Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS supports festive crackdown on drink and drug driving

  • Tweet
Wednesday, 10 December, 2025
  • Articles
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a campaign to keep roads safe during the festive period.

Mr Rowlands is supporting North Wales Police who have launched its annual festive operation to target drink and drug driving, as part of ongoing efforts to keep roads safe during one of the busiest times of the year.

The national month-long #OpLimit campaign is now underway with police forces across Wales and the wider UK using intelligence-led tactics and local hotspot data to detect people driving under the influence of drugs or alcohol.

Mr Rowlands said:

It is a sad fact that some people do drive when they have had a drink or taken drugs and I fully support any crackdown on this sort of behaviour.

Quite apart from breaking the law driving under the influence puts lives at risk and I am happy to add my voice to ensure everyone stays safe on our roads this Christmas.

The consequences of being convicted of drink or drug driving and losing your licence are huge and I would urge everyone not to get behind the wheel while under the influence.

Led by the Roads Crime Unit, officers from across local policing teams, the Armed Policing Unit, and the Special Constabulary will take part in day-and-night operations.

Sergeant Emma Birrell, of North Wales Police’s Roads Crime Unit, said: 

We have a zero-tolerance approach to drink and drug driving all year round, but our December campaign will see us conducting extensive patrols across the region. This includes targeting hotspot areas and conducting intelligence-led stops.

We are committed to making the roads of North Wales safer for everyone, and we will be relentless in pursuing those who risk lives by making the selfish decision to get behind the wheel whilst under the influence of drink or drugs.

The public are being urged to take a moment and think seriously about how that would affect your life; driving to work or college, childcare arrangements or school runs, socialising and visiting family.

The impact of losing your licence is enormous. You could lose your job and your home. Worse still, you could injure or kill yourself or someone else. Drink or drug driving isn’t worth the risk.

She said that anyone caught faces a minimum 12- to 18-month driving ban, and urged people to think about the long-term consequences.

Sergeant Birrell added: 

We target drink and drug drivers throughout the year, and in 2025 so far, we have made 828 arrests for drink driving and 1,217 arrests for drug driving across the region. There really is no hiding place.

Don’t drive under the influence of drink or drugs — even a very small amount of drugs or alcohol can affect your ability to drive safely. Don’t let your friends and family pay the price.

Anyone with concerns can contact North Wales Police via the live chat service on the force’s website, by calling 101 (or 999 in an emergency), or anonymously through Crimestoppers on 0800 555 111.

 

Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch Nadoligaidd ar yrru dan effaith yfed a chyffuriau

Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch i gadw’r ffyrdd yn ddiogel dros yr ŵyl.

Mae Mr Rowlands yn cefnogi Heddlu Gogledd Cymru sydd wedi lansio ei ymgyrch Nadoligaidd flynyddol i dargedu gyrru dan effaith alcohol a chyffuriau, fel rhan o ymdrechion parhaus i gadw’r ffyrdd yn ddiogel yn ystod un o adegau prysuraf y flwyddyn.

Mae'r ymgyrch genedlaethol #OpLimit mis o hyd bellach ar y gweill gyda heddluoedd ledled Cymru a'r DU ehangach yn defnyddio tactegau dan arweiniad cudd-wybodaeth a data ar y llecynnau sy’n broblem yn lleol i ganfod pobl sy'n gyrru o dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.

Meddai Mr Rowlands:

Mae'n ffaith drist bod rhai pobl yn gyrru ar ôl bod yn yfed neu’n cymryd cyffuriau ac rwy'n cefnogi'n llwyr unrhyw ymgyrch i fynd i’r afael â’r math yma o ymddygiad.

Ar wahân i dorri'r gyfraith, mae gyrru dan ddylanwad yn peryglu bywydau ac rwy'n hapus i gefnogi’r ymgyrch sy’n ceisio sicrhau bod pawb yn ddiogel ar ein ffyrdd y Nadolig hwn.

Mae canlyniadau cael eich dyfarnu'n euog o yrru ar ôl yfed neu gymryd cyffuriau a cholli eich trwydded yn enfawr a byddwn yn annog pawb i beidio â chymryd y llyw o dan ddylanwad.

Dan arweiniad yr Uned Troseddau Ffyrdd, bydd swyddogion o dimau plismona lleol, yr Uned Plismona Arfog, a'r Gwnstabliaeth Arbennig yn cymryd rhan mewn gweithrediadau ddydd a nos.

Meddai’r Sarjant Emma Birrell, o Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: 

Mae gennym ni ymagwedd dim goddefgarwch at yrru ar ôl yfed a chymryd cyffuriau drwy gydol y flwyddyn, ond bydd ein hymgyrch ym mis Rhagfyr yn ein gweld yn cynnal patrolau helaeth ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys targedu ardaloedd lle mae yna broblemau mynych a stopio cerbydau ar sail cudd-wybodaeth.

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ffyrdd y Gogledd yn fwy diogel i bawb, a byddwn yn mynd ati’n ddiflino i ddal y rhai sy'n peryglu bywydau drwy wneud y penderfyniad hunanol i fynd y tu ôl i'r llyw o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i feddwl o ddifri sut y byddai hynny'n effeithio ar eu bywydau; ar yrru i'r gwaith neu'r coleg, ar drefniadau gofal plant neu hebrwng y plant i’r ysgol, ar gymdeithasu ac ymweld â’r teulu.

Mae'r effaith o golli eich trwydded yn enfawr. Gallech golli eich swydd a'ch cartref. Yn waeth byth, gallech anafu neu ladd eich hun neu rywun arall. Dydy gyrru ar ôl yfed neu gymryd cyffuriau ddim yn werth y risg.

Dywedodd fod unrhyw un sy'n cael ei ddal yn wynebu gwaharddiad gyrru o 12 i 18 mis o leiaf, ac anogodd bawb i feddwl am y canlyniadau hirdymor.

Ychwanegodd Sarjant Birrell: 

Rydyn ni’n targedu pobl sy’n gyrru ar ôl yfed a chymryd cyffuriau trwy gydol y flwyddyn, ac yn 2025 hyd yma, rydyn ni wedi gwneud 828 o arestiadau am yrru ac yfed a 1,217 o arestiadau am yrru dan ddylanwad cyffuriau ar draws y rhanbarth. Wir i chi, does yna’r unlle i guddio.

Peidiwch â gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau - gall hyd yn oed ychydig bach o gyffuriau neu alcohol effeithio ar eich gallu i yrru'n ddiogel. Peidiwch â gadael i'ch ffrindiau a'ch teulu dalu'r pris.

Gall unrhyw un sydd â phryderon gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy'r gwasanaeth sgwrsio byw ar wefan y llu, drwy ffonio 101 (neu 999 mewn argyfwng), neu yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.

You may also be interested in

Sam Rowlands MS

Sam Rowlands MS slams slow progress on solving parking problems at a North-East Wales hospital

Thursday, 5 February, 2026
Sam Rowlands AS yn beirniadu cynnydd araf o ran datrys problemau parcio mewn ysbyty yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru. All rights reserved.
Powered by Bluetree