
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing the fifth annual Bersham Wheels event being held in Wrexham later this month.
The celebration of motoring and music is being held at Coleg Cambria’s Bersham site on Saturday June 21.
Mr Rowlands, who often praises the achievements and development of Coleg Cambria, said:
As Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism I am delighted to see this event being held in Wrexham once again.
Organisers are promising that the festival will be even bigger and better than ever and I am sure it will draw in visitors from far and wide.
It is great to see the vibrant city of Wrexham playing host to many different events and with the National Eisteddfod, due to take place in early August, it will certainly be kept firmly on the tourist map.
The fifth annual Bersham Wheels event is a free festival taking place on Saturday June 21, when there will be live bands, entertainment and games, trade stands, food and drink stalls and guided tours of the Bersham Road site for families and prospective students.
There will also be sports and classic cars – including a Ferrari Modena and Porsches – a pack of pristine motorcycles, epic vehicles and even military machines.
Karl Jackson, Site Lead and Assistant Principal for the £10m Institute of Technology at Bersham Road, said:
I can’t believe this is the fifth Bersham Wheels! Time flies but it has been amazing to see the event go from strength to strength, with people of all ages visiting and enjoying the cars and bikes, the music and everything else we have going on.
While the focus is on the engineering and motoring aspect there is something for everyone and this summer is no different with some of the area’s best bands and singers appearing, a selection of food and drink, and local businesses selling everything from craft items and jewellery to local produce and more.
Have your fingers crossed for sunshine! We look forward to seeing you all June 21.
Onsite parking is free. For more information or to book at stall space at Bersham Wheels, email [email protected] or call 01978 267809.
For free tickets and more information, visit Bersham Road Wheels Event Tickets, Sat, Jun 21, 2025 at 10:00 AM | Eventbrite.
Sam Rowlands AS yn cefnogi gŵyl foduro a cherddoriaeth ddi-dâl yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi'r pumed digwyddiad blynyddol Olwynion y Bers sy'n cael ei gynnal yn Wrecsam yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae'r dathliad o foduron a cherddoriaeth yn cael ei gynnal ar safle Coleg Cambria yn y Bers ddydd Sadwrn 21 Mehefin.
Meddai Mr Rowlands, sy'n aml yn canmol cyflawniadau a datblygiad Coleg Cambria:
Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rwy'n falch iawn o weld y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Wrecsam unwaith eto.
Mae'r trefnwyr yn addo y bydd yr ŵyl hyd yn oed yn fwy ac yn well nag erioed ac rwy'n siŵr y bydd yn denu ymwelwyr o bell ac agos.
Mae'n wych gweld dinas fywiog Wrecsam yn cynnal llawer o wahanol ddigwyddiadau a gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, sydd i’w chynnal ddechrau Awst, bydd yn sicr o roi Wrecsam yn gadarn ar y map twristiaeth.
Mae'r pumed digwyddiad blynyddol Olwynion y Bers yn ŵyl rhad ac am ddim sy'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn 21 Mehefin, pan fydd bandiau byw, adloniant a gemau, stondinau masnach, stondinau bwyd a diod a theithiau tywys o amgylch safle Ffordd y Bersham i deuluoedd a darpar fyfyrwyr.
Bydd yno geir chwaraeon a chlasurol hefyd - gan gynnwys Ferrari Modena a Porsche - pecyn o feiciau modur arbennig, cerbydau epig a hyd yn oed peiriannau milwrol.
Dywedodd Karl Jackson, Arweinydd Safle a Phennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg gwerth £10m ar Ffordd y Bersham:
Ni allaf gredu mai dyma bumed digwyddiad Olwynion y Bers! Mae amser yn hedfan ond mae wedi bod yn anhygoel gweld y digwyddiad yn mynd o nerth i nerth, gyda phobl o bob oed yn ymweld ac yn mwynhau'r ceir a'r beiciau, y gerddoriaeth a phopeth arall sydd gennym ni.
Er bod y ffocws ar yr agwedd beirianneg a moduro, mae rhywbeth at ddant pawb ac nid yw'r haf hwn yn wahanol gyda rhai o fandiau a chantorion gorau'r ardal yn ymddangos, detholiad o fwyd a diod, a busnesau lleol yn gwerthu popeth o eitemau crefft a gemwaith i gynnyrch lleol a mwy.
Croeswch eich bysedd am heulwen! Edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd ar 21 Mehefin.
Mae parcio ar y safle am ddim. Am ragor o wybodaeth neu i archebu stondin yn Olwynion y Bers, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01978 267809.
Am docynnau am ddim a rhagor o wybodaeth, ewch i Bersham Road Wheels Event Tickets, Sad, Jun 21, 2025 at 10:00 AM | Eventbrite.