
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging constituents to repair rather than replace their items.
Mr Rowlands, a keen supporter of encouraging recycling, is backing a campaign by Repair Café Wales urging residents in Wrexham to help promote sustainability and reducing waste this February.
He said:
This is a fantastic idea and I am delighted to support such a worthwhile initiative.
These days it is all too easy to replace rather than repair items and I am really pleased to see a campaign to encourage more people to get involved and fix things rather than just throw them away.
It is really important that we continue to reduce recycling waste and Repair Cafés offer everyone the opportunity to do their bit to help this cause.
This February, Wrexham residents are invited to pledge to repair at least one broken item- saving money, reducing waste, and supporting sustainability locally.
Pledges could include sewing on a button, patching clothes, or restoring a beloved item.
Residents are encouraged to gather any items that need repairing in February ready for the next repair café in Wrexham which takes place next month.
The next event is being held at Repair Café Wrexham on Saturday, March 8, 11am-1pm at CAIA Park Centre, Prince Charles Road, LL13 8TH.
Bring along your broken or damaged item and the volunteer repairers will try to fix it, for free. You can enjoy a cup of tea or coffee, and chat to your fellow neighbours while you wait.
Since Repair Cafe Wales launched, the initiative has helped local communities save an impressive £1 million and has fixed over 21,000 items.
The “Fix It Feb” campaign aims to further that impact by empowering even more people to fix items, reducing the need for new goods.
Phoebe, Director of Repair Cafe Wales said:
Repairing things can be simple, accessible, and rewarding. Not only does it save money and reduce waste, but it’s a great way for the local community to get together to share skills and ideas. With “Fix It Feb,” we’re showing Wales how small actions can make a big difference for the environment and our communities.
Pledge your support for “Fix It Feb” by visiting Repair Cafe Wales’ website.
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch 'Fix it Feb'
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog etholwyr i atgyweirio yn hytrach na disodli eu heitemau.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o annog ailgylchu, yn cefnogi ymgyrch gan Gaffi Trwsio Cymru yn annog trigolion Wrecsam i helpu i hyrwyddo cynaliadwyedd a lleihau gwastraff ym mis Chwefror.
Meddai:
Mae hwn yn syniad gwych ac rwy'n falch iawn o gefnogi menter mor werth chweil.
Y dyddiau hyn mae'n rhy hawdd prynu eitemau newydd yn hytrach nag atgyweirio ac rwy'n falch iawn o weld ymgyrch i annog mwy o bobl i gymryd rhan a thrwsio pethau yn hytrach na'u taflu.
Mae'n bwysig iawn ein bod ni’n parhau i leihau gwastraff ailgylchu ac mae Caffis Trwsio’n cynnig cyfle i bawb wneud eu rhan i helpu'r achos hwn.
Ym mis Chwefror eleni, gwahoddir trigolion Wrecsam i addo atgyweirio o leiaf un eitem sydd wedi torri – gan arbed arian, lleihau gwastraff, a chefnogi cynaliadwyedd yn lleol.
Gallai addewidion gynnwys gwnïo botwm, trwsio dillad, neu adfer hoff eitem.
Mae trigolion yn cael eu hannog i gasglu unrhyw eitemau sydd angen eu hatgyweirio ym mis Chwefror yn barod ar gyfer y caffi trwsio nesaf yn Wrecsam sy'n cael ei gynnal fis nesaf.
Cynhelir y digwyddiad nesaf yng Nghaffi Trwsio Wrecsam ddydd Sadwrn, 8 Mawrth, 11am-1pm yng Nghanolfan Parc CAIA, Prince Charles Road, LL13 8TH.
Dewch â'ch eitem sydd wedi torri neu wedi'i difrodi a bydd yr atgyweiriwyr gwirfoddol yn ceisio ei thrwsio, am ddim. Gallwch fwynhau paned o de neu goffi, a sgwrsio â'ch cymdogion wrth i chi aros.
Ers lansio Caffi Trwsio Cymru, mae'r fenter wedi helpu cymunedau lleol i arbed £1 miliwn ac wedi trwsio dros 21,000 o eitemau.
Nod yr ymgyrch “Fix It Feb” yw hyrwyddo'r effaith honno drwy rymuso hyd yn oed mwy o bobl i drwsio eitemau, gan leihau'r angen am nwyddau newydd.
Meddai Phoebe, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru:
Gall trwsio pethau fod yn syml, yn hygyrch ac yn werth chweil. Nid yn unig ei fod yn arbed arian ac yn lleihau gwastraff, ond mae'n ffordd wych i'r gymuned leol ddod at ei gilydd i rannu sgiliau a syniadau. Gyda “Fix It Feb,” rydyn ni’n dangos i Gymru sut y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr i'r amgylchedd a'n cymunedau.
Cefnogwch “Fix It Feb” drwy ymweld â gwefan Caffi Trwsio Cymru.