Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for Fflint Wrecsam, has called for the Welsh Government to do more to help young people.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, the Welsh Conservative spokesperson for education and families, said he was concerned about the number of young people not in work, training or education, in Wales.
He told Adam Price, Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy:
You need to acknowledge that there's a particular problem here in Wales. In England, the numbers have actually dropped in the last 12 months to 13.3%, whereas, in Wales, numbers have shot up to 17% of 16 to 25-year-olds not in work, training or education.
It's vitally important that we get those young people into those positions as quickly as possible. As you know, Jobs Growth Wales+ makes a big difference in that, and you do have already the policy levers to be able to make a difference in this area, and it's about prioritising whether or not you think it's an important matter for you to tackle.
I think in particular, in my own constituency of Fflint Wrecsam, that Coleg Cambria run a fantastic summer school with Jobs Growth Wales+, where 100 young people took part in that summer school - a record number so far.
Cabinet Minister, will you commit today, for the sake of the 16 to 25-year-olds, to ensuring that this is a priority and that you do use the policy levers you already have to ensure that young people have a fighting chance?
The Cabinet Minister agreed that the existing interventions in Wales were not working and they have commissioned, Professor Melanie Jones, one of the leading figures in labour market economics, to look at how they can best use their policy levers.
Sam Rowlands AS yn rhoi canmoliaeth yn y Senedd i ysgol haf lwyddiannus Coleg Cambria i bobl ifanc
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros etholaeth Fflint Wrecsam, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu pobl ifanc.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Rowlands, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros addysg a theuluoedd, ei fod yn poeni am nifer y bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru.
Dywedodd wrth Adam Price, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:
Mae angen ichi gydnabod bod problem arbennig yma yng Nghymru. Yn Lloegr, mae'r niferoedd wedi gostwng yn y 12 mis diwethaf i 13.3 y cant, tra bo'r niferoedd yng Nghymru wedi saethu i fyny i 17 y cant o bobl 16 i 25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn cael y swyddi hynny cyn gynted â phosibl. Fel y gwyddoch, mae Twf Swyddi Cymru+ yn gwneud gwahaniaeth mawr yn hynny o beth, ac mae gennych eisoes y liferi polisi i allu gwneud gwahaniaeth yn y maes hwn, ac mae a wnelo â blaenoriaethu p'un a ydych chi'n credu ei fod yn fater pwysig i chi fynd i'r afael ag ef ai peidio.
Yn fy etholaeth i yn Fflint Wrecsam, rwy'n meddwl yn arbennig am Coleg Cambria sy'n cynnal ysgol haf wych gyda Twf Swyddi Cymru+, a chymerodd 100 o bobl ifanc ran yn yr ysgol haf honno - y nifer uchaf erioed hyd yma.
Felly, Weinidog Cabinet, a wnewch chi ymrwymo heddiw, er mwyn pobl 16 i 25 oed, i sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth a'ch bod yn defnyddio'r liferi polisi sydd gennych eisoes i sicrhau bod rhywfaint o obaith i bobl ifanc?
Cytunodd Gweinidog y Cabinet nad oedd yr ymyriadau presennol yng Nghymru yn gweithio a dywedodd fod y Llywodraeth wedi comisiynu’r Athro Melanie Jones, un o ffigurau blaenllaw economeg y farchnad lafur, i edrych ar sut y gallant ddefnyddio eu liferi polisi yn y ffordd orau.