Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS supports more new flexible courses at a North Wales College

  • Tweet
Monday, 12 January, 2026
  • Local News
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has praised Coleg Cambria for launching more new flexible higher education courses

The college, with campuses in Deeside, Northop, Llysfasi and Wrexham, continues to transform the landscape of further and higher education with the expansion of its HN Flex model – an innovative, bitesize and accessible approach to learning designed for people who want to study around their busy lives.

Mr Rowlands, a keen supporter of the college said:

I am really pleased to see Coleg Cambria yet again building on its success and offering more courses which are flexible and allow people to study at their own convenience.

I am a great admirer of the college and its achievements and delighted to see the Higher National Flex model being extended following the HN Flex in Business which was unveiled at Northop earlier this year.

As Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism I am also happy to see that there will also be a HN Flex in Hospitality Management available in the new year.

Coleg Cambria is a leading education provider with campuses across North Wales and it is great to see even more innovation taking place there.

Developed in partnership with Pearson, the HN Flex model allows learners to study selected units at their own pace while receiving expert support from tutors.

The qualifications hold the same academic recognition and employer credibility as traditional Higher Nationals, but with the freedom and accessibility modern learners need. Learners can study at their own pace, supported by Cambria’s expert staff across its campuses in Wrexham, Deeside and Northop.

Emma Hurst, Dean of Access and Higher Education at Cambria University Centre said: 

HN Flex is a trailblazing step for further and higher education in Wales. We know that life doesn’t pause for education, and our learners shouldn’t have to choose between personal responsibilities and professional development.

HN Flex empowers people to study when and where it works for them – with high-quality teaching, recognised qualifications, and real career progression opportunities.

Among the new qualifications launching in 2026 are HN Flex – Cyber Security Level 4; HN Flex – Innovation and Digital Transformation Level 4; HN Flex – Professional Practice in the Digital Economy, and HN Flex – Programming Level 4. Courses in Construction and Hospitality Management will also be introduced in the new year.

The programmes build on the principles introduced by the first HN Flex in Business course, which gave learners the option to take bitesize, stackable units that can be built toward a full qualification.

Funding support is available for eligible learners through regional Employer Skills programmes.

 

Sam Rowlands AS yn cefnogi mwy o gyrsiau hyblyg newydd mewn Coleg yn y Gogledd

Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi canmol Coleg Cambria am lansio mwy o gyrsiau addysg uwch hyblyg newydd

Mae'r coleg, sydd â champysau yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain, Llysfasi a Wrecsam, yn parhau i drawsnewid tirwedd addysg bellach ac uwch drwy ehangu ei fodel HN Flex – dull dysgu arloesol, cryno a hygyrch  ar gyfer pobl sydd eisiau astudio o amgylch eu bywydau prysur.

Meddai Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd o'r coleg:

Rwy'n falch iawn o weld Coleg Cambria yn adeiladu ar ei lwyddiant unwaith eto ac yn cynnig mwy o gyrsiau sy'n hyblyg ac yn caniatáu i bobl astudio fel sy’n gyfleus iddyn nhw.

Rwy'n edmygu’r coleg a'i gyflawniadau yn fawr ac rwy’n falch iawn o weld y model Higher National Flex yn cael ei ymestyn yn dilyn HN Flex mewn Busnes a ddatgelwyd yn Llaneurgain yn gynharach eleni.

Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rydw i hefyd yn falch o weld y bydd HN Flex mewn Rheoli Lletygarwch ar gael yn y flwyddyn newydd.

Mae Coleg Cambria yn ddarparwr addysg blaenllaw sydd â champysau ledled y Gogledd ac mae'n wych gweld hyd yn oed mwy o arloesi yn digwydd yno.

Mae’r model HN Flex, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Pearson, yn caniatáu i ddysgwyr astudio unedau dethol ar eu cyflymder eu hunain a chael cymorth arbenigol gan diwtoriaid.

Mae gan y cymwysterau yr un gydnabyddiaeth academaidd a hygrededd cyflogwyr â chymwysterau Cenedlaethol Uwch traddodiadol, ond gyda'r rhyddid a'r hygyrchedd sydd eu hangen ar ddysgwyr modern. Gall dysgwyr astudio ar eu cyflymder eu hunain, gyda chefnogaeth staff arbenigol Cambria ar draws ei gampysau yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a Llaneurgain.

Meddai Emma Hurst, Deon Mynediad ac Addysg Uwch yng Nghanolfan Prifysgol Cambria: 

Mae HN Flex yn gam arloesol ar gyfer addysg bellach ac uwch yng Nghymru. Rydyn ni’n gwybod nad yw bywyd yn aros y ei unfan ar gyfer addysg, ac ni ddylai ein dysgwyr orfod dewis rhwng cyfrifoldebau personol a datblygiad proffesiynol.

Mae HN Flex yn grymuso pobl i astudio pryd a ble sy'n gweithio iddyn nhw – gydag addysgu o ansawdd uchel, cymwysterau cydnabyddedig a chyfleoedd dilyniant gyrfa go iawn.

Ymhlith y cymwysterau newydd sy'n cael eu lansio yn 2026 mae HN Flex - Seiberddiogelwch Lefel 4; HN Flex – Arloesi a Thrawsnewid Digidol Lefel 4; HN Flex – Ymarfer Proffesiynol yn yr Economi Ddigidol, a HN Flex – Rhaglennu Lefel 4. Bydd cyrsiau mewn Adeiladu a Rheoli Lletygarwch hefyd yn cael eu cyflwyno yn y flwyddyn newydd.

Mae'r rhaglenni'n adeiladu ar yr egwyddorion a gyflwynwyd gan y cwrs HN Flex mewn Busnes cyntaf, a roddodd yr opsiwn i ddysgwyr gymryd unedau bach y gellir eu pentyrru, gan adeiladu tuag at gymhwyster llawn.

Mae cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr cymwys drwy raglenni Sgiliau Cyflogwyr rhanbarthol.

You may also be interested in

Sam Rowlands MS

Sam Rowlands MS slams slow progress on solving parking problems at a North-East Wales hospital

Thursday, 5 February, 2026
Sam Rowlands AS yn beirniadu cynnydd araf o ran datrys problemau parcio mewn ysbyty yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru. All rights reserved.
Powered by Bluetree