Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS pleased to see announcement of investment zone grants for North-East Wales

  • Tweet
Wednesday, 4 February, 2026
  • Local News
Sam Rowlands MS

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed extra public investment in Wrexham and Flintshire.

The two multi-million pound grant schemes have been launched in Wrexham and Flintshire to kick-start an exciting new era for advanced manufacturing in the region.

Mr Rowlands, Shadow Cabinet Minister for Finance and a keen supporter of encouraging more investment in North-East Wales, said he was delighted with the news.

He said:

I really do welcome the progress that's so far taken place with the investment zone in North-East Wales and I am delighted to see these new grants targeting manufacturing firms in Wrexham and Flintshire.

We all know about the success of the region’s advanced manufacturing sector, it is great to be able to build on that and it is an extremely positive step for the area.

I am especially pleased to see this development as I was involved in coordinating some cross party support to get both the former UK Conservative and Welsh Labour Governments to set up this investment zone.

I have also often spoken in the Senedd about the endless opportunities for investment in North-East Wales because of our close proximity to the North West and links to Ireland and Europe and it is good to see ideas coming to fruition.

The new grant schemes will be aimed at small to medium enterprises (SMEs) are the first to be launched under the new Flintshire and Wrexham Investment Zone.

They are part of the new Flintshire and Wrexham Investment Zone, which is being backed by both the UK and Welsh governments, and co-ordinated by Ambition North Wales.

Both the Flintshire County Council and the Wrexham Council schemes will offer grants from £5k up to £100k, at least 30% match funded by each company, to local manufacturing firms in their local authority area.

Businesses will be able to apply from Monday, February 2 and Together, the schemes will allocate £6m in grants over the next three years.

Councillor Mark Pritchard, Leader of Wrexham Council and Chair of Ambition North Wales, said: 

The advanced manufacturing sector is crucial to our economy, and a lot of world-class manufacturers are already based here.

We now need to build on this and show that we’re a true powerhouse for advanced industry in Wales, and I hope that local firms take advantage of these grants. This is a golden opportunity for the sector.

Councillor Dave Hughes, Leader of Flintshire County Council, said: 

The Investment Zone is a hugely positive step for Flintshire and Wrexham, and will give us a platform to attract new investment to the region – helping to create jobs and inspire the next generation of businesses leaders and skilled workers.

The launch of these grants shows the kind of opportunities the Investment Zone will bring, and I hope as many local businesses as possible will apply.

SMEs are defined as businesses with fewer than 250 employees and while the region is home to a number of major global companies, SMEs account for 97.4% of all businesses in both Flintshire and Wrexham.

As a result, SMEs are seen as crucial to the growth of the advanced manufacturing sector in North-East Wales.

For more information on the Wrexham scheme, visit the Wrexham Council website.

For more information on the Flintshire scheme, visit the Flintshire County Council website.

 

Sam Rowlands AS yn falch o weld cyhoeddiad am grantiau parth buddsoddi ar gyfer y Gogledd-ddwyrain

Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi croesawu buddsoddiad cyhoeddus ychwanegol yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae'r ddau gynllun grant gwerth miliynau o bunnoedd wedi'u lansio yn Wrecsam a Sir y Fflint i gychwyn cyfnod newydd cyffrous ar gyfer gweithgynhyrchu uwch yn y rhanbarth.

Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid a chefnogwr brwd o annog mwy o fuddsoddiad yn y Gogledd-ddwyrain, ei fod wrth ei fodd gyda'r newyddion.

Meddai:

Rwy'n croesawu'r cynnydd sydd wedi digwydd hyd yma gyda'r parth buddsoddi yn y Gogledd-ddwyrain ac rwy'n falch iawn o weld y grantiau newydd hyn yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Rydyn ni i gyd yn gwybod am lwyddiant sector gweithgynhyrchu uwch y rhanbarth, mae'n wych gallu adeiladu ar hynny ac mae'n gam hynod gadarnhaol i'r ardal.

Rwy'n hynod falch o weld y datblygiad hwn gan i mi fod yn rhan o’r gwaith o gydlynu rhywfaint o gefnogaeth drawsbleidiol i gael cyn-Lywodraeth Geidwadol y DU a Llywodraeth Lafur Cymru i sefydlu'r parth buddsoddi hwn.

Rydw i hefyd wedi siarad yn aml yn y Senedd am y cyfleoedd diddiwedd ar gyfer buddsoddi yn y Gogledd-ddwyrain gan ein bod ni mor agos at ogledd-orllewin Lloegr ac oherwydd ein cysylltiadau ag Iwerddon ac Ewrop, ac mae'n dda gweld syniadau'n dwyn ffrwyth.

Bydd y cynlluniau grant newydd ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaChau) a nhw yw'r cyntaf i gael eu lansio o dan Barth Buddsoddi newydd Sir y Fflint a Wrecsam.

Maen nhw’n rhan o Barth Buddsoddi newydd Sir y Fflint a Wrecsam, sy'n cael ei gefnogi gan lywodraethau'r DU a Chymru a'i gydlynu gan Uchelgais Gogledd Cymru.

Bydd cynlluniau Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Wrecsam yn cynnig grantiau o £5,000 hyd at £100,000, gydag o leiaf 30% wedi'i ariannu gan bob cwmni, i gwmnïau gweithgynhyrchu lleol yn eu hardal awdurdod lleol.

Bydd busnesau'n gallu gwneud cais o ddydd Llun 2 Chwefror a, gyda'i gilydd, bydd y cynlluniau'n dyrannu £6m mewn grantiau dros y tair blynedd nesaf.

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a Chadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru:

Mae'r sector gweithgynhyrchu uwch yn hanfodol i'n heconomi, ac mae llawer o weithgynhyrchwyr o'r radd flaenaf eisoes wedi'u lleoli yma.

Mae angen i ni nawr adeiladu ar hyn a dangos ein bod yn bwerdy gwirioneddol ar gyfer diwydiant datblygedig yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y bydd cwmnïau lleol yn manteisio ar y grantiau hyn. Mae hwn yn gyfle euraidd i'r sector.

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 

Mae'r Parth Buddsoddi yn gam hynod gadarnhaol i Sir y Fflint a Wrecsam, a bydd yn rhoi llwyfan i ni ddenu buddsoddiad newydd i'r rhanbarth – gan helpu i greu swyddi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnesau a gweithwyr medrus.

Mae lansio'r grantiau hyn yn dangos y math o gyfleoedd y bydd y Parth Buddsoddi yn eu cyflwyno, ac rwy'n gobeithio y bydd cymaint o fusnesau lleol â phosibl yn gwneud cais.

Mae BBaChau yn cael eu diffinio fel busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr ac, er bod y rhanbarth yn gartref i nifer o gwmnïau byd-eang mawr, mae BBaChau yn cyfrif am 97.4% o'r holl fusnesau yn Sir y Fflint a Wrecsam.

O ganlyniad, mae BBaChau yn cael eu hystyried yn hanfodol i dwf y sector gweithgynhyrchu uwch yn y Gogledd-ddwyrain.

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Wrecsam, ewch i wefan Cyngor Wrecsam.

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Sir y Fflint, ewch i wefan Cyngor Sir y Fflint.

You may also be interested in

Sam Rowlands MS

Sam Rowlands MS welcomes reprieve for three public toilets in Flintshire

Thursday, 26 February, 2026
Sam Rowlands AS yn croesawu’r cam i achub tri thoiled cyhoeddus yn Sir y Fflint

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands for North Wales

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands. All rights reserved.
Powered by Bluetree