
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a parent’s action group who are planning a protest march over plans to close their school in Mold.
Mr Rowlands, who is totally against the proposals, will be joining protestors this Saturday as they march from the school to the Daniel Owen Centre to highlight their campaign to save St David’s Catholic Primary School from closure.
This week Flintshire County Council was due to open a consultation into its plans to close four schools and merge them into one 'superschool' for pupils aged 3-18 from 2026 to 2029. They include St Anthony's Catholic Primary in Saltney, St David's in Mold, St Richard Gwyn Catholic High School and St Mary's in Flint.
He said:
I share the concern for this controversial proposal and I am determined to support my constituents who would be affected by such a plan and urge people to come and join us on the protest march.
I recently met with Emma Baker, Chair of Governors, at St David’s in Mold, who spoke to me about her frustrations over the proposals to close the school.
It is a real shame when local communities have to resort to these sort of measures just to get their voices heard and I hope everyone affected will make sure they take part in the consultation.
It has already been reported in the local press that TV personality, Paddy McGuinness is supporting a campaign to keep St Anthony’s open in Saltney and I echo his sentiments.
It is extremely sad to hear about any plans for schools closing as it also affects the livelihoods of teachers, staff, and many local businesses which depend on the school community.
I am also a firm believer in keeping schools local and I do not think merging four local schools into one “superschool” is the right way forward.
As part of the Council’s school modernisation programme, investment has been identified in partnership with the Catholic Diocese of Wrexham and Welsh Government. The proposal would amalgamate several schools and create a new a school.
Following an assessment of all existing sites, the proposed new school will be developed on the existing sites of St Richard Gwyn and St Mary’s in Flint.
The consultation was due to open on April 28 and will run until June 9.
Sam Rowlands AS yn cefnogi gorymdaith i brotestio yn erbyn cau ysgol yn y Gogledd-ddwyrain
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi grŵp gweithredu yn cynnwys rhieni sy’n cynllunio gorymdaith i brotestio yn erbyn cynlluniau i gau eu hysgol yn yr Wyddgrug.
Bydd Mr Rowlands, sy’n gwrthwynebu’r cynigion yn llwyr, yn ymuno â phrotestwyr ddydd Sadwrn wrth iddynt orymdeithio o’r ysgol i Ganolfan Daniel Owen er mwyn tynnu sylw at eu hymgyrch i achub Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant rhag cau.
Yr wythnos hon, roedd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau ymgynghoriad ar ei gynlluniau i gau pedair ysgol a’u huno yn un ysgol fawr i ddisgyblion 3-18 oed rhwng 2026 a 2029. Mae’r ysgolion yn cynnwys Ysgol Gynradd Gatholig Sant Anthony yn Saltney, Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn yr Wyddgrug, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn ac Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn y Fflint.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy’n rhannu’r pryder ynghylch y cynnig dadleuol hwn ac rwy’n benderfynol o gefnogi fy etholwyr a fyddai’n cael eu heffeithio gan gynllun o’r fath, ac rwy’n annog pobl i ymuno â ni ar yr orymdaith brotestio.
Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod ag Emma Baker, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Dewi Sant yn yr Wyddgrug, a soniodd wrthyf am ei rhwystredigaeth ynghylch y cynigion i gau’r ysgol.
Mae’n drueni mawr pan mae’n rhaid i gymunedau lleol ddefnyddio camau fel hyn i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb a fydd yn cael eu heffeithio yn sicrhau eu bod yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Adroddwyd yn y wasg leol eisoes fod y seren deledu, Paddy McGuinness, yn cefnogi ymgyrch i gadw Ysgol Sant Anthony yn Satlney ar agor ac rwy’n adleisio ei deimladau.
Mae’n drist iawn clywed am unrhyw gynlluniau i gau ysgolion, gan fod hyn hefyd yn effeithio ar fywoliaeth athrawon, staff, a llawer o fusnesau lleol sy’n dibynnu ar gymuned yr ysgol.
Rydw i hefyd yn credu’n bendant mewn cadw ysgolion yn lleol a dydw i ddim yn credu mai uno pedair ysgol leol yn un ysgol fawr yw’r ffordd iawn ymlaen.
Fel rhan o raglen moderneiddio ysgolion y Cyngor, cafwyd hyd i fuddsoddiad mewn partneriaeth ag Esgobaeth Gatholig Wrecsam a Llywodraeth Cymru. Byddai’r cynnig yn uno sawl ysgol ac yn creu ysgol newydd.
Yn dilyn asesiad o’r holl safleoedd presennol, bydd yr ysgol newydd arfaethedig yn cael ei datblygu ar safleoedd presennol Ysgol Sant Richard Gwyn ac Ysgol y Santes Fair yn y Fflint.
Roedd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 28 Ebrill a bydd yn para tan 9 Mehefin.