Sam Rowlands MS for North Wales is backing a skills and careers event being held in Connah’s Quay this week.
Mr Rowlands, a keen supporter of any schemes which help people looking for employment is his constituents to attend the event showcasing job and training opportunities available across Flintshire at Connah’s Quay Civic Centre on Wednesday, March 18, from 9.30am to 3pm.
He said:
I am pleased to promote this event which not only helps employers looking to recruit but also offers excellent opportunities for those looking for a new or a change of career.
It will also give genuine job seekers looking for a career the opportunity to talk to prospective local employers and discuss their requirements in various fields including education, healthcare, finance, retail and the healthcare and leisure industry.
It is an excellent initiative particularly for young people who will have the opportunity to meet with prospective employers and get the right advice on skills and training in various fields.
It is well worth going along to explore the wide varieties of jobs available if you either want a new career or looking for a change.
The event is open to all whether you are looking for a new job, exploring career opportunities or seeking an apprenticeship.
It will bring together more than 30 employers, training providers and educational institutions, giving attendees the opportunity to discover different career paths, apprenticeships and training courses.
You will get the chance to take part in hands-on, interactive experiences, speak directly with professionals and gain insight into the skills and qualifications needed for a wide range of roles.
Organisations from across a broad range of sectors have signed up to take part, including construction, transportation, social care, the armed forces, civil service, local government, manufacturing, and hair and beauty.
The event has been organised through a partnership between Communities for Work Plus, the Department for Work and Pensions and Careers Wales.
For more information, contact [email protected]
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad i dynnu sylw at gyfleoedd gwaith a hyfforddiant yn Sir y Fflint
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn cefnogi digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd sy'n cael ei gynnal yng Nghei Connah yr wythnos hon.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o unrhyw gynlluniau sy'n helpu pobl sy'n chwilio am waith, yn annog ei etholwyr i fynychu'r digwyddiad sy'n arddangos y cyfleoedd gwaith a hyfforddiant sydd ar gael ledled Sir y Fflint. Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Ddinesig Cei Connah ddydd Mercher, 18 Mawrth, rhwng 9.30am a 3pm.
Meddai:
"Rwy'n falch o hyrwyddo'r digwyddiad hwn sydd nid yn unig yn helpu cyflogwyr sy'n ystyried recriwtio ond hefyd yn cynnig cyfleoedd ardderchog i'r rhai sy'n chwilio am yrfa newydd neu am newid gyrfa.
"Bydd hefyd yn gyfle i geiswyr gwaith go iawn sy'n chwilio am yrfa i siarad â darpar gyflogwyr lleol a thrafod eu gofynion mewn gwahanol feysydd gan gynnwys addysg, gofal iechyd, cyllid, manwerthu a'r diwydiant gofal iechyd a hamdden.
"Mae'n fenter ardderchog, yn enwedig i bobl ifanc a fydd yn cael y cyfle i gwrdd â darpar gyflogwyr a chael y cyngor cywir ar sgiliau a hyfforddiant mewn gwahanol feysydd.
"Mae'n werth galw draw i fwrw golwg ar yr amrywiaeth eang o swyddi sydd ar gael waeth a ydych chi eisiau gyrfa newydd neu’n awyddus i newid gyrfa."
Mae'r digwyddiad yn agored i bawb – i bobl sy’n chwilio am swydd newydd, yn archwilio cyfleoedd gyrfa neu'n chwilio am brentisiaeth.
Bydd yn dod â 30 a mwy o gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau addysgol at ei gilydd, gan roi cyfle i fynychwyr ddarganfod gwahanol lwybrau gyrfa, prentisiaethau a chyrsiau hyfforddi.
Bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn profiadau ymarferol, rhyngweithiol, siarad yn uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol a chael syniad go dda o’ r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer ystod eang o rolau.
Mae sefydliadau o bob rhan o’r sectorau wedi cofrestru i gymryd rhan, gan gynnwys adeiladu, trafnidiaeth, gofal cymdeithasol, y lluoedd arfog, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, gweithgynhyrchu, a gwallt a harddwch.
Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu drwy bartneriaeth rhwng Cymunedau dros Waith a Mwy, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]