Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a national charity working towards a world where everyone affected by a brain tumour can live a longer better life.
Mr Rowlands, is supporting events to highlight Brain Tumour Awareness month 2026.
He said:
I am always happy to lend my support to this extremely important charity, which has now been running for 30 years, and raise awareness of this deadly cancer.
Brain tumours are still the biggest cancer killer of people under 40 and although progress has been made a lot more needs to be done so that people receive a quicker diagnosis.
There are lots of way you can help with the campaign by taking part or holding a Twilight Walk, invite friends for a Big Bake or spread the word and back the Better Safe Than Tumour campaign.
It really is absolutely vital we get behind this charity and help to raise awareness.
March 2026 is Brain Tumour Awareness Month and everyone is being invited to join together and march towards a world where everyone affected by a brain tumour can live a longer better life.
It is also an opportunity highlight the work that the charity is undertaking to support people to live longer and better, as well as ways to get involved and support the brain tumour community.
The Brain Tumour Charity is the world’s leading brain tumour charity and the largest dedicated funder of research into brain tumours globally.
Thirty years of progress has shown the charity what’s possible when a community comes together: Childhood diagnosis times halved. Groundbreaking treatments approved. Vital support for those affected.
The Brain Tumour Charity is not marking its 30th anniversary but celebrating 30 years of progress, powered by its supporters, fundraisers, volunteers, and researchers and reflecting on how far it has come.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Tiwmorau’r Ymennydd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi elusen genedlaethol sy'n gweithio tuag at fyd lle gall pawb sy'n cael eu heffeithio gan diwmor yr ymennydd fyw bywyd hirach, gwell.
Mae Mr Rowlands, yn cefnogi digwyddiadau i dynnu sylw at fis Ymwybyddiaeth Tiwmorau’r Ymennydd 2026.
Meddai:
Rydw i bob amser yn hapus i gefnogi’r elusen hynod bwysig hon, sydd bellach wedi bod ar waith ers 30 mlynedd, a chodi ymwybyddiaeth o'r canser marwol hwn.
Tiwmorau'r ymennydd yw'r canser mwyaf angheuol i bobl dan 40 oed ac er bod cynnydd wedi'i wneud mae angen gwneud llawer mwy fel bod pobl yn cael diagnosis cyflymach.
Mae yna sawl ffordd y gallwch chi helpu gyda'r ymgyrch – gallwch gymryd rhan neu gynnal Taith Gerdded y Cyfnos, gwahodd ffrindiau i ‘Big Bake’ neu ledaenu'r gair a chefnogi'r ymgyrch Better Safe Than Tumour.
Mae'n hollol hanfodol ein bod ni'n cefnogi'r elusen hon ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth.
Mawrth 2026 yw Mis Ymwybyddiaeth Tiwmorau’r Ymennydd ac mae pawb yn cael eu gwahodd i ymladd dros fyd lle gall pawb sy'n cael eu heffeithio gan diwmor yr ymennydd fyw bywyd hirach, gwell.
Mae hefyd yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith y mae'r elusen yn ei wneud i gefnogi pobl i fyw'n hirach ac yn well, yn ogystal â ffyrdd o gymryd rhan a chefnogi'r gymuned Tiwmorau’r Ymennydd.
The Brain Tumour Charity yw prif elusen Tiwmorau’r Ymennydd yn y byd a'r ariannwr unswydd mwyaf o ymchwil i diwmorau'r ymennydd yn fyd-eang.
Mae deng mlynedd ar hugain o gynnydd wedi dangos i'r elusen beth sy'n bosibl pan fydd cymuned yn dod at ei gilydd: mae amseroedd aros cyn diagnosio plant wedi eu haneru. Mae triniaethau arloesol wedi’u cymeradwyo. Mae yna gefnogaeth hanfodol i'r rhai sy’n cael eu heffeithio.
Nid nodi ei phen-blwydd yn 30 oed y mae’r Brain Tumour Charity ond dathlu 30 mlynedd o gynnydd, wedi'i gyrru gan ei chefnogwyr, codwyr arian, gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr, gan fyfyrio ar ba mor bell y mae wedi dod.