
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing an NHS recruitment drive in Wrexham next month.
Mr Rowlands is encouraging people who want to find out more about working within health care to attend an NHS recruitment event at Wrexham Memorial Hall on Monday July 7 from 10am-2pm.
He said:
I am delighted to highlight such an important event which will give people a chance to find out more about the different opportunities available within the NHS.
There is nothing better than being able to sit down and talk with those who are actually working within the healthcare sector to hear more about the industry. It is also good to see that advice will be on hand to explain what qualifications are needed for the different roles.
I would urge any of my constituents interested in learning more about a career in the NHS to attend the event.
The event has been organised by Wrexham Communities for Work Plus along with Careers Wales and more than 20 NHS departments will be there, giving you the opportunity to speak to staff at Wrexham Maelor Hospital and find out more about the roles they have available.
This is a rare opportunity to access help from staff who will be able to offer give advice on the application process.
Staff from Coleg Cambria and Wrexham University will also be there so you can explore available courses to help you upskill.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at ddigwyddiad swyddi'r GIG yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi ymgyrch recriwtio'r GIG yn Wrecsam fis nesaf.
Mae Mr Rowlands yn annog pobl sydd eisiau dysgu mwy am weithio ym maes gofal iechyd i fynychu digwyddiad recriwtio'r GIG yn Neuadd Goffa Wrecsam ddydd Llun 7 Gorffennaf rhwng 10am-2pm.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o dynnu sylw at ddigwyddiad mor bwysig a fydd yn rhoi cyfle i bobl ddarganfod mwy am y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael yn y GIG.
Does dim byd gwell na gallu eistedd i lawr a siarad â'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal iechyd i glywed mwy am y diwydiant. Mae hefyd yn dda gweld y bydd yna gyngor wrth law hefyd i esbonio pa gymwysterau sydd eu hangen ar gyfer y gwahanol rolau.
Byddwn yn annog unrhyw un o'm hetholwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am yrfa yn y GIG i fynychu'r digwyddiad.
Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu gan Cymunedau am Waith+ Wrecsam ynghyd â Gyrfa Cymru a bydd mwy nag 20 o adrannau'r GIG yno, gyda chyfle i chi siarad â staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam a darganfod mwy am y rolau sydd ar gael ganddyn nhw.
Dyma gyfle prin i gael mynediad at gymorth gan staff a fydd yn gallu cynnig cyngor ar y broses ymgeisio.
Bydd staff o Goleg Cambria a Phrifysgol Wrecsam yno hefyd fel y gallwch archwilio'r cyrsiau sydd ar gael i'ch helpu i uwchsgilio.