Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has praised the work of police who keep the public safe on railways across North Wales.
Mr Rowlands, Shadow Cabinet Minister for Transport and a keen supporter of the police recently met with representatives from British Transport Police in the Senedd.
He said:
I was delighted to meet up with officers from the British Transport Police and hear all about their important job policing railways across Wales and the rest of the United Kingdom.
It was great to learn more about the valuable role they play in keeping people safe on the railways which is so important, and makes people feel more comfortable in using public transport.
It is absolutely vital that we feel secure when we do use our train services and I fully support and commend British Transport Police for the work they carry out.
Like every public service BTP need our help to keep crime down on the railways and I would urge anyone wanting to report an incident either dial 999 or text 610116.
British Transport Police (BTP) help millions of people travel safely every day and also protect over a quarter of a million tonnes of freight moving between depots and docks day. They also police major sporting events and concerts to supporting public demonstrations.
Neighbourhood Policing Teams police the railways in Wales and look after stations all over the country and have a team of officers specifically covering North Wales.
The teams have a specialist knowledge of the area they work in, and can cater to the particular needs of the community.
Their priorities include preventing physical and verbal assaults on staff members to increase positive outcomes, ensuring that there is an effective communication with victims; reduce violence, serious public order offences and anti-social behaviour and safeguarding the public and reduce delay on the railway by reducing trespass incidents at hotspot locations.
To report a crime dial 999 or text 61016.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at waith Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi canmol gwaith yr heddlu sy'n cadw'r cyhoedd yn ddiogel ar reilffyrdd ar draws y Gogledd.
Yn ddiweddar, cafodd Mr Rowlands, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth a chefnogwr brwd yr heddlu gyfarfod â chynrychiolwyr o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn y Senedd.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gwrdd â swyddogion o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a chlywed popeth am eu swydd bwysig yn plismona rheilffyrdd ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
Roedd hi’n wych dysgu mwy am y rôl werthfawr maen nhw'n ei chwarae wrth gadw pobl yn ddiogel ar y rheilffyrdd sy’n waith hynod bwysig, ac yn gwneud i bobl deimlo'n fwy cyfforddus wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'n hollol hanfodol ein bod ni’n teimlo'n ddiogel pan fyddwn ni’n defnyddio ein gwasanaethau trên ac rwy'n cefnogi ac yn canmol yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig am y gwaith maen nhw'n ei wneud.
Fel pob gwasanaeth cyhoeddus, mae angen ein help ar yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i leihau troseddu ar y rheilffyrdd a byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau rhoi gwybod am ddigwyddiad naill ai i ddeialu 999 neu anfon neges destun i 610116.
Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn helpu miliynau o bobl i deithio'n ddiogel bob dydd a hefyd yn diogelu dros chwarter miliwn tunnell o nwyddau sy'n symud rhwng depos a dociau bob dydd. Maen nhw hefyd yn plismona digwyddiadau chwaraeon a chyngherddau mawr i gefnogi gwrthdystiadau cyhoeddus.
Mae Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn plismona'r rheilffyrdd yng Nghymru ac yn gofalu am orsafoedd ledled y wlad ac mae ganddyn nhw dîm o swyddogion sy'n cwmpasu Gogledd Cymru yn benodol.
Mae gan y timau wybodaeth arbenigol am ardal maen nhw'n gweithio ynddi, a gallant ddiwallu anghenion penodol y gymuned.
Mae eu blaenoriaethau yn cynnwys atal ymosodiadau corfforol a geiriol ar aelodau staff a chynyddu canlyniadau cadarnhaol, gan sicrhau bod cyfathrebu effeithiol â dioddefwyr; lleihau trais, troseddau trefn gyhoeddus difrifol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelu'r cyhoedd a lleihau oedi ar y rheilffordd trwy leihau digwyddiadau tresmasu mewn lleoliadau lle ceir problemau.
I roi gwybod am drosedd, ffoniwch 999 neu anfonwch neges destun at 61016.