
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has resigned from the Senedd’s Wales Covid-19 Inquiry Special Purpose Committee after Labour blocked a motion that would have allowed witnesses, including Ministers, to give evidence under oath.
In his resignation letter Mr Rowlands said:
I and the Welsh Conservatives entered the Wales Covid-19 Inquiry Special Purpose Committee with good intentions, and aiming to deliver answers to those who lost loved ones during the pandemic.
Regretfully, my time on the Committee has seen scrutiny blocked by either the Welsh Labour Government, or the Labour Members that I sit on the Committee with.
The Labour Government and Labour Senedd Members have voted against requiring witnesses to take oaths. In light of this, I have taken the difficult decision to resign as a member of the Senedd’s Wales-Covid 19 Inquiry Special Purpose Committee, resulting in the Welsh Conservatives no longer engaging with the Committee.
Earlier Mr Rowlands spoke in the Senedd in the Welsh Conservatives Debate: Wales COVID-19 Inquiry Special Purpose Committee oaths and affirmations.
He said:
It's clear that Labour politicians, for whatever reason, are stopping the proper work of scrutiny that the people of Wales should expect.
Going back to the context of why this is important, we know that Wales had the highest COVID-19 death rate in the UK, and the families of those who have died or suffered as a result of this, and had those experiences as well—deserve a full and thorough investigation into the decisions made by the Welsh Government Ministers at the time.
The Government here in Wales made separate decisions from what else took place across the United Kingdom. They could have been in lockstep with other parts of United Kingdom, but they chose not to be. They chose to do things differently, and that was a choice. But those choices require proper scrutiny, rather than being avoided, which seems is the case at the moment.
In Scotland, there is a separate inquiry taking place, where summoned witnesses provide evidence on oath, and they are compelled to produce documents that are asked of them as well. So, we're not calling for radical change in this place. It is simply a measure that will allow us to carry out the task that this Senedd has asked us to carry out.
The motion which was voted against read:
To propose that the Senedd:
Believes that the Senedd’s Standing Orders should provide the Wales Covid-19 Inquiry Special Purpose Committee with a discretionary power enabling it to require witnesses to take an oath or make an affirmation when giving evidence.
Sam Rowlands AS yn ymddiswyddo o bwyllgor Covid-19 y Senedd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi ymddiswyddo o Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru y Senedd ar ôl i Lafur rwystro cynnig a fyddai wedi caniatáu i dystion, gan gynnwys Gweinidogion, roi tystiolaeth dan lw.
Yn ei lythyr ymddiswyddo dywedodd Mr Rowlands:
Fe wnes i a'r Ceidwadwyr Cymreig ymuno â Phwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru gyda bwriadau da, gyda’r nod o roi atebion i'r rhai a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig.
Yn anffodus, mae fy amser ar y Pwyllgor wedi gweld y craffu’n cael ei rwystro naill ai gan Lywodraeth Llafur Cymru, neu'r Aelodau Llafur rydw i'n eistedd ar y Pwyllgor gyda nhw.
Mae'r Llywodraeth Lafur ac Aelodau Llafur o’r Senedd wedi pleidleisio yn erbyn gofyniad i dystion dyngu llw. Yng ngoleuni hyn, rwyf wedi gwneud y penderfyniad anodd i ymddiswyddo fel aelod o Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Cymru-Covid 19 y Senedd, sy’n golygu nad yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn ymgysylltu â'r Pwyllgor mwyach.
Yn gynharach siaradodd Mr Rowlands yn y Senedd yn Nadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llwon neu gadarnhad Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru.
Meddai:
Mae’n amlwg fod gwleidyddion Llafur, am ba bynnag reswm, yn rhwystro'r gwaith craffu priodol y dylai pobl Cymru ei ddisgwyl.
I fynd yn ôl at y cyd-destun pam fod hyn yn bwysig, gwyddom fod gan Gymru’r gyfradd marwolaethau COVID-19 uchaf yn y DU, ac mae teuluoedd y rheini sydd wedi marw neu wedi dioddef o ganlyniad i hyn—ac efallai fod rhai ohonynt yn y Siambr heddiw, sydd wedi cael y profiadau hynny hefyd—yn haeddu ymchwiliad llawn a thrylwyr i’r penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar y pryd.
Gwnaeth y Llywodraeth yma yng Nghymru benderfyniadau ar wahân i'r pethau eraill a ddigwyddodd ar draws y Deyrnas Unedig. Roedd yn ofynnol iddynt wneud y penderfyniadau hynny. Gallent fod wedi gwneud yr un fath â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond fe wnaethant ddewis peidio. Fe wnaethant ddewis gwneud pethau’n wahanol, ac roedd hynny’n ddewis. Ond mae angen craffu’n briodol ar y dewisiadau hynny, yn hytrach na bod hynny'n cael ei osgoi, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd yn ôl pob golwg.
Yn yr Alban, mae ymchwiliad ar wahân yn cael ei gynnal, lle mae tystion gwysedig yn rhoi tystiolaeth ar lw, a chânt eu gorfodi i gyflwyno dogfennau y gofynnir iddynt eu cyflwyno hefyd. Felly, nid ydym yn galw am newid radical yn y lle hwn heddiw. Mae’n fesur a fydd yn caniatáu inni gyflawni’r dasg y mae’r Senedd hon wedi gofyn i ni ei chyflawni, dyna i gyd.
Dyma’r cynnig a bleidleisiwyd yn ei erbyn:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu y dylai Rheolau Sefydlog y Senedd roi pŵer yn ôl disgresiwn i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru sy'n ei alluogi i’w gwneud yn ofynnol i dystion dyngu llw neu roi cadarnhad wrth roi tystiolaeth.