu dros £35,000 i 22 o Gaffis Trwsio a arweinir gan y gymuned, gan helpu i ehangu a gwella eu gweithrediadau, yn ogystal â chefnogi'r gwaith o lansio Caffis Trwsio newydd. Gyda'r cyllid hwn, mae Caffis Trwsio wedi dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi, wedi helpu i hyrwyddo'r economi gylchol ac wedi galluogi pobl i gadw gafael ar eitemau sy’n bwysig iddynt am gyfnod hirach ac arbed arian ar atgyweiriadau a chostau eitemau newydd.
Meddai Mike Maudsley, Prif Swyddog Gweithredol enfinium:
Trwy rymuso cymunedau i drwsio yn hytrach na phrynu eitemau newydd, mae Caffis Trwsio yn gwneud cyfraniad pwysig at leihau gwastraff a hyrwyddo'r economi gylchol o'r gwaelod i fyny, yn ogystal â ffurfio rhan annatod o'r cymunedau lleol lle rydyn ni’n gweithredu. Fel gweithredwr sydd wedi ymrwymo i reoli gwastraff na ellir ei ailgylchu yn y ffordd fwyaf cylchol bosibl, yn enfinium rydyn ni’n falch o barhau i gefnogi'r mentrau lleol effeithiol hyn i gadw gwastraff allan o safleoedd tirlenwi am flwyddyn arall.
Gydag £20,000 ar gael eleni, gall Caffis Trwsio sy'n gweithredu o fewn radiws o 30 milltir i un o gyfleusterau enfinium wneud cais am gyllid.
Mae Caffi Trwsio yn sefydliad nid-er-elw cymunedol, yn aml gyda statws elusennol, sy'n cynnig atgyweiriadau am ddim o eitemau cartref cyffredin fel tostwyr, peiriannau sugno llwch a beiciau. Mae pob eitem sy'n cael ei thrwsio yn arbed teulu rhag gorfod prynu un newydd. Mae ymchwil wedi dangos y gall ymestyn oes cynnyrch arwain at arbedion sylweddol o ran allyriadau. Er enghraifft, mae cynnal un set deledu am saith mlynedd ychwanegol yn arwain at arbediad allyriadau carbon o 657kg.
Gall Caffis Trwsio yn Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn wneud cais yn ystod rownd ariannu 2026. Mae ceisiadau ar agor tan 31 Mai 2026.
I ddysgu mwy am y Gronfa Gymorth Caffis Trwsio, neu i wneud cais am gyllid, ewch i dudalen we Caffis Trwsio ar wefan enfinium neu e-bostiwch [email protected]