Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed a collaboration between Wrexham University and an American college.
Mr Rowlands was commenting after it was announced that the university has launched a trailblazing international partnership with Bucks County Community College, which will offer American students a seamless path to earning a globally recognised degree in as little as one year.
Mr Rowlands, a great admirer of the ambitious plans for the university said:
I am absolutely delighted with this news. Wrexham University continues to go from strength to strength and it is great to see this partnership with the USA.
The city itself continues to be a destination favourite with visitors, with a little help from Wrexham AFC, and I would like to congratulate everyone at the university for their achievements and for helping to continue to put Wrexham firmly on the higher education map.
The collaboration between the University and the Community College, which is based in southeastern Pennsylvania, will provide Bucks students the opportunity to explore and immerse themselves in Welsh culture, and graduate with an international degree in just three years with an option to earn their Master of Business Administration (MBA) postgraduate degree in the fourth year.
As one of the youngest universities in the UK, this international partnership bolsters Wrexham University’s bold vision to collaborate and work in active partnerships at a global level to maximise positive impacts for the wellbeing of current and future generations.
Through the new partnership agreement, students completing their associate degree in business administration at Bucks can transfer directly to Wrexham University to complete a degree in either Business and Management or Accounting and Finance Management in just one additional year.
The partnership also builds on the growing connection between Wrexham and the greater Philadelphia region, thanks in part to actor and producer Rob McElhenney.
A South Philadelphia native and co-owner of Wrexham AFC, McElhenney has helped put the local area on the map for many Americans through the acclaimed documentary, ‘Welcome to Wrexham’.
Moss Garde, Pro Vice-Chancellor for External Engagement and Partnerships at Wrexham University, said:
This international partnership with Bucks County Community College is incredibly exciting as it reflects our commitment to creating global pathways in education.
By opening up new opportunities for collaboration and student mobility, we are delivering on our newly launched 2030 vision and strategy to be a connected, inclusive, and globally engaged university.
Sam Rowlands AS yn falch o weld llwyddiant parhaus mewn prifysgol yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu cydweithrediad rhwng Prifysgol Wrecsam a choleg yn America.
Roedd Mr Rowlands yn gwneud sylwadau ar ôl y cyhoeddiad bod y brifysgol wedi lansio partneriaeth ryngwladol arloesol gyda Bucks County Community College, a fydd yn cynnig llwybr di-dor i fyfyrwyr yn America ennill gradd a gydnabyddir yn fyd-eang mewn cyn lleied â blwyddyn.
Meddai Mr Rowlands, sy’n edmygydd mawr o'r cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y brifysgol:
Rydw i wrth fy modd â'r newyddion yma. Mae Prifysgol Wrecsam yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae'n wych gweld y bartneriaeth hon gyda’r Unol Daleithiau.
Mae'r ddinas ei hun yn parhau i fod yn gyrchfan poblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr, gydag ychydig o help gan Glwb Pêl-droed Wrecsam, a hoffwn longyfarch pawb yn y brifysgol am eu cyflawniadau ac am helpu i barhau i roi Wrecsam ar y map addysg uwch.
Bydd y cydweithrediad rhwng y Brifysgol a Bucks County Community College, sydd wedi'i leoli yn ne-ddwyrain Pennsylvania, yn gyfle i fyfyrwyr Bucks archwilio ac ymgolli yn niwylliant Cymru, a graddio gyda gradd ryngwladol mewn tair blynedd yn unig gydag opsiwn i ennill eu gradd ôl-raddedig Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) yn y bedwaredd flwyddyn.
Fel un o'r prifysgolion ieuengaf yn y DU, mae'r bartneriaeth ryngwladol hon yn atgyfnerthu gweledigaeth feiddgar Prifysgol Wrecsam i gydweithio a gweithio mewn partneriaethau gweithredol ar lefel fyd-eang i wneud y mwyaf o effeithiau cadarnhaol ar lesiant cenedlaethau heddiw ac yfory.
Drwy'r cytundeb partneriaeth newydd, gall myfyrwyr sy'n cwblhau eu gradd gyswllt mewn gweinyddu busnes yn Bucks drosglwyddo'n uniongyrchol i Brifysgol Wrecsam i gwblhau gradd mewn naill ai Busnes a Rheoli neu Gyfrifeg a Rheoli Cyllid mewn un flwyddyn ychwanegol yn unig.
Mae'r bartneriaeth hefyd yn adeiladu ar y cysylltiad cynyddol rhwng Wrecsam a rhanbarth ehangach Philadelphia, diolch yn rhannol i'r actor a'r cynhyrchydd Rob McElhenney.
Yn frodor o Dde Philadelphia a chydberchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae McElhenney wedi helpu i roi'r ardal leol ar y map i lawer o Americanwyr drwy'r rhaglen ddogfen glodfawr, 'Welcome to Wrexham'.
Meddai Moss Garde, Dirprwy Is-Ganghellor Ymgysylltu Allanol a Phartneriaethau ym Mhrifysgol Wrecsam:
Mae'r bartneriaeth ryngwladol hon gyda Bucks County Community College yn hynod gyffrous gan ei bod yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu llwybrau byd-eang mewn addysg.
Drwy agor cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio a symudedd myfyrwyr, rydyn ni’n cyflawni ein gweledigaeth a’n strategaeth ar gyfer 2030 sydd newydd ei lansio i fod yn brifysgol gysylltiedig, gynhwysol sy’n ymgysylltu â phedwar ban byd.