Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, warns time is running out for people to lodge their objections to the controversial plans for a new superschool in Flint.
Flintshire County Council are planning to close St David’s Catholic Primary School in Mold, St Anthony’s in Saltney, St Mary’s in Flint and St Richard Gwyn High School in Flint and build a £55 million superschool for pupils aged 3-18 on the site of St Richard Gwyn.
Mr Rowlands, who has been instrumental in campaigning on behalf of the objectors and has been running his own petition against the proposals is urging people against the plan to make their feelings known.
He said:
As we approach the deadline of Monday, 15th December for final comments, I am urging everyone to make sure they register their objections.
I am still receiving emails from members of the public who remain extremely worried as Flintshire Council refused to accept the feedback of the previous consultation in the Summer which showed that over 95% of parents are against the controversial move.
I continue to meet with up with action groups who have been set up to fight against the plans and fully support their stance.
It is now more than ever absolutely vital that those concerned continue to voice their concerns to stop these plans going any further.
I really cannot believe how councillors, who are supposed to represent their communities, have just ignored the public’s views on this matter.
I just hope commons sense will prevail and the public’s views will be taken seriously.
Comments to the proposals must arrive before the deadline of 11.59pm on Monday, 15th December.
Objections should be sent, either by post to School Modernisation Team, Flintshire County Council, Ty Dewi Sant, St David’s Park, Ewloe CH5 3FF or email to [email protected].
Sam Rowlands AS yn dweud mai dyma’r cyfle olaf i chi gael dweud eich dweud ar gynlluniau i uno pedair ysgol Gatholig yn Sir y Fflint
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn rhybuddio bod amser yn brin i bobl gyflwyno eu gwrthwynebiadau i'r cynlluniau dadleuol ar gyfer uwchysgol newydd yn y Fflint.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu cau Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn yr Wyddgrug, Ysgol Sant Anthony yn Saltney, Ysgol Santes Fair yn y Fflint ac Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn yn y Fflint ac adeiladu uwchysgol gwerth £55 miliwn ar gyfer disgyblion 3-18 oed ar safle Sant Richard Gwyn.
Mae Mr Rowlands, sydd wedi bod yn allweddol wrth ymgyrchu ar ran y gwrthwynebwyr ac wedi bod yn rhedeg ei ddeiseb ei hun yn erbyn y cynigion, yn annog pobl sy’n gwrthwynebu’r cynllun i rannu eu teimladau.
Meddai:
A ninnau ar drothwy’r dyddiad cau ddydd Llun 15 Rhagfyr ar gyfer sylwadau terfynol, rwy'n annog pawb i wneud yn siŵr eu bod yn cofrestru eu gwrthwynebiadau.
Rwy'n dal i dderbyn negeseuon e-bost gan aelodau o'r cyhoedd sy'n parhau i fod yn bryderus iawn gan fod Cyngor Sir y Fflint wedi gwrthod derbyn adborth yr ymgynghoriad blaenorol yn yr haf a ddangosodd fod dros 95% o rieni yn erbyn y cam dadleuol.
Rwy'n parhau i gwrdd â grwpiau gweithredu sydd wedi'u sefydlu i ymladd yn erbyn y cynlluniau ac yn cefnogi eu safiad yn llawn.
Mae'n bwysicach nag erioed bod y rhai sy’n pryderu yn parhau i leisio eu pryderon i atal y cynlluniau hyn rhag mynd ymhellach.
Ni allaf gredu sut mae cynghorwyr, sydd i fod i gynrychioli eu cymunedau, wedi anwybyddu barn y cyhoedd ar y mater hwn.
Gobeithio y bydd synnwyr cyffredin yn ennill y dydd ac y bydd barn y cyhoedd yn cael ei chymryd o ddifrif.
Rhaid i sylwadau i'r cynigion gyrraedd cyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 15 Rhagfyr am 11.59pm.
Dylid anfon gwrthwynebiadau, naill ai drwy'r post at y Tîm Moderneiddio Ysgolion, Cyngor Sir y Fflint, Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewloe CH5 3FF neu drwy e-bost at [email protected].