Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for Fflint Wrecsam, has welcomed the introduction of a new degree designed to support the next generation of education and child development professionals at Coleg Cambria.
From September the college, based in Deeside, Northop, Llysfasi and Wrexham, will be offering a BA (Hons) Childhood and Adolescent Studies programme, at the Northop campus.
Mr Rowlands, Welsh Conservative spokesperson for Education and Families and a keen supporter of the college said:
I am really pleased to see Coleg Cambria yet again building on its success and offering a course which will enable students to gain more knowledge and understanding about child development.
I am a great admirer of the college and its achievements and pleased to see the introduction of this new degree course as these days more than ever there is greater awareness on the needs of young children.
As a parent myself and Welsh Conservative spokesperson for Education and Families it is particularly welcome.
The new BA (Hons) Childhood and Adolescent Studies programme will equip students with the knowledge and practical understanding needed to support young people from early childhood through to adolescence.
Accredited by Wrexham University, the three-year qualification reflects growing demand for skilled practitioners who understand the diverse experiences of children and teenagers, including mental health, wellbeing, additional learning needs and the transition into adulthood.
Available full-time, one day a week on campus, the programme has been designed to be accessible for both school leavers progressing from Level 3 qualifications and mature students already working in education settings, such as teaching assistants, support staff and practitioners looking to gain a degree and progress their careers.
Hannah Roberts, Programme Leader for BA (Hons) Childhood and Adolescent Studies and a former primary school teacher with more than 10 years of experience in education, said the qualification reflects the changing realities facing children, young people and professionals working with them.
Existing learners on the college's BA Childhood Studies course will transfer onto the new programme in their second year, while new starters will benefit from an expanded curriculum that explores childhood through to adolescence, with a stronger focus on young people up to the age of 18.
Modules have been designed to reflect the diversity and breadth of the sector, offering students opportunities to explore subjects relevant to careers in teaching, speech and language support, play therapy, family support services, social services and lifelong learning.
The programme provides a strong academic and professional foundation for future success, whether students are progressing into teaching, leadership roles in education, or further postgraduate study.
Sam Rowlands AS yn cefnogi cymhwyster newydd yng Ngholeg Cambria
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Fflint Wrecsam, wedi croesawu cyflwyno gradd newydd sydd wedi’i chynllunio i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol addysg a datblygiad plant yng Ngholeg Cambria.
O fis Medi ymlaen, bydd y coleg, sydd â safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain, Llysfasi a Wrecsam, yn cynnig rhaglen BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod a Llencyndod, ar gampws Llaneurgain.
Dywedodd Mr Rowlands, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg a Theuluoedd a chefnogwr brwd y coleg:
Rwy’n falch iawn o weld Coleg Cambria unwaith eto yn adeiladu ar ei lwyddiant ac yn cynnig cwrs a fydd yn galluogi myfyrwyr i ennill mwy o wybodaeth a dealltwriaeth am ddatblygiad plant.
Rwy’n edmygu’r coleg a’i gyflawniadau yn fawr ac yn falch o weld cyflwyno’r cwrs gradd newydd hwn gan fod angen mwy o ymwybyddiaeth o anghenion plant ifanc heddiw yn fwy nag erioed.
Fel rhiant fy hun a llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Addysg a Theuluoedd, mae croeso arbennig i’r cwrs hwn.
Bydd y rhaglen newydd BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod a Llencyndod yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ymarferol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gefnogi pobl ifanc o blentyndod cynnar hyd at lencyndod.
Wedi’i achredu gan Brifysgol Wrecsam, mae’r cymhwyster tair blynedd yn adlewyrchu’r galw cynyddol am ymarferwyr medrus sy’n deall profiadau amrywiol plant a phobl ifanc yn eu harddegau, gan gynnwys iechyd meddwl, llesiant, anghenion dysgu ychwanegol a phontio i fyd oedolion.
Ar gael yn llawn amser, gyda myfyrwyr yn treulio un diwrnod yr wythnos ar y campws, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i fod yn hygyrch i fyfyrwyr sy’n gadael ysgol sy’n symud ymlaen o gymwysterau Lefel 3 a myfyrwyr hŷn sydd eisoes yn gweithio mewn lleoliadau addysg, megis cynorthwywyr dysgu, staff cymorth ac ymarferwyr sy’n dymuno ennill gradd a chamu ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Dywedodd Hannah Roberts, Arweinydd Rhaglen y BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod a Llencyndod a chyn-athrawes ysgol gynradd gyda 10 mlynedd a mwy o brofiad mewn addysg, fod y cymhwyster yn adlewyrchu’r realiti newidiol sy’n wynebu plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw.
Bydd dysgwyr presennol ar gwrs BA Astudiaethau Plentyndod y coleg yn trosglwyddo i’r rhaglen newydd yn eu hail flwyddyn, tra bydd dechreuwyr newydd yn elwa ar gwricwlwm estynedig sy’n archwilio plentyndod hyd at lencyndod, gyda ffocws cryfach ar bobl ifanc hyd at 18 oed.
Mae’r modiwlau wedi’u cynllunio i adlewyrchu hyd a lled y sector, gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio pynciau sy’n berthnasol i yrfaoedd mewn addysgu, cymorth iaith a lleferydd, therapi chwarae, gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau cymdeithasol a dysgu gydol oes.
Mae’r rhaglen yn darparu sail academaidd a phroffesiynol gref ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol, p’un a yw myfyrwyr yn symud ymlaen i addysgu, rolau arwain mewn addysg, neu astudiaethau ôl-raddedig pellach.