Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for Fflint Wrecsam, is pleased to see an initiative continuing in Flint for those lost in the world of social media and websites.
Mr Rowlands, Welsh Conservative spokesperson for Education and Families, is supporting the sessions which are regularly held at Community Coffee mornings in Flint Town Hall.
He said:
I really am pleased to hear that this initiative is still continuing for people in Flint as we all know that these days more than ever we need to know more about using technology.
Most of us rely on mobile phones, ipads and laptops to keep in touch with each other and to find out information so it is great to see sessions like these by experts for those who do need help.
I welcome any events which help people to learn more about this subject and it is also a great way of meeting up with others and making new friends.
The Flintshire County Council Digital Squad will be attending certain sessions at the Community Coffee morning to help those who feel a bit lost in the world of social media and websites.
Whether you need assistance with adding or deleting contacts, navigating websites, mastering social media, or anything else related to digital technology, they’ve got you covered.
If you need support from the Digital Squad then why not attend one of the upcoming sessions. No appointment necessary – just drop by and bring your own device! on Monday June 27 between 10-12 noon.
The Coffee Morning is held every Wednesday but check dates of attendance for the Digital Squad with the Town Hall Office, 01352 734414.
Sam Rowlands AS yn cefnogi sesiynau am ddim i helpu preswylwyr i gadw i fyny â thechnoleg
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Fflint Wrecsam, yn falch o weld menter yn parhau yn y Fflint ar gyfer y rhai sydd ar goll ym myd y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau.
Mae Mr Rowlands, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Addysg a Theuluoedd, yn cefnogi'r sesiynau sy'n cael eu cynnal yn rheolaidd mewn boreau Coffi Cymunedol yn Neuadd y Dref y Fflint.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed bod y fenter hon yn dal i barhau i bobl yn y Fflint gan ein bod i gyd yn gwybod bod angen i ni ddysgu mwy am ddefnyddio technoleg.
Mae'r rhan fwyaf ohonom ni’n dibynnu ar ein ffonau symudol, ipads a gliniaduron i gadw mewn cysylltiad â'n gilydd ac i ddod o hyd i wybodaeth felly mae'n wych gweld sesiynau fel y rhain gan arbenigwyr i'r rhai sydd angen help.
Rwy'n croesawu unrhyw ddigwyddiadau sy'n helpu pobl i ddysgu mwy am y pwnc hwn ac mae hefyd yn ffordd wych o gwrdd ag eraill a gwneud ffrindiau newydd.
Bydd Sgwad Ddigidol Cyngor Sir y Fflint yn mynychu ambell sesiwn yn y Bore Coffi Cymunedol i helpu'r rhai sy'n teimlo ychydig ar goll ym myd y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau.
P'un a oes angen cymorth arnoch i ychwanegu neu ddileu cysylltiadau, llywio gwefannau, meistroli’r cyfryngau cymdeithasol, neu unrhyw beth arall sy'n gysylltiedig â thechnoleg ddigidol, fe fydd gan y tîm hwn yr holl atebion.
Os oes angen cymorth y Sgwad Ddigidol arnoch chi, beth am fynychu un o'r sesiynau sydd ar y gweill. Does dim angen apwyntiad – galwch heibio a dewch â'ch dyfais eich hun ddydd Llun 27 Mehefin rhwng 10 a hanner dydd.
Cynhelir Bore Coffi bob dydd Mercher ond holwch Swyddfa Neuadd y Dref, 01352 734414 a fydd y Sgwad Ddigidol yno.