Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for Fflint Wrecsam has called on Plaid Cymru to continue to improve road networks in North-East Wales.
Mr Rowlands, Welsh Conservative spokesperson for Finance was speaking in the Senedd during questions to the First Minister, Rhun ap Iorwerth.
He said:
You'll be aware that my constituency of Flint Wrecsam is probably most affected by those economic relationships with North-West England, and businesses there tell me of the importance of a road network, in particular those artery routes of the A55, A483 and the A494.
To be fair to the previous Government in this place, towards the end of the last term they made some significant commitments to improving those roads in Flint Wrexham.
Will your Government continue to support those improvements, and will you look at further investments on those roads in my constituency of Flint Wrexham?
The First Minister said his Government was committed, through the work of the enterprise, connectivity and energy Minister and the Deputy Minister for Transport, to making sure that they have infrastructure that really works for them and making sure that they have the robust road network that they need.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad parhaus ym mhrif ffyrdd ei etholaeth
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Fflint Wrecsam, wedi galw ar Blaid Cymru i barhau i wella rhwydweithiau ffyrdd yn y Gogledd-ddwyrain.
Roedd Mr Rowlands, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Gyllid yn siarad yn y Senedd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth.
Meddai:
Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol mai fy etholaeth i, Fflint Wrecsam, sy'n debygol o gael ei heffeithio fwyaf gan y berthynas economaidd honno â gogledd-orllewin Lloegr, ac mae busnesau'r etholaeth yn sôn wrthyf i am bwysigrwydd y rhwydwaith ffyrdd, yn enwedig llwybrau priffyrdd yr A55, yr A483 a'r A494.
I fod yn deg i'r Llywodraeth flaenorol yn y lle hwn, tua diwedd y tymor Seneddol diwethaf fe wnaethon nhw rai ymrwymiadau sylweddol i wella'r ffyrdd hynny yn Fflint Wrecsam.
A fydd eich Llywodraeth chi'n parhau i gefnogi'r gwelliannau hynny, ac a fyddwch chi'n ystyried buddsoddiadau pellach ar y ffyrdd hynny yn fy etholaeth i, Fflint Wrecsam?
Dywedodd y Prif Weinidog fod ei Lywodraeth wedi ymrwymo, trwy waith y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw seilwaith sy'n gweithio iddyn nhw go iawn, a bod ganddyn nhw’r rhwydwaith ffyrdd cadarn angenrheidiol.