Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS praises new technology being used at a North Wales college

  • Tweet
Monday, 14 July, 2025
  • Local News
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed the introduction of new technology to boost animal welfare and milk production at Coleg Cambria Llysfasi, near Ruthin.

Mr Rowlands, a keen supporter of farmers and the agricultural sector said:

I am always pleased to hear about the continual development of Coleg Cambria Llysfasi especially when it involves new technology which can only add to the learning experience.

It certainly is good news for future dairy farmers wanting to study at the college and will not only help to support animal welfare but bring economic and environmental benefits.

The college’s rural setting has always made it a popular place for studying and it is great to see new technology being embraced and offering even more to students who want to gain farming qualifications.

Coleg Cambria Llysfasi has installed revolutionary new 3D video monitoring technology, HerdVision, at its working farm and is already reaping the benefits.

As well having a positive financial and sustainability impact the Smart Agriculture system – which uses 2D and 3D infared camera technology, combined with smart algorithms and edge processing, to capture data which is sent to a server to be viewed on an app within seconds – has a major effect on the animal’s health, fertility and milk production.

Cambria has 280 dairy cows on site and each one is monitored daily, providing an “early warning” which “may not always be picked up by the naked eye” to ensure the cattle remain productive and efficient.

Llysfasi Farm Manager Dewi Jones said: 

We installed HerdVision at the start of the academic year in September and are already seeing the benefits.

The system monitors locomotion and body condition, which is invaluable when considering milk production, fertility, foot trimming and other factors.

It doesn’t take away from the skill and instinct of knowing the animals, their behaviours and picking up on issues naturally – lameness or loss of appetite, for example – but gives you more information to help shape decision making and can anticipate when problems arise and how best to deal with them.”

The cows go through the cameras twice a day and the data is sent straight to us, which is incredible.

It has been particularly useful for students as we move more towards precision agriculture, the detail for individual cows but also the group dynamic, any changes and what solutions we need – it’s a phenomenal tool and has been a great addition to the technology we already have here.

Automated detection of lame cows allows early intervention and a significant reduction in the cost of the debilitating disease.

Live mobility monitoring via HerdVision allows for early treatment – the key to rapid and complete recovery, with minimal disturbance to the cow and her productivity.

The digital camera ‘in-box’ analysis software and cloud computing, brought together in a web interface, enables farmers, their vets and nutritionists, to make use of precise, consistent and regular outcome measurements 365 days a year.

 

Sam Rowlands AS yn canmol technoleg newydd sy'n cael ei defnyddio mewn coleg yn y Gogledd

Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi croesawu technoleg newydd i hybu lles anifeiliaid a chynhyrchiant llaeth sydd wedi’i chyflwyno yng Ngholeg Cambria Llysfasi, ger Rhuthun.

Meddai Mr Rowlands, cefnogwr brwd o ffermwyr a'r sector amaethyddol:

Rydw i bob amser yn falch o glywed am ddatblygiad parhaus Coleg Cambria Llysfasi yn enwedig pan mae'n cynnwys technoleg newydd a all ychwanegu at y profiad dysgu yn unig.

Mae'n sicr yn newyddion da i ffermwyr llaeth y dyfodol sydd eisiau astudio yn y coleg a bydd nid yn unig yn helpu i gefnogi lles anifeiliaid ond yn arwain at fanteision economaidd ac amgylcheddol.

Mae lleoliad gwledig y coleg bob amser wedi’i wneud yn lle astudio poblogaidd ac mae'n wych gweld technoleg newydd yn cael ei chofleidio, gan gyfoethogi’r hyn sy’n cael ei gynnig yno ymhellach i fyfyrwyr sydd eisiau ennill cymwysterau ffermio.

Mae Coleg Cambria Llysfasi wedi gosod technoleg monitro fideo 3D newydd chwyldroadol, HerdVision, ar ei fferm waith ac mae eisoes yn elwa ar y manteision.

Yn ogystal â chael effaith ariannol a chynaliadwyedd gadarnhaol, mae'r system Amaethyddiaeth Glyfar – sy'n defnyddio technoleg camerau 2D a 3D, ynghyd ag algorithmau clyfar a phrosesu ymylon, i ddal data sy'n cael ei anfon i weinydd ac sydd i'w weld ar ap o fewn eiliadau – yn cael effaith fawr ar iechyd, ffrwythlondeb a chynhyrchiant llaeth yr anifail.

Mae gan Cambria 280 o wartheg godro ar y safle ac mae pob un yn cael ei monitro'n ddyddiol, gan ddarparu "rhybudd cynnar" o broblem na fydd y llygad dynol bob amser yn sylwi arni, gan sicrhau bod y gwartheg yn parhau i fod yn gynhyrchiol ac effeithlon.

Meddai Rheolwr Fferm Llysfasi, Dewi Jones: 

Fe wnaethon ni osod HerdVision ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi ac rydyn ni eisoes yn gweld y manteision.

Mae'r system yn monitro symudiad a chyflwr y corff, sy'n amhrisiadwy wrth ystyried cynhyrchiant llaeth, ffrwythlondeb, tocio traed a ffactorau eraill.

Dydy o’n tynnu dim oddi ar y sgil a'r reddf o adnabod yr anifeiliaid, eu hymddygiad a sylwi ar broblemau yn naturiol - cloffni neu golli archwaeth, er enghraifft - ond mae'n rhoi mwy o wybodaeth i chi i’ch helpu i wneud penderfyniadau a rhagweld pryd mae problemau'n codi a sut orau i ddelio â nhw."

Mae'r gwartheg yn mynd trwy'r camerâu ddwywaith y dydd ac mae'r data yn cael ei anfon yn syth atom, sy'n anhygoel.

Mae wedi bod yn arbennig o fuddiol i fyfyrwyr wrth i ni symud mwy tuag at amaethyddiaeth fanwl. Rydyn ni’n cael manylion am y gwartheg unigol ond hefyd am ddynameg y grŵp, unrhyw newidiadau sy’n digwydd a pha atebion sydd eu hangen arnom ni - mae'n adnodd anhygoel ac wedi bod yn ychwanegiad gwych i'r dechnoleg sydd gennym ni yma eisoes.

Mae canfod gwartheg cloff yn awtomatig yn caniatáu ymyrraeth gynnar a gostyngiad sylweddol yng nghost y clefyd gwanychol.

Mae monitro symudedd byw trwy HerdVision yn caniatáu triniaeth gynnar – yr allwedd i adferiad cyflym a chyflawn, heb darfu fawr ddim ar y fuwch a'i chynhyrchiant.

Mae'r feddalwedd dadansoddi 'mewnflwch' camera digidol a chyfrifiadura cwmwl, sydd wedi’u dwyn ynghyd mewn rhyngwyneb gwe, yn galluogi ffermwyr, eu milfeddygon a'u maethegwyr, i ddefnyddio mesuriadau canlyniadau manwl, cyson a rheolaidd 365 diwrnod y flwyddyn.

You may also be interested in

Sam Rowlands MS

Sam Rowlands MS welcomes reprieve for three public toilets in Flintshire

Thursday, 26 February, 2026
Sam Rowlands AS yn croesawu’r cam i achub tri thoiled cyhoeddus yn Sir y Fflint

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands for North Wales

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands. All rights reserved.
Powered by Bluetree