Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to back a food and drink festival in his region.
Mr Rowlands, Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism, is urging the public to support next month’s upcoming Llangollen food festival.
He said:
Everybody knows I am a big supporter of promoting tourism in North Wales and I am always delighted to see the return of this extremely popular food festival which brings thousands of food lovers to the area.
The highly successful Llangollen Food Festival returns to the area on October 11 and 12 with chef demonstrations, tastings and live music on the day.
It is fantastic to see North Wales hosting this again as it is a great opportunity not only to bring communities together but it gives local producers a chance to show their wares to the public and visitors alike.
As chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism, I believe they are a great way to promote our towns as tourist destinations on North Wales and encourages more visitors who spend money to help the local economy.
The Llangollen Food Festival, which also offer live music throughout days, is held across several venues in the town over the weekend of October 11 and 12 from 10-5pm and features over 80 stalls.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad bwyd a diod poblogaidd a fydd yn cael ei gynnal yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi gŵyl bwyd a diod yn ei ranbarth.
Mae Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, yn annog y cyhoedd i gefnogi gŵyl fwyd Llangollen a fydd yn cael ei chynnal fis nesaf.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod fy mod i wrth fy modd yn hyrwyddo twristiaeth yn y Gogledd ac rydw i bob amser yn falch iawn o weld yr ŵyl fwyd hynod boblogaidd hon yn dychwelyd - mae'n denu miloedd o bobl sy'n hoff o fwyd i'r ardal.
Mae Gŵyl Fwyd hynod lwyddiannus Llangollen yn dychwelyd i'r ardal ar 11 a 12 Hydref gydag arddangosiadau gan gogyddion, cyfleoedd i flasu a cherddoriaeth fyw ar y dydd.
Mae'n wych gweld y Gogledd yn cynnal yr ŵyl hon eto gan ei bod yn gyfle gwych i ddod â chymunedau at ei gilydd ac yn gyfle i gynhyrchwyr lleol ddangos eu nwyddau i'r cyhoedd ac i ymwelwyr.
Fel cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rwy'n credu ei bod yn ffordd wych o hyrwyddo ein trefi fel cyrchfannau twristiaid yn y Gogledd, gan ddenu rhagor o ymwelwyr i wario arian a helpu'r economi leol.
Mae Gŵyl Fwyd Llangollen, sydd hefyd yn cynnig cerddoriaeth fyw drwy gydol y dydd, yn cael ei chynnal mewn sawl lleoliad yn y dref dros benwythnos 11 a 12 Hydref rhwng 10-5pm ac mae'n cynnwys dros 80 o stondinau.