
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a launch event for Wrexham’s Carnival of Words 2025.
Shopshire author, Diane Saxon, who writes psychological crime, is lined up for the launch event at Wrexham Library on Wednesday April 2 at 7pm.
‘Find Her Alive’ was her first novel in this genre and introduced series character DS Jenna Morgan. Diane was Longlisted for the Dagger in the Library Award 2024 and her latest book is ‘The Quiet Wife’.
Mr Rowlands, a keen supporter of encouraging people to read more books said:
I am really pleased to continue backing this major annual event taking place in the city once again and delighted to see a number of local authors supporting this wonderful literary festival.
The Wrexham Carnival of Words is being held in the city from April 25 - May 2 and apart from offering people in North Wales the opportunity to meet bestselling authors it will also highlight the continuing promotion of Wrexham as a destination venue.
It is a great event and apart from talks from different authors there are also workshops featuring story-telling, poetry and a writer’s panel, all well worth attending.
Among the many authors taking part, are Elly Griffiths, Emma Kavanagh, TM Logan, Myfanwy Alexander and Harriet Evans.
Tickets for all events can be booked online or obtained from Wrexham Library. The special Festival Ticket is available at an ‘early bird’ rate until the end of March.
The Wrexham Carnival of Words is an annual literature festival held in the city of Wrexham for one week at the end of April each year.
The festival held its first events in 2015 and celebrated its 10th birthday in 2024. It has grown in size, stature and impact from those early days and is now a regular feature on the festival scene of Wrexham County Borough.
For more information go to https://wrexhamcarnivalofwords.com/
Sam Rowlands AS yn cefnogi gŵyl lenyddol fawr yn y gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod Rhanbarthol o Senedd Cymru dros y gogledd, yn cefnogi digwyddiad lansio ar gyfer Gŵyl Geiriau Wrecsam 2025.
Bydd yr awdur o Swydd Amwythig, Diane Saxon, sy'n ysgrifennu nofelau troseddau seicolegol, yn cymryd rhan yn y digwyddiad lansio yn llyfrgell Wrecsam ddydd Mercher 2 Ebrill am 7pm.
'Find Her Alive' oedd ei nofel gyntaf yn y genre hwn a chyflwynodd gymeriad y gyfres DS Jenna Morgan. Cyrhaeddodd Diane restr hir ar gyfer y wobr Dagger in the Library 2024 a'i llyfr diweddaraf yw 'The Quiet Wife'.
Meddai Mr Rowlands sy’n frwd dros annog pobl i ddarllen mwy o lyfrau:
Rwy'n falch iawn o barhau i gefnogi'r digwyddiad blynyddol mawr hwn sy'n cael ei gynnal yn y ddinas unwaith eto ac rwy’n falch iawn o weld nifer o awduron lleol yn cefnogi'r ŵyl lenyddol wych hon.
Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn cael ei chynnal yn y ddinas rhwng 25 Ebrill a 2 Mai ac ar wahân i gynnig cyfle i bobl yn y gogledd gwrdd ag awduron poblogaidd bydd hefyd yn tynnu sylw at hyrwyddo Wrecsam fel cyrchfan.
Mae'n ddigwyddiad gwych ac ar wahân i sgyrsiau gan wahanol awduron mae yna hefyd weithdai sy'n cynnwys adrodd straeon, barddoniaeth a phanel awduron, i gyd yn brofiadau gwerth mynd iddynt.
Ymhlith yr awduron niferus sy'n cymryd rhan, mae Elly Griffiths, Emma Kavanagh, TM Logan, Myfanwy Alexander a Harriet Evans.
Gellir archebu tocynnau ar gyfer pob digwyddiad ar-lein neu o Lyfrgell Wrecsam. Mae'r Tocyn Gŵyl arbennig ar gael am bris ‘bargen gynnar’ tan ddiwedd mis Mawrth.
Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn ŵyl lenyddiaeth a gynhelir yn ninas Wrecsam am wythnos ddiwedd Ebrill bob blwyddyn.
Cynhaliodd yr ŵyl ei digwyddiadau cyntaf yn 2015 a dathlodd ei phen-blwydd yn 10 oed yn 2024. Mae wedi tyfu o ran maint, statws ac effaith o'r dyddiau cynnar hynny ac mae bellach yn nodwedd reolaidd ar yr amserlen o wyliau sy’n digwydd yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Am ragor o wybodaeth ewch i https://wrexhamcarnivalofwords.com/cy/homewelsh/